Mae hi bron yn dair blynedd ers i’r rali dros annibyniaeth ddiwethaf gael ei chynnal yng Nghymru.
Bu miloedd o ymgyrchwyr yn gorymdeithio drwy Ferthyr Tudful ym mis Medi 2019, gan gynnwys sêr y byd rygbi a phêl-droed megis Eddie Butler a Neville Southall, a’r gantores Kizzy Crawford.
Yn ôl y trefnwyr – All Under One Banner Cymru a YesCymru – roedd 5,300 o bobl wedi ymgasglu i ddatgan eu cefnogaeth dros Gymru rydd.
Hon oedd y drydedd rali o’i math y flwyddyn honno, yn dilyn gorymdeithio yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Ac roedd tair gorymdaith wedi’u cynllunio ar gyfer 2020, ond fe’u gohiriwyd i gyd oherwydd y pandemig.
Nawr, yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach yn y flwyddyn y bydd gorymdaith dros annibyniaeth yn cael ei chynnal yn Wrecsam ar 2 Gorffennaf, mae All Under One Banner Cymru a YesCymru wedi cyhoeddi y bydd yr orymdaith yn rhan o ŵyl ehangach ‘IndyFest Wrecsam’.
Bu adroddiadau ers blwyddyn a mwy bod tref Wrecsam yn bownsho ers i ddau o sêr y byd actio, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, fuddsoddi yn y clwb pêl-droed lleol.
Ac mae trefnwyr rali YesCymru yn gobeithio elwa o hynny.
“Gallen ni’n ddim fod wedi trefnu hyn yn well gyda phopeth sydd wedi digwydd gyda’r clwb pêl-droed,” meddai Phyl Griffiths.
“Mae Wrecsam ar i fyny ac mae yna deimlad cryf iawn o Gymreictod yn y dref, felly mae e’n hollol angenrheidiol bod y bobol leol yn cymryd cyfrifoldeb am arwain ar y trefniadau ac ein bod ni wedyn yn eu cefnogi nhw.
“Ond y bobol leol wrth gwrs sy’n adnabod yr ardal, yn adnabod y bobol, y busnesau ac felly’n gallu mynd ati i greu’r rhwydwaith yma i wneud yn siŵr bod y digwyddiad yn un llwyddiannus.
“Fe gawson ni’r un math o brofiadau wrth drefnu’r rali ym Merthyr achos mae e’n esgus da iawn wedyn i ymestyn allan at y busnesau lleol a’r mudiadau lleol, ac i fesur wedyn beth yw eu teimladau nhw am annibyniaeth. Ac mae e’n ffordd dda iawn i ryngweithio ac i gydweithio gyda’r busnesau yna wedyn a rhoi sylw iddyn nhw.
“Er enghraifft, un elfen o’r rali yn Wrecsam nawr yw stondinau ar hyd y stryd gan y busnesau.
“Felly bydd cyfle ganddyn nhw i hyrwyddo eu gwaith nhw ar lwyfan sydd wedi cael ei roi iddyn nhw gan y mudiad annibyniaeth.
“Wrth gwrs mae’r digwyddiad yn fwy na rali, chwarae teg iddyn nhw yn Wrecsam, mae e’n uchelgeisiol iawn.
“Roedden nhw eisiau cynnwys ychydig bach o bopeth yn y penwythnos, doedden nhw ddim eisiau dim ond gorymdaith a dyna fe. A dw i’n credu mai dyna sydd wedi bod yn digwydd ar hyd yr amser, ein bod ni wedi datblygu a dysgu gwersi o’r gorymdeithiau blaenorol er mwyn datblygu.
“Yn sicr hwn fydd yr un mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn o bell ffordd.”
Gallwch ddarllen y stori yn llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg: