Mae cwmni cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd a gafodd ei gyd-sefydlu gan Shayoni Lynn o India yn newid ei enw ac yn ailfrandio heddiw (dydd Mawrth, Mai 10), gan ddweud eu bod nhw eisiau rhoi Cymru ar y map byd-eang.
Yn un o’r cwmnïau amlycaf ym maes cysylltiadau cyhoeddus a gwyddorau ymddygiadol, yn ystod y pandemig maen nhw wedi helpu’r Gwasanaeth Iechyd i sicrhau bod negeseuon pwysig am iechyd cyhoeddus yn cyrraedd y cynulleidfaoedd a’r llefydd cywir, ac maen nhw bellach yn cydweithio ag asiantaethau yn Wcráin i herio’r camwybodaeth sy’n deillio o Rwsia a’r Kremlin.
Mae eu gwaith, sy’n dibynnu ar ddulliau ymchwil trylwyr, wedi arwain at y cwmni’n cael ei enwi ymhlith y 150 o brif asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig gan PR Week, ac fe enillon nhw Ymgyrch y Flwyddyn y Sector Cyhoeddus yng ngwobrau PR Moment am eu gwaith gyda’r Gwasanaeth Iechyd.
Yn ogystal â Shayoni Lynn, mae’r cwmni hefyd yn dibynnu ar arbenigedd a phrofiad David Gallagher a Stephen Waddington, sy’n cyfuno’r gwyddorau ymddygiadol, cyfathrebu strategol a dulliau o herio camwybodaeth i helpu gwledydd, a chwmnïau a sefydliadau iechyd i gyrraedd mwy o bobol ac i wella’u negeseuon er mwyn esgor ar newid.
Ar ddiwrnod yr ailfrandio, maen nhw’n cynnal “dathliad” o’r cwmnïau, a fydd hefyd yn gyfle i amlinellu eu gwaith i gleientiaid a’r diwydiant ehangach, ac i osod nifer o amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Pwy yw Shayoni Lynn?
Yn ôl Shayoni Lynn, sy’n wreiddiol o ddinas Kolkata ond a ddaeth i Gymru i astudio Newyddiaduraeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd bellach wedi ymgartrefu yma, mae’r cwmni’n falch o fod wedi’i leoli a’i wreiddio yng Nghymru.
Pan fentrodd hi i’r maes yn 2019, mae’n dweud bod ganddi “ddiffiniad academaidd” yn ei phen o’r hyn yw cysylltiadau cyhoeddus “sy’n cwmpasu llawer o wahanol elfennau o gyfathrebu strategol”.
Ond mae hi’n dweud bod cysylltiadau cyhoeddus a’i rôl yn aml yn cael ei gamddeall a’i gysylltu’n rhy agos â’r cyfryngau a’r wasg.
“Er bod y tag PR wedi bod ar ddiwedd ein henw, rydyn ni’n llawer mwy na chysylltiadau’r cyfryngau neu gysylltiadau cyhoeddus, hyd yn oed, o ran y ffordd mae’r cwmni’n tyfu a’r ffordd rydyn ni’n edrych ar ein gwasanaethau,” meddai wrth golwg360.
“Felly gollwng ‘PR’ oedd y dewis amlwg, ac mae hynny’n rhoi’r cyfle i ni adlewyrchu ar ein cynlluniau i dyfu, sy’n cynnwys sectorau newydd a meysydd lle gallwn ni helpu i ddatrys rhai o’r heriau mwyaf cymhleth heddiw, a thyfu mewn marchnadoedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig.”
Ar ôl symud o “ddinas brysur” Kolkata, dywed Shayoni ei bod hi wedi “cwympo mewn cariad â Chaerdydd a’i phobol”.
“Ar ôl dod o ddinas mor brysur a byrlymus â Kolkata, roedd Caerdydd yn ymddangos i fi’n oasis o lonyddwch, mewn gwirionedd,” meddai.
“Fe wnes i wirioneddol gwympo mewn cariad â’r ddinas, ac ro’n i’n benderfynol o beidio gadael Cymru am gyfleoedd ar ôl astudio.
“Roedd gen i bwysau ariannol, ac fe wnes i benderfyniad bryd hynny i aros yng Nghaerdydd ac edrych ar Seibrnewyddiaduraeth a meysydd cysylltiedig, ac fe wnes i benderfynu aros yng Nghaerdydd i archwilio maes cyfathrebu.
