Byddai Jim Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, “wedi’i siomi’n fawr” gan ddiffyg creadigrwydd datganoli yng Nghymru, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.
Fe fu’n siarad â golwg360 ar drothwy dadorchuddio’r gofeb gan Robert Thomas sydd ar fenthyg i’r Senedd o gasgliad CofGâr yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin am rai wythnosau yn unig.
Bydd y prif weinidog Mark Drakeford a’r Llywydd Elin Jones yn croesawu’r gofeb yn swyddogol i Fae Caerdydd yfory (dydd Mercher, Mai 11), gan ddathlu cyfraniad cyn-Aelod Seneddol Llanelli i fywyd gwleidyddol Cymru.
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru Simon Hart, y cyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Arglwydd Morris ac Aelod Seneddol Llanelli Nia Griffith annerch y digwyddiad, ac yn bresennol hefyd fydd Dr D Ben Rees, cofiannydd Jim Griffiths, a’r cyn-Aelod Seneddol Gwynoro Jones.
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn arddangos nifer o eitemau’n ymwneud â bywyd Jim Griffiths.
Gyrfa Jim Griffiths a’r ymgyrch
Jim Griffiths oedd Aelod Seneddol Llafur Llanelli rhwng 1936 a 1970.
Roedd e’n ffigwr blaenllaw yn yr undebau Llafur ac yn Llywydd Ffederasiwn Glowyr de Cymru.
Ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, rhwng 1964 a 1966, ar ôl sefydlu Swyddfa Cymru pan oedd Harold Wilson yn brif weinidog y Deyrnas Unedig.
Aeth Theo Davies-Lewis ati yn 2018 i ymgyrchu dros gael cofeb i Jim Griffiths yn Llanelli, tref y ddau ohonyn nhw.
“Ro’n i ym Mhrifysgol Rhydychen ac, wrth gwrs, roedd diddordeb gyda fi mewn gwleidyddiaeth a stori Jim Griffiths achos bo fi’n wreiddiol o Lanelli,” meddai’r sylwebydd gwleidyddol wrth golwg360.
“Do’n i ddim yn gallu credu fod dim lot o bobol wedi clywed amdano fe, ond fod lot o sylw i gewri yn hanes Cymru, [David] Lloyd George a Nye [Aneurin] Bevan.
“Tri chawr yr ugeinfed ganrif yng Nghymru oedd Lloyd George, Nye Bevan a Jim, a’r pwynt yw fod Jim wedi cael ei anghofio am damaid bach, a wnes i ddechrau’r ymgyrch yma i gael cerflun yn Llanelli tua phedair neu bum mlynedd yn ôl.
“Dyw hwnna ddim wedi digwydd, ond fi’n credu beth sydd wedi cael ei adlewyrchu dros y ddwy flynedd ddiwetha’ yw pa mor bwysig oedd cyfraniad Jim at ddatganoli.
“Doedden ni ddim wedi cael datganoli fel mater pwysig neu emosiynol o’r blaen.
“Y pethau roedd Nye Bevan wedi’u gwneud ynglŷn â’r Gwasanaeth Iechyd, wnaeth Jim gyfrannu at hwnna hefyd, wrth gwrs.
“Pryd rydyn ni’n meddwl am beth sy’n digwydd yng Nghymru heddi, dim ond dros y ddwy neu dair blynedd diwetha’ rydyn ni wedi sylweddoli a deall, efallai, pa mor bwysig yw e i gael datganoli.
“Dyna pam, i fi, mae linc eitha’ clir rhwng beth sy’n digwydd yn y Senedd fory a bod datganoli wedi cryfhau ym mhennau pobol dros y blynyddoedd diwetha’.
“Roedd yr ymgyrch yma flynyddoedd yn ôl, a nawr mae’r Prif Weinidog a’r Llywydd yn cyflwyno cerflun, ond dylai hwn fod wedi digwydd tua ugain mlynedd yn ôl – ond o leia’ mae’n digwydd nawr.”
Ffigwr pwysig yn hanes Cymru
“Mae lot o bobol yn sylweddoli mai Jim oedd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru yn 1964,” meddai Theo Davies-Lewis, cyn mynd yn ei flaen i ymhelaethu ar ei gyfraniad i Gymru tu hwnt i’r swydd honno.
Yn wir, mae’n dweud ei fod e’n wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’r ffigurau amlwg eraill yn y Blaid Lafur yn yr un cyfnod.
“Fe wnaeth e frwydro o fewn y Blaid Lafur, ddim jyst yng Nghymru ond dros Brydain, i wneud yn siŵr bod Ysgrifennydd Gwladol gyda ni ac fe wnaeth e gynnal y dadleuon yma gyda phobol a sceptics fel Nye Bevan yr oedd eu Cymreictod nhw’n gwbl wahanol i Gymreictod Jim Griffiths,” meddai.
“Roedd Jim yn sylweddoli fod dim lot o aelodau Llafur Cymreig yr amser hynny â’r balans yma o ddeall cefn gwlad Cymru, pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a chenedlaetholdeb ond hefyd achos bod e wedi cael cyfnod yn gweithio fel miners’ agent, roedd e yn y Ffed [Ffederasiwn y Glowyr] yn y 1930au felly roedd e’n gallu deall pethau gwahanol am Gymru.
“Doedd e ddim jyst yn one-dimensional.”
Ysgrifennydd Gwladol Cymru a datganoli – ddoe a heddiw
Yn ôl Theo Davies-Lewis, roedd un ffactor yn allweddol yn llwyddiant Jim Griffiths wrth sicrhau bod Swyddfa Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael eu creu.
