Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan Ŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.
Bydd yr ŵyl cyhoeddi yn cael ei chynnal eleni ym Mhorthmadog, ar ddydd Sadwrn, Mehefin 25, er mwyn i’r ardal groesawu’r Eisteddfod ac i’r Brifwyl groesawu trigolion lleol i’r Eisteddfod.
Ar y diwrnod, bydd Gorsedd Cymru’n teithio drwy’r dref, cyn cynnal seremoni draddodiadol, gyda’r copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain.
Meddai Michael Strain: “Fe fydda i’n falch iawn o gyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, gan fod cyhoeddi’r gyfrol hon yn garreg filltir bwysig yn y daith tuag at yr Eisteddfod.
“Mae hi wedi bod yn dipyn o daith hyd yn hyn. Roedden ni’n dechrau mynd i hwyl wrth drefnu pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y dalgylch, ac fel gyda phopeth arall, fe ddaeth i stop, gyda nifer fawr o’n pwyllgorau apêl yn troi’n grwpiau cymunedol yn cefnogi trigolion lleol.
“Mae’n hynod braf felly nodi mai dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan y Cyhoeddi, ac wrth i ni edrych ymlaen, mae’n braf gallu dweud bod llond lle o weithgareddau’n cael eu trefnu yn wythnosol, a bod y cyffro a’r edrych ymlaen a oedd mor amlwg i’w weld ddwy flynedd yn ôl wedi hen ddychwelyd i’r ardal, a’n bod ni’n edrych ymlaen am chwip o Eisteddfod y flwyddyn nesaf.”
‘Blas o’r hyn sy’n eu haros’
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gyrion pentref Boduan rhwng Awst 5 ac 12 2023, ond cyn hynny mae tîm o wirfoddolwyr lleol wedi trefnu rhaglen weithgareddau ar hyd a lled yr ardal drwy gydol fis Mehefin.
Mae’r rhaglen amrywiol yn cynnwys noson o ganu siantis ar draeth Porthdinllaeth, Stomp Fawreddog yn nhafarn y Plu yn Llanystumdwy, noson i ddathlu cyfraniad Penri Jones, a chymanfa werin.
“Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein rhaglen weithgareddau ar gyfer Gŵyl y Cyhoeddi,” meddai Michael Strain.
“Mae’r pwyllgorau i gyd wedi bod wrthi’n brysur yn creu cyfres ddifyr o ddigwyddiadau, a’r bwriad yw rhoi blas i bawb o’r hyn sy’n eu haros ym Moduan y flwyddyn nesaf, pan fyddwn ni’n croesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd – o’r diwedd!”