Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn y Senedd i nodi cyfraniad y newyddiadurwr Gareth Jones, a adroddodd ar Newyn Mawr Wcráin yn y 30au.

Yn ogystal â bod yn un o’r newyddiadurwyr cyntaf i adrodd am newyn Holodomor, adroddodd y gŵr o’r Barri am densiynau yn Ewrop ynghanol y 1930au a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen.

Roedd ei ddatguddiadau am y newyn yn Wcráin, a laddodd rhwng tua 3.5 a 5 miliwn o bobol yn 1932-33 ac a oedd yn fwy angheuol yn sgil penderfyniadau a gorchmynion gwleidyddol, yn seiliedig ar ei brofiadau fel llygad-dyst ar ôl teithio i’r rhanbarth.

Cafodd Gareth Jones ei ladd gan ‘ladron’ Tsieineaidd honedig ym Mongolia Mewnol ym mis Awst 1935.

‘Cofio a chysegru’

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad ar Mai 12 i anrhydeddu cyfraniad Gareth Jones i newyddiaduraeth a materion rhyngwladol, ac i ddathlu cwblhau’r gwaith o ddigido rhan helaeth o’i archif.

Wedi’i noddi gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw AoS, bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Lubomyr Luciuk a’r newyddiadurwr Martin Shipton, ynghyd â darlleniad o ddarnau o ddyddiaduron Gareth Jones gan Julian Lewis Jones.

Dywedodd Lubomyr Luciuk, Athro Gwleidyddiaeth Daearyddiaeth yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada, bod Gareth Jones wedi talu gyda’i fywyd am ddweud y gwir.

“Y fo oedd un o’r newyddiadurwyr cyntaf i gyhoeddi’r stori am hil-laddiad Newyn Mawr 1932–1933 Wcráin Sofietaidd, yr Holodomor.

“Mae’n hanfodol cofio a chysegru ymrwymiad y Cymro yma i adrodd am erchyllterau’r hyn oedd yn digwydd, hyd yn oed wrth i’r Sofietiaid, eu cyd-deithwyr, a llywodraethau gorllewinol guddio’r gwirionedd, yn enwedig mewn cyfnod lle mae Wcráin unwaith eto yn dioddef rhyfel, ymosodiad ac agenda hil-laddiad Vladimir Putin a’i gynghreirwyr yn y KGB.”

‘Archif hynod bwysig’

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, eu bod nhw’n ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol a gafwyd gan Sefydliad Temerty, Cynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin, Sefydliad Rhyddid Sifil Canada, Consortiwm Ymchwil ac Addysg Holodomor, a Russ a Karen Chelak i ddigido archif Gareth Jones.

“Mae’n archif hynod o bwysig ac erbyn hyn yn medru cael ei rhannu gyda haneswyr ac ymchwilwyr ar draws y byd,” meddai Pedr ap Llwyd.

“Mae’n dyled ni’n fawr hefyd i deulu Gareth am adneuo’r papurau gyda ni yn y Llyfrgell.”

Mae’r archif yn cynnwys y ‘dyddiadur Hitler’ a gadwodd Gareth Jones yn ystod ei ymweliad â’r Almaen yng ngwanwyn 1933 lle mae’n disgrifio amgylchiadau byw a rhai digwyddiadau yn y wlad yn fuan ar ôl i Hitler ddod i rym.

Yn ogystal, mae chwe dyddiadur poced arall yn disgrifio ei ymweliadau â’r Undeb Sofietaidd rhwng 1931 a 1933 a disgrifiadau o newyn Holodomor.

‘Dyled Wcráin yn fawr’

Ychwanegodd Osakana Lodzuik Krywulych, Swyddog Cyffredinol Cynghrair Merched America Wcráin (UNWLA), ei bod hi’n anrhydedd bod yn un o noddwyr y gwaith i ddigido’r dyddiaduron.

“Mae’r UNWLA yn parhau i fod yn gadarn yn ei hymrwymiad i fod yn gyfrwng creu ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am yr hil-laddiad yn Wcráin, a adwaenir fel yr Holodomor,” meddai.

“Mae dyled cenedl Wcráin i Gareth Jones yn fawr – gŵr arbennig nad oedd yn ofni dweud y gwir am erchyllterau’r Holodomor.

“Mae’n haeddu cael ei anrhydeddu a’i gofio am ddogfennu’r gwirionedd a hynny pan oedd yn cael ei wadu gan nifer yn y Gorllewin.

“Mae ei adroddiadau yn arbennig o drawiadol heddiw gan fod Wcráin unwaith eto yn dioddef hil-laddiad gan yr un tramgwyddwr tra bod llygad y byd yn gwylio wrth iddo ddigwydd.”