Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dathlu degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru drwy ymweld â gwirfoddolwyr a cherddwyr yn Sir Fynwy heddiw (dydd Mercher, Mai 11).

Er mwyn dathlu degawd, mae rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd sy’n dathlu’r llwybr, gan gynnwys gwyliau cerdded, heriau rhithwir a gosodiadau celf.

Mae’r llwybr 870 milltir yn tywys cerddwyr ar hyd holl arfordir Cymru, gan fynd heibio cant o draethau ac 16 castell.

Mae’r llwybr yn un o “ogoniannau Cymru ac yn un o lwyddiannau mawr datganoli”, meddai Mark Drakeford.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â rheoli’r llwybr.

“Yn enwedig y staff a’r gwirfoddolwyr, sydd allan ym mhob tywydd, yn gweithio’n galed i gynnal y llwybr i safonau mor uchel,” meddai.

“Pe bai’n rhaid i mi ddewis fy hoff ddarn o’r llwybr, byddai’r gyfran rhwng Pentywyn ac Amroth yn dod yn agos: gan ddechrau yn fy sir enedigol, sir Gaerfyrddin, a dod i ben yn Sir Benfro.

“Efallai nad dyma’r rhan fwyaf adnabyddus o’r llwybr, ond mae’n cynnig amrywiaeth enfawr: rhai dringfeydd heriol, amrywiaeth eithriadol o flodau, cilfachau cudd a digon o ddiddordeb hanesyddol”.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar lwyddiannau’r deng mlynedd gyntaf fel y gall mwy o bobol fwynhau’r llwybr, o fwy o gefndiroedd, yn haws, a chyda mwy o fanteision i gymunedau lleol, busnesau, a’r amgylchedd.

Mae adolygiad, dan arweiniad Huw Irranca-Davies, wedi cael ei gynnal o’r Llwybr, a bydd adroddiad y grŵp wedi cael ei gyhoeddi heddiw.

Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu deg oed

Cadi Dafydd

“Weithiau does dim rhaid teithio ymhell am antur,” meddai Sarah Williams, sydd wrthi’n cerdded yr 870 milltir

Llwybr hiraf Cymru – 870 o filltiroedd! – yn dathlu’r deg

Cadi Dafydd

“Lle i ddod o hyd i dawelwch” yw Llwybr Arfordir Cymru, yn ôl cerddwr brwd sydd am annog y Cymry i wneud y mwyaf o dirlun a hanes eu gwlad

Taith i’w chofio

Rhys Russell ydy Swyddog Ymgysylltu (Llwybrau i Lesiant) Ramblers Cymru