Bydd pobol ar hyd a lled y wlad yn bwrw eu pleidlais yn yr etholiadau lleol fory (dydd Iau, Mai 5), gyda dros 1,000 o gynghorwyr yn cael eu hethol ar draws 22 cyngor sir Cymru.
Ac am y tro cyntaf erioed mewn etholiadau cyngor yng Nghymru, bydd pobol 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio.
Ond yn wahanol i’r arfer, bydd y cyfri’n digwydd ddydd Gwener (Mai 6) yn hytrach na thros nos.
Er nad yw’r etholiadau hyn yn denu cynifer o bleidleiswyr ag etholiadau’r Senedd, na San Steffan, maen nhw’n aml yn rhai diddorol i’w dilyn ac yn arwydd da o agwedd bresennol y cyhoedd tuag at y gwahanol bleidiau.
Wrth i’r ymgyrchu ddirwyn i ben, dyma gip ar obeithion y pleidiau a’r hyn sydd wedi cael ei ddweud ar drothwy’r etholiadau.
Pleidleiswyr Ceidwadol yn troi at Blaid Cymru?
Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn dweud bod pleidleiswyr Ceidwadol a Llafur yn troi at ei blaid ef.
Llwyddodd Plaid Cymru i gipio 38 o seddi o dan arweiniad Leanne Wood yn etholiadau lleol 2017, ac maent yn arwain pedwar cyngor ar hyn o bryd.
Roedd canlyniad y Blaid yn etholiadau’r Senedd fis Mai diwethaf, ar y llaw arall, yn un siomedig wrth iddyn nhw ennill un sedd ychwanegol yn unig, a dod â chyfanswm eu haelodau ym Mae Caerdydd i 13.
Yn y cyfamser, llwyddodd y Ceidwadwyr Cymreig i sefydlu eu hunain fel yr ail blaid fwyaf yn y Senedd gydag 16 o seddi, oedd yn gynnydd o bum sedd.
Fodd bynnag, cafodd y canlyniad siomedig hwnnw ei ddilyn gan gyhoeddiad ym mis Tachwedd fod Llafur a Phlaid Cymru wedi llofnodi cytundeb cydweithio.
Mae’r cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, gan gynnwys ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant.
“Yr hyn rydyn ni’n ei weld yw nad pleidleiswyr Llafur traddodiadol yn unig sy’n cael eu denu gan raglen gadarnhaol Plaid Cymru, ond hefyd pleidleiswyr Torïaidd sydd wedi’u ffieiddio gyda’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan a chyflwr gwleidyddiaeth Prydain yn sgil phopeth sydd wedi bod yn digwydd,” meddai Adam Price wrth The Express.
“Rwy’n credu eu bod wir yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ganddyn nhw opsiwn arall yng Nghymru, does dim rhaid iddyn nhw feddwl am y pleidiau traddodiadol yn San Steffan yn unig, mae ganddyn nhw ym Mhlaid Cymru blaid sy’n seiliedig ar y gymuned ac sydd wedi’i hadeiladu a’i datblygu gan wirfoddolwyr.
“Does dim oligarchiaid yng Nghymru hyd y gwn i ac yn sicr dydyn nhw ddim yn ariannu Plaid Cymru.
“Yn gyffredinol, mae yna lawer o gynhesrwydd i’r Blaid allan yna ar hyn o bryd, yn rhannol am fod pobol yn amheus o wleidyddiaeth draddodiadol a diwylliant San Steffan, ac yn rhannol am eu bod nhw’n edrych arnom ni ac yn gweld rhywbeth sy’n hollol wahanol.”
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n hyderus
Plaid arall sy’n awyddus i gipio seddi gan y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yw Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, sy’n bedwerydd o ran nifer y seddi ar lefel y cynghorau ar hyn o bryd.
Mae gan y blaid 284 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr etholiadau eleni, y nifer fwyaf ers 2012.
Bydd yn rhaid i’r blaid wella ar ei chanlyniadau yn etholiadau’r cyngor yn 2017, pan gollon nhw gynghorwyr a dal eu gafael ar ychydig dros 60 o seddi.
Fodd bynnag, mae yna awgrymiadau wedi bod yn ddiweddar bod y blaid yn profi rhywfaint o adfywiad wrth gipio seddi gan y Ceidwadwyr yn is-etholiadau Gogledd Amwythig yn ogystal â Chesham ac Amersham.