“Roedd Jim yn gallu siarad gyda chynulleidfaoedd gwahanol, fi’n credu, a dyna pam roedd e’n llwyddiannus yn ennill y ddadl fewnol yn y Blaid Lafur i Gymru gael Ysgrifennydd Gwladol,” meddai.
“Hwnna oedd platfform datganoli a stori ddatganoli Cymru.”
Mae’n dadlau bod y sefyllfa erbyn heddiw, diolch i ddatganoli, yn wahanol iawn i’r 1960au. Ond sut fyddai Jim Griffiths yn ymateb i’r tirlun gwleidyddol heddiw, tybed?
“Fi’n credu byddai Jim, i raddau helaeth, wedi’i siomi’n fawr gyda sut dyn ni ddim wedi bod yn greadigol dros y blynyddoedd wrth feddwl am ddyfodol Ysgrifennydd Gwladol Cymru,” meddai.
“Ro’n i’n meddwl am amser maith fod dyfodol iddo fe, ond achos ymddygiad Simon Hart dros y ddwy flynedd diwethaf, mae lot o bobol yn dweud bod yr ymgyrch trydar #AbolishtheWelshOffice wedi dod.
“Mae aelodau’r Blaid Lafur yn dweud pethau fel hyn, a byddai Jim wedi’i siomi’n fawr am hwnna, ond y peth pwysig yw, wnaeth Jim gynnal y trafodaethau yma yn y Blaid Lafur a wnaeth e ennill y ddadl.
“A wedyn wnaeth e wneud yn siŵr ei fod e’n dweud wrth aelodau’r Blaid Lafur ond ar draws y sbectrwm gwleidyddol hefyd fod rhaid i chi frwydro dros ddyfodol Cymru i gael rhyw fath o hunanlywodraeth.
“Heb Jim, fyddai hwnna ddim wedi digwydd a fi’n gweld linc eitha’ direct rhwng gwaith Lloyd George ar ddechrau’r ugeinfed ganrif neu ychydig flynyddoedd ynghynt gyda Chymru rydd a beth roedd Jim yn gwneud, a doedd Nye Bevan ddim rili yn ffitio mewn i’r naratif yma.
“Dyma pam ei fod e mor ddiddorol a mor ddylanwadol yng Nghymru heddi.”
Pwysigrwydd cofeb i Jim Griffiths
Does dim rhaid cael cofeb i gofio rhywun, wrth gwrs, ond mae Theo Davies-Lewis yn dweud bod “rhywbeth eitha’ unigryw o weld rhywun neu rywbeth mewn person”.
Ac mae’n dweud y dylid ystyried cofeb barhaol i Jim Griffiths y tu hwnt i ychydig wythnosau’r arddangosfa hon.
“Dwi ddim yn meddwl fydd y cerflun yma yn y Senedd am fwy na dau neu dri mis, ond gobeithio bydd Aelodau o’r Senedd o’r gwahanol bleidiau yn cerdded draw ac yn gweld y cerflun yma, yn edrych arno fe ac yn meddwl fod e’n un o’r rhesymau mawr pam ein bod ni fan hyn,” meddai.
“Hwn yw’r dyn, hwn yw’r cawr wnaeth yn siŵr bod Cymru yn symud ar y llwybr tuag at hunanlywodraeth.
“A hefyd wrth gwrs, fi’n credu bydd e’n rhoi tamaid bach o ysbrydoliaeth i aelodau Plaid Cymru a’r Blaid Lafur – a gobeithio’r Blaid Geidwadol ond does dim lot o obaith o hynny – i ddeall fod y stori ddim yn gorffen gyda Jim.
“Dyw’r stori ddim yn dechrau gyda Jim Griffiths, ond roedd Jim yn deall, fel roedd Ron Davies a Rhodri Morgan yn deall, fod datganoli ddim jyst yn digwydd, ond ei fod e’n broses.
“Dyna beth rydyn ni’n deall nawr gyda’r cyhoeddiad heddiw gan Mark Drakeford ac Adam Price ynglŷn â datblygu’r Senedd.
“Mae e’n rhan o ysbryd Jim Griffiths, fi’n credu, i ddeall bo ni ddim yn stopio gyda’r Cynulliad neu Ysgrifennydd Gwladol. Dych chi’n cario ymlaen i feddwl beth sy’n gweithio i Gymru fodern yn y cyd-destun rydyn ni ynddo nawr.
“Roedd Jim yn deall hynny a bydd y gofeb, gobeithio, yn adlewyrchu hynny i bob Aelod o’r Senedd a phobol sydd yn dod i’r Senedd hefyd.”
Cofeb barhaol yn y Senedd?
“Fi yn cefnogi cadw’r gofeb yn y Senedd achos fi’n credu bydd mwy o bobol yn ei weld e fynna nag yn Sir Gâr,” meddai wedyn.
“Sa i byth wedi gweld y gofeb yma, a fi’n foi o Lanelli!
“Mae’n siom fawr, ac mae yna gyfraniad i’w wneud at addysg ac ysgolion sy’n dod i’r Senedd.
“Chi’n dod i’r Senedd, yn cerdded mewn, mae’n adeilad diddorol ond mae’n eitha’ gwag, does dim pethau’n sefyll allan.
“Mae yna ymgyrch i gael cerflun, fi’n credu, i Rhodri Morgan yng Nghaerdydd hefyd ond mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod cofeb sy’n aros yn y Senedd neu sy’n cael ei defnyddio yn y ffordd iawn, fod pobol yn gallu deall yr hanes tu ôl iddo fe.
“Fi’n gefnogol iawn i’w gadw fe yn y Senedd os ydyn ni’n gallu.”