Mae niferoedd pryfed sy’n hedfan yng Nghymru wedi gostwng dros 50% mewn llai nag ugain mlynedd, yn ôl arolwg newydd.
Dangosa ymchwil Bugs Matter bod nifer y pryfed gafodd eu canfod ar blatiau rhifau ceir gan bobol dros Gymru wedi gostwng 55% rhwng 2005 a 2021.
Mae’r canfyddiadau hyn yn gyson gydag ymchwil ehangach, meddai adroddiad gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Caint a Buglife lle cyhoeddwyr yr ymchwil.
Lloegr welodd y gostyngiad mwyaf (64%), yna Cymru, ac yna’r Alban (28%).
Ni chafodd digon o arolygon eu cynnal yng Ngogledd Iwerddon i ymchwilwyr allu eu dadansoddi a dod i gasgliad.
Cafodd yr arolwg ei ysbrydoli gan ‘ffenomenon ffenestr car’ – term sy’n cael ei roi i’r syniad cyffredinol bod pobol yn gweld llai o bryfed wedi’u lladd ar ffenestri ceir nawr o gymharu ag ychydig ddegawdau yn ôl.
Cyn gwneud siwrne gyda’r car, roedd gofyn i’r gwyddonwyr lleyg oedd yn cymryd rhan lanhau eu plât rhif eu car. Ar ôl bob siwrne, roedd gofyn iddyn nhw gyfri’r pryfed oedd wedi’u lladd arno gan ddefnyddio grid ‘splatometer’ a thynnu llun.
‘Brawychus’
Dywedodd Clare Dinham, Pennaeth Cymru gydag elusen Buglife, bod yr astudiaeth “hanfodol” hon yn awgrymu bod niferoedd pryfed sy’n hedfan yn gostwng 34% bob degawd, ar gyfartaledd.
“Mae hyn yn frawychus,” meddai.
“Allwn ni ddim gohirio mwy cyn gweithredu, ar gyfer iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol mae angen ymateb gwleidyddol a chymdeithasol, mae hi’n hanfodol ein bod ni’n rhoi stop ar y dirywiad i fioamrywiaeth – nawr!”
‘Dyfodol llwm’
Dylai’r canlyniadau fod yn syndod ac yn bryder i bawb, meddai Paul Hadaway, Cyfarwyddwr Cadwraeth gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Caint.
“Rydyn ni’n gweld gostyngiad mewn pryfed sy’n adlewyrchu bygythiadau a cholled enfawr i fywyd gwyllt yn fwy eang dros y wlad.
“Mae’r gostyngiadau hyn yn digwydd yn syfrdanol o gyflym a heb weithredu pendant i fynd i’r afael â nhw rydyn ni’n wynebu dyfodol llwm.
“Mae pryfed a pheillwyr yn hanfodol i iechyd ein hamgylchedd ac ein heconomi wledig.
“Rydyn ni angen gweithredu dros fywyd gwyllt nawr drwy greu cynefinoedd mwy a mwy ohonyn nhw, darparu coridorau dros y dirwedd i fywyd gwyllt, a chaniatáu i leoliadau gwyllt adfer.”
Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr arolwg nesaf, rhwng Mehefin 1 a Awst 31, drwy lawrlwytho ap Bugs Matter.