Mae llwybr hiraf Cymru, Llwybr yr Arfordir, yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeng oed heddiw (Mai 5).

Fel rhan o’r dathliadau yn ystod 2022, mae’r anturiaethwr a sefydlydd Tough Girl Challenges, Sarah Williams, wedi ymuno â’r cyhoeddwr llyfrau tywys, Cicerone Press, i gerdded yr 870 milltir.

Dechreuodd Sarah Williams, sy’n byw ger Caer, ar y daith ar Ebrill 19, ac mae hi bellach wedi cyrraedd Pen Llŷn.

Mae’r daith hyd yn hyn wedi bod yn “drawiadol o brydferth”, meddai wrth golwg360, gan ychwanegu bod y llwybr wedi’i hatgoffa nad oes rhaid teithio’n bell i ganfod heriau.

Y gobaith yw y bydd Sarah, sydd wedi cerdded llwybrau maith mewn gwledydd fel Portiwgal, yr Unol Daleithiau, Tasmania, a Thwrci, yn cwblhau Llwybr Arfordir Cymru ar Fehefin 7.

‘Cyfle anhygoel’

Mae 2 filiwn o bobol yn dilyn podlediad Sarah Williams, Tough Girl Challenges, a bydd hi’n dogfennu’r daith 50 niwrnod mewn flog, gan ddefnyddio llyfr tywys newydd Walking the Wales Coastal Path gan Cicerone Press i’w harwain.

“Dw i’n gweithio i gwmni llyfrau tywys gwych, Cicerone, a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf dw i wedi gwneud trofeydd efo nhw fel y Camino Portugués, yr Overland Track yn Tasmainia, a thua chwe heic yn y Deyrnas Unedig efo nhw llynedd – un ohonyn nhw oedd Llwybr Arfordir Ynys Môn,” eglura Sarah Williams.

Sarah Williams

“Dywedon nhw bod Llwybr Arfordir Cymru yn ddeng oed, a’u bod nhw’n diweddaru eu llyfrau tywys fel bod ganddyn nhw argraffiad newydd yn dod allan ym mis Ebrill.

“Fe wnaethon nhw ofyn os fyswn i’n hoffi ei gerdded, a dywedais i: ‘Yn bendant’.

“Roeddwn i wedi profi Llwybr Arfordir Môn yn ystod haf 2021, ac roedd e’n hyfryd felly byddai cael y cyfle hwn i gerdded yr 870 milltir i gyd yn anhygoel.

“Mae gen i’r amser, a dw i wrth fy modd â heriau ac anturiaethau a rhannu’r teithiau hynny ag eraill felly neidiais ar y cyfle.”

‘Dim rhaid teithio ymhell’

Mae Sarah Williams yn cerdded bob diwrnod, ac mae ffrindiau, pobol leol, a’r rhai sy’n gyfrifol am gynnal y llwybr yn ymuno â hi ar rannau o’r daith.

Fe wnaeth Arry Beresford Cain, y person cyntaf i gerdded y llwybr i gyd, ymuno â hi ar gyfer rhan gyntaf y daith.

“Mae’r daith wedi bod yn hyfryd, dw i wedi arfer gwneud heriau dramor draw yn Awstralia ac America ac Ewrop a weithiau rydyn ni’n anghofio faint o harddwch sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig yng Nghymru,” meddai Sarah Williams.

“Mae’n llwyddiant anhygoel i allu cysylltu’r holl lwybrau at ei gilydd i gael un llwybr arfordirol am 870 milltir – mae’n rhyfeddol.

“Weithiau rydyn ni wedi arfer edrych ymhell, rydyn ni’n anghofio edrych ar yr hyn sydd gennym ni ar y stepen drws.

“Weithiau does dim rhaid teithio ymhell am antur.”

Y golygfeydd arfordirol yw’r uchafbwynt hyd yn hyn, meddai, yn enwedig ardal Porth Swtan yng ngogledd Ynys Môn a Nant Gwrtheyrn yn Llŷn.

“Roeddwn i wedi fy syfrdanu yn Nant Gwrtheyrn… Roedd hanner cyntaf y diwrnod yn lot o gerdded ar y ffordd, roedd yr ail hanner yn anhygoel.

“Dw i wedi bod yn ofnadwy o lwcus efo’r tywydd, awyr las braf, dw i’n meddwl mai un diwrnod o law dw i wedi’i gael.

“Mae hi wedi bod yn neis gallu rhannu’r golygfeydd hyn efo pobol achos mae e wir yn drawiadol o brydferth.”

Mae’r digwyddiadau eraill i ddathlu’r deg yn cynnwys cyhoeddi casgliad o ugain dro sy’n mynd â cherddwyr heibio henebion hanesyddol.

Mwy am y casgliad hwnnw gan Deiniol Tegid yn Golwg:

Llwybr hiraf Cymru – 870 o filltiroedd! – yn dathlu’r deg

Cadi Dafydd

“Lle i ddod o hyd i dawelwch” yw Llwybr Arfordir Cymru, yn ôl cerddwr brwd sydd am annog y Cymry i wneud y mwyaf o dirlun a hanes eu gwlad