Byddai datganoli’r system gyfiawnder i Gymru yn gyfle i leihau faint o bobol sydd mewn carchardai, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Mae dedfrydau byr o garchar yn “wrthgynhyrchiol” a fydden nhw ddim yn cael eu defnyddio mor aml pe bai’r system yn cael ei datganoli, meddai Mick Antoniw AoS wrth drafod manteision opsiynau gwahanol i garcharu troseddwyr.

Byddai’n bosib ail-fuddsoddi’r swm “afresymol” o arian sy’n cael ei wario ar garchardai mewn meysydd fel rhaglenni triniaeth, meddai.

Cafodd ei sylwadau eu gwneud yn ystod araith yng ngynhadledd flynyddol Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru yn y Drenewydd heddiw (dydd Mercher, Mai 10).

Yno, cyfeiriodd Mick Antoniw at y gwaith sydd ar y gweill i wella’r system gyfiawnder dan y setliad cyfansoddiadol presennol, gan gynnwys gwaith i sicrhau y gall pobol yn y carchar fyw mewn amgylchedd sy’n hybu iechyd a lles.

Mae’r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder yn un sydd “wedi’i phrofi”, meddai yn y gynhadledd.

Byddai trosglwyddo’r cyfrifoldeb yn caniatáu mwy o bwyslais ar ymdrin â chyfiawnder drwy ddull sy’n seiliedig ar hawliau, gyda’r pwyslais ar atal yn lle dedfrydu.

‘Ailfuddsoddi’r arian’

Wrth amlinellu elfennau craidd system gyfiawnder ddatganoledig bosib, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol mai’r gwahaniaeth mwyaf o gymharu â’r sefyllfa bresennol fyddai gweithio i leihau poblogaeth carchardai.

“Yn benodol, byddem yn gwneud hyn drwy ddefnyddio dedfrydau byr – yr ydym wedi gweld eu bod yn wrthgynhyrchiol – i raddau llawer llai,” eglurodd.

“Byddem yn mynd ar drywydd dewisiadau yn lle carcharu, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth yn sgil camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

“Mae carchardai’n hynod ddrud i’w rhedeg, hyd yn oed cyn ichi ystyried y gost ddynol.

“Pe gallem gyflawni arbedion drwy leihau poblogaeth carchardai, gellid ail-fuddsoddi’r arbedion hynny mewn rhaglenni triniaeth, neu mewn gwella cymorth cyfreithiol, neu pwy a ŵyr beth arall.”

‘Atal troseddu’

Ond o ran lleihau poblogaeth carchardai, nid dedfrydu yw’r unig fater na’r prif fater, ychwanegodd.

“A daw hyn â mi at fy sylw olaf a phwysicaf ynghylch sut y byddai system gyfiawnder i Gymru yn wahanol,” meddai wedyn.

“I ni, nid yw cyfiawnder yn ymwneud â chyfreithiau, llysoedd a chosbi. Mae’n ymwneud â phobol, teuluoedd a chymunedau. Does dim modd ei ystyried na’i gyflawni fel mater sy’n gwbl ar wahân i gyfiawnder cymdeithasol – sef trechu tlodi, anghydraddoldeb, tai, addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, ac yn y blaen.

“Hyd nes y byddwn yn deall hyn, ni fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi i gynifer o’n dinasyddion fynd ynghlwm yn y system gyfiawnder a dod yn ddibynnol arni.

“Ni fydd y system ei hun yn gallu mynd ati’n briodol ychwaith i ddarparu ymateb sy’n ceisio ymdrin â’r problemau hyn a gwella canlyniadau i unigolion ac i’n cymdeithas yn gyffredinol.

“Felly, drwy ddatganoli, gallem ganolbwyntio’n wirioneddol ar atal troseddu yn yr oedran pan fo cyfleoedd bywyd pobl wedi eu pennu leiaf ymlaen llaw – gan weithio gyda phlant a rhieni, gydag ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, a phawb sy’n gallu sicrhau bod plant ar y trywydd cywir yn gynnar yn eu bywydau.

“Ac os byddem yn sicrhau arbedion i’r system gyfiawnder drwy lwyddo i leihau troseddu, byddai hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr – byddai’r arbedion hynny’n cael eu hail-fuddsoddi yng Nghymru.”

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu cyhoeddiad ar adeiladu system gyfiawnder well i Gymru, gan archwilio’r themâu hyn yn fanylach, meddai.