Mae ymgeisydd yn yr etholiadau lleol, oedd wedi dweud wrth dafarnwraig yn Abertawe na fyddai e na’i deulu yn ymweld â’i thafarn eto ar ôl iddi gefnogi ymgeisydd arall, wedi amddiffyn ei sylwadau, gan ddweud y byddai wedi bod yn lletchwith iawn pe baen nhw’n cyfarfod eto.

Dywed yr ymgeisydd annibynnol Mark Tribe nad oedd ots ganddo sut fyddai Delyth Jones, tafarnwraig y Plough and Harrow yn Llangyfelach, yn bwrw ei phleidlais ond ei fod e’n teimlo’n siomedig pan gefnogodd hi’r ymgeisydd Llafur Rob Marshall ar Facebook.

Bu Mark Tribe yn gynghorydd cymuned yn Llangyfelach ers 2017, ac mae’n dweud ei fod e wedi helpu Delyth Jones yn ystod Covid.

Mewn neges ati, dywedodd e, “Del, newydd ddod ’nôl o’r Plough gyda’n cinio dydd Sul a chael peint ac wedi gweld eich cefnogaeth i Rob Marshall ar FB (Facebook).

“Dw i wedi fy siomi, a dweud y lleiaf, ar ôl yr holl gymorth a chefnogaeth dw i wedi ei roi i’r Plough dros y blynyddoedd diwethaf, hyd yn oed yn dosbarthu eich cinio i drigolion sy’n methu gyrru.

“Gallwch fod yn sicr na fydda i na’m teulu yn dod i’ch tafarn eto.”

Llafur yn feirniadol

Mae Rob Stewart, arweinydd y Cyngor sy’n cynrychioli’r Blaid Lafur, wedi beirniadu sylwadau Mark Tribe, gan ddweud y dylai cynghorwyr weithio er lles pawb yn eu cymuned, waeth pwy maen nhw’n pleidleisio drostyn nhw.

Mae’n honni bod un o drigolion eraill Llangyfelach wedi cael ymateb tebyg gan Mark Tribe, sydd wedi dweud wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fod ei neges at Delyth Jones “yn ddigon diniwed”.

“Does dim ots gyda fi o gwbl sut mae hi’n pleidleisio,” meddai.

“Mae hi i fyny iddi hi yn llwyr, ond [dw i] ddim yn dweud wrth bobol eraill am beidio â mynd i’r dafarn.

“Yn syml iawn, mae hyn oherwydd y byddai wedi bod mor lletchwith i fi a’m teulu ymweld.”

Mae’r ymgeisydd 64 oed yn dweud ei fod e’n teimlo ei fod e wedi helpu Delyth Jones gryn dipyn, gan gynnwys ei syniad i roi arwydd ar y lawnt y tu allan i’r dafarn.

“Roedden ni’n arfer mynd i’r dafarn bob dydd Sul, fe wnaethon ni gynnal cyfarfodydd yn rheolaidd ynghylch sut allwn ni wella’r pentref,” meddai.

Mae’n dweud iddo gael ei synnu gan gefnogaeth gyhoeddus Delyth Jones i Rob Marshall, a bod y teulu cyfan wedi’u synnu.

Mae’n wfftio’r awgrym fod ei sylwadau am gadw draw o’r dafarn yn fychan ei feddwl.

“Rob Stewart a Llafur Abertawe sy’n bitw, dw i’n credu, wrth geisio ymosod arna i,” meddai.

“Sylw di-ddim oedd e – ro’n i’n meddwl mai ffrind oedd hi.”

Ymateb Delyth Jones

Yn ôl Delyth Jones, roedd sylwadau Mark Tribe am beidio â mynd i’w thafarn eto am y rheswm a gafodd ei nodi’n “gwbl anghywir”.

Dywed ei bod hi’n aelod uchel ei pharch o’r gymuned ac yn berchennog busnes digon cyffredin a ddylai gael yr hawl i ddweud pwy mae hi’n eu cefnogi heb ymateb gan ymgeisydd.

“Os ydych chi’n ennill etholiad, mae angen i chi fod yn ddiduedd tuag at bawb,” meddai.

“Mae gen i’r hawl i ryddid barn.”

Dywedodd hi fod Mark Tribe wedi gwneud galwad ffôn ar ei rhan hi pan wnaeth hi ymholiadau ynghylch gosod arwydd ar y lawnt.

“Byddwn i’n disgwyl i gynghorydd cymuned fynd i helpu,” meddai.

“Ond dw i ddim ar werth.”

Ymateb Mark Tribe

Mark Tribe
Mark Tribe, ymgeisydd yn Llangyfelach, Abertawe

Mae Mark Tribe, sy’n gyn-weithiwr gyda’r Post Brenhinol ac yn gyn-ofalwr ysgol, yn dweud ei fod e wedi cael ymateb positif wrth ganfasio, gyda gollwng sbwriel, goryrru a chyflwr y ffyrdd ymhlith y blaenoriaethau sydd wedi’u crybwyll.

Mae e hefyd wedi ymateb i honiadau Rob Stewart iddo fod yn ddiamynedd ag un arall o drigolion yr ardal ar ôl iddi fod yn canfasio ar ran yr ymgeisydd Llafur.

Dywed Mark Tribe ei fod e wedi helpu’r unigolyn ac wedi derbyn neges ganddi’n ddiweddarach yn dweud ei bod hi eisiau i Lafur ennill yn Abertawe, ond na fyddai hi’n pleidleisio ac mai fe oedd yr ymgeisydd gorau dros Langyfelach.

Atebodd e gan ddweud ei fod e’n deall ei safbwynt yn llwyr, ac fe dderbyniodd e neges arall ganddi’n dweud ei bod hi wedi helpu Llafur i ganfasio a’i bod hi’n teimlo gwrthdaro mewnol ynghylch hyn ac yn gobeithio y bydden nhw’n dal yn ffrindiau.

Mi wnaeth hi annog Mark Tribe i “fynd ar eu holau nhw ym Mai”, gan ddweud nad oedd hi’n gwybod ryw lawer am Rob Marshall.

Dywed Mark Tribe ei fod e wedi dweud wrthi eto nad oedd e’n credu y byddai modd iddyn nhw aros yn ffrindiau ar Facebook, ac fe wnaeth e ei thynnu oddi ar ei restr ffrindiau.

“Unwaith eto, doedd dim bygythiadau,” meddai.

Bydd trigolion Abertawe yn dewis o blith 75 o gynghorwyr heddiw (dydd Iau, Mai 5).

Yr ymgeiswyr eraill yn Llangyfelach yw Euan Renesto (Ceidwadwyr) ac Adrian Roberts (Plaid Cymru).