“Fe wnes i weithio am ychydig yn y sector preifat, a glanio wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd lle’r oeddwn i’n arwain ar Gyfathrebu i’r Adran Gyn-fyfyrwyr, codi arian ac, am gyfnod byr, yr adran partneriaethau strategol.”
Ond ar ôl saith mlynedd, mae’n dweud bod angen “her newydd” arni, ac a hithau’n dal i fynnu aros yng Nghaerdydd, prin oedd ei chyfleoedd ym maes cysylltiadau cyhoeddus pan darodd y pandemig.
“Ro’n i’n gwneud tipyn o siarad cyhoeddus yn y diwydiant, dw i’n Gymrawd gyda’r CIPR (Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus), felly fe wnes i lawer o siarad cyhoeddus ar bwysigrwydd data.
“Ond roedd y ceisiadau’n dechrau dod yn fwy aml, ac fe ges i gyfle i ystyried a oedd rhywbeth mwy i hyn, ac a oedd cyfle i archwilio’r diffyg ymgynghori ar gysylltiadau cyhoeddus academaidd, gwyddorau a chyfathrebu, ac fe wnes i feddwl, “Un bywyd sydd gyda fi.”
Cyfle yn sgil y pandemig
Ar ôl dychwelyd o’i gwyliau yn Japan ar ddechrau’r pandemig, roedd Shayoni Lynn wedi colli cryn dipyn o’r gwaith roedd hi wedi bod yn ei wneud cyn hynny.
“Roedd yn gyfnod nerfus, dw i’n meddwl, i fi ac i nifer o bobol eraill yn y diwydiant,” meddai.
“Ond diolch byth, roedden ni yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac fe gawson ni ein hystyried yn ateb yn wyneb y pandemig, oedd wedi dangos bod dulliau cyfathrebu traddodiadol ychydig yn llai effeithiol, efallai, a bod angen dulliau arloesol.
“Fe ddechreuon ni gydag ambell ymgyrch, yn Llundain yn bennaf, gan gynnwys un ymgyrch iechyd meddwl oedd wedi ennill gwobrau ac a arweiniodd at gynnydd o 131.5% yn nifer y bobol oedd wedi cyfeirio’u hunain at wasanaethau seicolegol.
“Fis Chwefror y llynedd, roedd pedwar o bobol ar ein tîm ni, ond nawr mae 30 ac mae hyn yn dangos ein twf ni.
“Fis yma, cawson ni ein cynnwys ar restr o’r 150 o brif gwmnïau ymgynghorol y Deyrnas Unedig, mae’n gynghrair anodd i gael mewn iddi fel cwmni sydd newydd gael ei sefydlu.
“Nid yn unig wnaethon ni gyrraedd rhif 139 ar y rhestr honno, ond roedden ni hefyd yn rhif 26 o blith cwmnïau’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain.”
Helpu’r Gwasanaeth Iechyd
Sut, felly, mae cwmni bach o Gaerdydd a’u dulliau unigryw ac arloesol wedi helpu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig?
“Mae canran uchel o’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda’r Gwasanaeth Iechyd wedi bod ym maes iechyd cyhoeddus, a fydd hynny ddim yn syndod i neb,” meddai Shayoni Lynn.
“Cawson ni ein hystyried yn ddatrysiad yn ystod y pandemig, ac roedd iechyd cyhoeddus yn un maes lle’r oedden ni’n gallu cydweithio â chymunedau a chynulleidfaoedd amrywiol, a lle’r oedd angen hynny ar sefydliadau iechyd cyhoeddus.
“Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith yng Nghymru a Lloegr, ac yng Nghymru fe wnaethon ni weithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, er enghraifft.
“Daeth yr holl gleientiaid aton ni gyda phroblemau a heriau penodol, gan fynd yn ôl at y pwynt gwreiddiol hwnnw bod dulliau traddodiadol o gyfathrebu ac ymgysylltu’n methu â chyrraedd cynulleidfaoedd, yn enwedig yn ystod pandemig.
“Roedd pobol yn cael gorchymyn o ran beth i’w wneud, pryd a sut i’w wneud e.
