Creu strategaeth i ddarparu hyfforddi gweithwyr addysg i siarad Cymraeg fyddai’r cam mwyaf effeithiol er mwyn trawsnewid y system addysg i sicrhau bod pob un yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi eu strategaeth eu hunain i ddatblygu gallu’r gweithlu addysg sydd yn argymell buddsoddi £10m dros y pum mlynedd nesaf.

Byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio ar raglenni hyfforddiant mewn swydd cynhwysfawr fyddai’n cynnwys cymorthyddion dosbarth, staff ategol a phenaethiaid yn ogystal ag athrawon, a chynlluniau i gefnogi rhieni a disgyblion o gefndir di-Gymraeg.

Byddai disgwyl i bob ysgol gyflwyno cynllun ar sut i ddatblygu’r Gymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg fydd yn cael ei fonitro a’i werthuso gan swyddogion yr awdurdod lleol ac Estyn, a byddai cefnogaeth ariannol o’r gronfa flynyddol ar gael i ysgolion sy’n dymuno symud ar hyd y continwwm ysgolion ac ysgolion sy’n dymuno ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws cwricwlwm yr ysgol a digwyddiadau allgyrsiol.

‘Prinder staff sy’n siarad Cymraeg’

Yn ôl Toni Schiavone, un o’r prif heriau i ddarparu addysg Gymraeg i bawb yw prinder staff sy’n siarad Cymraeg.

“Y cam mwyaf effeithiol” wedyn, meddai, yw creu strategaeth i sicrhau hyfforddiant i ddarparwyr addysg, gan osod disgwyliadau ar awdurdodau lleol i gynllunio i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu hysgolion.

“Mae bron i ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad oedd yn argymell dileu dysgu Cymraeg ail iaith a chreu un continwwm Cymraeg ar frys, ond eto, mae 80% o blant Cymru yn gadael yr ysgol yn methu defnyddio’r Gymraeg o hyd,” meddai Toni Schiavone.

“Byddai’r strategaeth rydyn ni’n ei chynnig yn gallu newid hynny a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o’r Gymraeg.

“Fe wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim i staff addysgol yn gynharach eleni.

“Croesawodd Cymdeithas yr Iaith hynny fel cam cyntaf, gan ddweud bod angen mynd ymhellach.”