Mae erthygl yn y Guardian am fugail o Ddyffryn Teifi wedi cael ei throi’n ffilm ddogfen fydd yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca yn Efrog Newydd.
Mae Wilf Davies yn rhedeg ei fferm ar ei ben ei hun, dydy e erioed wedi gadael ei filltir sgwâr ac mae’n bwyta’r un pryd o fwyd bob dydd.
Caiff ei hanes ei adrodd yn y ffilm Heart Valley, sydd wedi’i chyfarwyddo gan Christian Cargill ac sydd wedi curo mwy na 7,000 o ffilmiau eraill am ddangosiad yn yr ŵyl.
Mae’r ffilm ddogfen yn seiliedig ar erthygl gan Kiran Sidhu yn y Guardian y llynedd.
Yn ôl Christian Cargill, roedd yr erthygl yn taro deuddeg wrth sôn am angen y gymuned ffermio i addasu’n gyflym i ddulliau newydd yn ystod y cyfnod clo, ac roedd yn codi cwestiynau am yr hyn sy’n bwysig mewn bywyd.
“Dw i’n credu i lawer o bobol dreuliodd gyfnodau clo mewn dinasoedd, fe wnaeth stori Wilf gyffwrdd â’r ysfa yna i ddatgysylltu,” meddai wrth The Guardian.
“Dw i’n cofio darllen y darn am y tro cyntaf a’i gael yn ysbrydoliaeth, yn anghonfensiynol ac yn syth o’r galon.
“Bythefnos yn ddiweddarach, sylweddolais i fy mod i’n dal i feddwl am y bugail hwn doeddwn i erioed wedi cyfarfod â fe o’r enw Wilf, ac yn yr eiliad honno, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n stori roeddwn i eisiau ei harchwilio, i wybod mwy am y dyn hwn a’i fywyd.”
Bywyd Wilf Davies
Adeg cyhoeddi’r erthygl fis Ebrill diwethaf, roedd Wilf Davies yn 72 oed ac wedi byw yn Nyffryn Teifi ar hyd ei oes ac yn gofalu am 71 o ddefaid.
Treuliodd ei blentyndod yn helpu ar y fferm, ac mae’n dweud bod y dyffryn yn agos iawn at ei galon, cymaint felly nes ei fod e ond wedi gadael Cymru unwaith, er mwyn ymweld â fferm yn Lloegr ryw 30 mlynedd yn ôl.
Er i lawer o’i ffrindiau adael yr ardal am waith, penderfynodd Wilf aros er ei fod e wedi cael cynnig gwaith ar long olew.
“Mae fy nghalon i yma gyda’r adar a’r coed,” meddai, gan ychwanegu y byddai’n hiraethu am Ddyffryn Teifi pe bai’n gadael.
Mae’n cyfaddef iddo fwyta’r un swper bob nos – dau ddarn o bysgodyn, winwnsyn, ŵy, ffa pob ac ambell i fisgedyn i bwdin. I ginio, mae’n bwyta peren, oren a phedair brechdan â phâst ond os yw’n oer, mae’n bwyta cawl o dro i dro.
Dydy’r drefn honno ddim yn newid adeg y Pasg na’r Nadolig, meddai, gan ychwanegu mai’r gyfrinach i fywyd hapus yw mwynhau eich gwaith.
“Dw i’n clywed bod Llundain yn lle i’w osgoi,” meddai wedyn, gan ddweud y byddai byw yn y ddinas “yn ofnadwy – a phobol yn byw ar ben ei gilydd mewn blociau mawr”.
Mae’n dweud ei fod e’n cael ei “gyfareddu” wrth gerdded o amgylch ei fferm, mai’r hydref yw ei hoff dymor a’i fod e’n edrych ymlaen bob gwanwyn at glywed y gog.
Er gwaetha’i fywyd tawel, mae Wilf Davies wedi cael dau strôc ond mae’n dweud bod ei ddefaid wedi ei helpu i wella gan eu bod nhw’n dibynnu arno.
“Roeddwn i eu hangen nhw gymaint ag yr oedd fy angen i arnyn nhw,” meddai, gan ychwanegu na fu’n briod erioed a’i fod e’n byw gyda’i chwaer, sydd hefyd wedi cael strôc ac yn methu cerdded.
Ond mae’n dweud bod ganddo fe ddiddordeb yn y byd mawr y tu hwnt i Ddyffryn Teifi hefyd, er na fu’n byw yn unman arall ar hyd ei oes.
“Er fy mod i’n bwyta’r un bwyd a heb adael y dyffryn, dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i’n hoffi gwybod beth sy’n digwydd yn y byd,” meddai.
“Dw i’n gwrando ar orsaf radio Gymraeg bob nos i gael y diweddaraf.
“Mae gen i ddiddordeb mewn straeon ffermio o hyd, a datblygiadau newydd yn y maes.”
Ond pe bai’n gadael, mae’n dweud y byddai’n hoffi mynd i weld y mur mawr yn Tsieina, ac yntau wedi gweithio â cherrig.
“Pe bai rhywun yn cynnig £2m i fi i symud, byddwn i’n dweud wrthyn nhw am ei gadw fe,” meddai.
“Bob nos bron, dw i’n cerdded i dop y dyffryn.
“Dw i’n edrych i lawr ac mae popeth yn edrych yn fach ac yn bell i ffwrdd. A dw i’n teimlo fy mod i ar ben y byd.”
Ymateb i’r newyddion
Yn ôl Kiran Sidhu, roedd Wilf Davies yn ei ddagrau pan gafodd e wybod am ddangosiad y ffilm yn Efrog Newydd.
“Roedd rhywbeth eithaf hardd am y ffaith, ar ôl i fi ddweud y newyddion yma wrtho fe, ei fod e wedi troi i ffwrdd i ofalu am ei ddefaid,” meddai.
“Gall rhai pobol aros fel maen nhw heb newid, dim ots pa mor ddeniadol a chyffrous yw’r newyddion.
“Fe yw’r dyn bodlon hwnnw sy’n caru’r bywyd mae’n ei fyw – dim ots beth mae’r byd yn ei ddweud wrtho fe.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal fis nesaf.