“Roedd hi’n anodd iawn i’r negeseuon hynny barhau’n berthnasol ac yn effeithiol wrth i amser fynd yn ei flaen, felly ein gwaith ni oedd mynd i mewn a deall y cyd-destunau lleol oherwydd mae ymddygiad yn newid yn ôl y cyd-destun.
“Fe wnaethon ni waith ymchwil cynradd i ddeall sut roedd cynulleidfaoedd yn ymddwyn, beth oedd y rhwystrau a’r heriau, cyn creu ein syniad ni.
“A dw i’n meddwl mai dyna lle’r ydyn ni’n wahanol, dydyn ni ddim yn creu’r syniad creadigol, rydyn ni’n gwneud gwaith ymchwil trylwyr er mwyn adnabod ymddygiad er mwyn deall y rhwystrau ac wedyn gwneud argymhellion sydd wedi’u teilwra, ac rydyn ni’n gwybod y bydd hynny’n effeithiol.
“Hyd y gwn i, ni yw’r unig gwmni ymgynghorol yn y Deyrnas Unedig ym maes cyfathrebu sydd wedi ymgorffori arbrofion yn ein hymgyrchoedd, ac wedi cynnal arbrofion ar hap er mwyn deall a fydd ein harbrofion yr un mor llwyddiannus wrth iddyn nhw gynyddu mewn maint.
“Y peth diwethaf roedden ni ei eisiau yng nghanol pandemig gyda chymaint o straen ar gyfathrebwyr a sefydliadau oedd creu syniad oedd ddim yn llwyddo, felly mae ein cyfnod arbrofi’n cynnig cyfle i ni ddweud yn hyderus wrth gleientiaid ein bod ni’n teimlo y bydd e’n llwyddo, a pham.
“Bydd ymddygiad yn newid drwy’r amser, a dyna pam ein bod ni’n dadansoddi a monitro ymgyrchoedd o hyd ac o hyd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n parhau i fod yn effeithiol drwy gydol yr ymgyrch.”
Wcráin a chamwybodaeth o’r Kremlin
Yn fwyaf diweddar, mae’r cwmni wedi bod yn cydweithio ag asiantaethau sy’n brwydro yn erbyn camwybodaeth gan Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, a’r Kremlin am y rhyfel yn Wcráin.
Ond unwaith eto, mae’n codi’r cwestiwn sut wnaeth cwmni bach o Gaerdydd ymrwymo i weithio ar un o straeon byd-eang mwya’r flwyddyn.
“Pan ddechreuodd y rhyfel, fe wnaeth e effeithio pawb yn fawr iawn, ac ro’n i a fy nhîm yn teimlo bod angen i ni wneud rhywbeth,” meddai Shayoni Lynn.
“Roeddwn i’n gwybod ein bod ni, wrth lansio yn 2019, wedi rhedeg cell gamwybodaeth benodol gynta’r Deyrnas Unedig ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.
“Roeddwn i’n gwybod y gallen ni greu rhywbeth amlwg iawn, a bod modd i ni roi rhywbeth yn ôl a chefnogi cydweithwyr yn Wcráin.
“Roedd yna alwad ar y cyfryngau cymdeithasol gan Francis Ingham, cyfarwyddwr cyffredinol y PRCA (y Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu) oedd yn cydlynu’r peth.
“Fe ddechreuodd e fel dull llawr gwlad yn llwyr yn yr ystyr bod modd cynnig cymorth pro bono rhad ac am ddim i gydweithwyr yn Wcráin, ac fe wnes i godi fy llaw a dweud ein bod ni yma i wneud beth bynnag oedd ei angen.
“Des i i gysylltiad â thîm cyfathrebu oedd yn rhedeg y cyfathrebu o’r rhyfel yn Kyiv, sef asiantaeth oedd wedi cael ei symud ar frys i’r Swyddfa Dramor.
“Fe wnaethon ni ddarparu cyfathrebu a chyngor strategol pro bono, gan gydlynu’r cyfan ar ran cyfathrebwyr sector cyhoeddus oedd angen cefnogaeth.
“Yn bennaf oll, roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, felly fe wnaeth y gell gamwybodaeth fy nhynnu i i mewn.
“Fe wnaethon ni redeg rhaglen ymateb i’r naratif, gan edrych ar gamwybodaeth oedd yn dod allan o’r Kremlin a’i dadansoddi er mwyn adnabod dulliau o ledaenu camwybodaeth.
“Yn seiliedig ar fethodoleg mewnol gyda chleientiaid, roedden ni’n gallu adnabod a herio’r dulliau hynny er mwyn cael effaith ar gynulleidfaoedd, nid yn unig cyfathrebwyr ond cynulleidfaoedd cyffredin.
“Oherwydd, yn aml iawn, nid trwy ffeithiau moel mae brwydro yn erbyn gwybodaeth ffals, ond trwy ennyn ymddiriedaeth ddyfnach, felly aethon ni ati i greu adroddiad a set o argymhellion y gallai cyfathrebwyr, newyddiadurwyr a gwneuthurwyr polisi eu defnyddio er mwyn canfod camwybodaeth o’r Kremlin.
“Wedi hynny, fe wnaethon ni lunio adroddiadau cudd-wybodaeth am gamwybodaeth oedd yn edrych ar sut roedd gwybodaeth oedd yn dod o’r Kremlin yn cael effaith ar diriogaethau’n nes at adref, hynny yw grwpiau asgell dde’r Deyrnas Unedig a sut roedden nhw’n defnyddio camwybodaeth er eu lles nhw eu hunain, a beth oedd hynny’n ei olygu i ddemocratiaeth yma yn y Deyrnas Unedig.
“Cafodd yr adroddiadau hynny eu lawrlwytho bron i 4,000 o weithiau a’u cylchredeg ar draws y byd, ac fe wnaethon nhw ymddangos yn Wcráin a Rwsia, ac rydyn ni wedi clywed bod unigolion yn defnyddio’r adroddiadau hynny ac fe gawson ni gydnabyddiaeth yn Wcráin am ba mor ddefnyddiol oedden nhw ym maes cyfathrebu a’r rhyfel oherwydd nid rhyfel ar lawr yn unig yw hwn, ond rhyfel gwybodaeth.
“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni wedi cyrraedd Dubai, a’n bod ni’n cael ein defnyddio i ddysgu gwersi yma yn y Deyrnas Unedig.
“Mae’n dangos sut mae modd ymateb i gamwybodaeth mewn ffordd lawer mwy strategol i fynd â grym oddi wrth yr unigolion hynny sydd yn fwriadol yn rhannu camwybodaeth.”
‘Taith wallgof’
Dywed Shayoni Lynn fod blynyddoedd y pandemig wedi bod yn “daith wallgof” i’r cwmni, a bod yr ailfrandio’n “eiliad bwysig” iddyn nhw.
“Mae hwn wedi bod ar y gorwel ers amser hir, ac mae’n gyfle gwirioneddol i rannu gyda ffrindiau, cefnogwyr, cleientiaid a’r cyfryngau i ddathlu o le ddaethon ni,” meddai.
“Rydyn ni’n teimlo’n falch iawn fel cwmni o fynd â Chymru allan i’r byd mewn rhyw ffordd, ac i allu cynrychioli Cymru ar draws y Deyrnas Unedig ac ar y llwyfan byd-eang.
“Rydyn ni’n teimlo balchder eithriadol fel busnes o Gymru sydd â’n pencadlys yng Nghymru, ac mae’n gyfle i ddathlu’r llwyddiannau rydyn ni wedi’u cael, diolch i bartneriaethau â’n cleientiaid, y cyfryngau, cydweithwyr a ffrindiau, yn ogystal â gwaith caled Tîm Lynn, ac i rannu gyda phawb y cynlluniau er mwyn i ni dyfu oherwydd rydyn ni’n credu’n gryf fod ein cynllun i ddefnyddio strategaethau cadarn ym maes gwyddorau ymddygiadol, camwybodaeth ac integreiddio hynny gyda dulliau cyfathrebu a chreadigrwydd yn gallu gwella ac achub cynifer yn rhagor o fywydau.
“Mae’n gyfle i ni rannu’r weledigaeth o ran lle’r ydyn ni’n mynd, sut rydyn ni am symud i mewn i farchnadoedd newydd, er enghraifft yr Unol Daleithiau ac India, a sut rydyn ni’n parhau i gario baner Cymru lle bynnag rydyn ni’n mynd.”