“Rydyn ni’n clywed bod pobol sydd fel arfer yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr ddim yn hollol siŵr os ydyn nhw am wneud yr un peth y tro hwn, maen nhw’n siomedig iawn yn Boris Johnson oherwydd Partygate,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid, wrth golwg360.
“Maen nhw’n dweud wrthym ni, ‘Efallai ei bod hi’n amser i ni bleidleisio dros y Rhyddfrydwyr’.
“Yn yr un modd, rydyn ni’n clywed bod [cyflwr] y Gwasanaeth Iechyd yn poeni pobol yma yng Nghymru.
“Mae Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros 20 mlynedd ac mae’r gwasanaethau iechyd yma wedi bod yn anodd, a dw i’n derbyn hefyd fod Covid wedi cael effaith fawr wrth gwrs.
“Ond mae pobol yn dweud wrthym ni eu bod nhw ddim yn licio beth sy’n mynd ymlaen yn y Gwasanaeth Iechyd.
“O ganlyniad i hyn, dw i’n credu y bydd pobol o’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn dod draw atom ni.”
Y Ceidwadwyr yn ffocysu ar faterion cymunedol
Roedd etholiadau lleol 2017 yn rhai llwyddiannus dros ben i’r Ceidwadwyr Cymreig.
Llwyddon nhw i gynyddu eu cynrychiolaeth ar fwy na hanner cynghorau Cymru, yn ogystal â sicrhau mwyafrif yn Sir Fynwy.
Ond mae sgandalau diddiwedd o fewn y blaid yn San Steffan wedi gwneud niwed, ac mae un arolwg yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr golli 550 o seddi ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.
Dyw hi ddim yn syndod, felly, fod ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig wedi ffocysu ar faterion cymunedol, gan anwybyddu Boris Johnson.
“Bydd gan bleidleiswyr ddewis clir i’w wneud pan fyddan nhw’n sefyll yn yr orsaf bleidleisio,” meddai Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Byddan nhw naill ai yn pleidleisio am newid i adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel, neu ddioddef mwy o fethiant gan Lafur a Phlaid Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae ein trefi a’n pentrefi wedi cael eu hesgeuluso am lawer rhy hir, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio’n ddiflino i wyrdroi hynny drwy adfer balchder yn ein cymunedau, mynd i’r afael â phethau sy’n difetha ein hardaloedd a rhoi trigolion lleol ar flaen y gad o ran gwneud penderfyniadau.
“Drwy bleidleisio dros eich ymgeisydd Ceidwadol, gallwch gyflawni’r newid sydd ei angen ar ein cymunedau i ddod yn gryfach ac yn fwy diogel.”
Ymgeiswyr annibynnol yn deall “gwir anghenion trigolion”
Fodd bynnag, ymgeiswyr annibynnol sy’n deall “gwir anghenion trigolion”, yn ôl y grŵp annibynnol ar Gymdeithas Llywodraeth leol Cymru.
Ac mae’n debyg bod nifer iach o’r cyhoedd yng Nghymru yn cytuno, oherwydd yr annibynwyr oedd â’r ail nifer fwyaf o gynghorwyr yn dilyn yr etholiadau lleol 2017.
“Fel yr ail grŵp mwyaf o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd modd dylanwadu a lobïo ar lefel wirioneddol genedlaethol, nid yn unig trwy ddwyn y pleidiau gwleidyddol eraill i gyfri ond hefyd trwy arwain ar faterion pwysig,” meddai llefarydd yr annibynwyr.
“Mae’r annibynwyr wedi arwain saith awdurdod yng Nghymru, ac fel rhan o glymblaid mewn pump, gan ddod ag awdurdodau lleol yn agosach at eu cymunedau gyda’r dylanwad lleiaf o gyfeiriad San Steffan a Chaerdydd.
“Byddai pleidlais dros annibynwyr yn cynyddu pwysigrwydd anghenion lleol heb ddylanwad gwleidyddol, gan roi pobol yn gadarn o flaen gwleidyddiaeth.”
Llafur i adennill seddi a gafodd eu colli yn 2017?
Beth felly am y blaid fwyaf yng Nghymru, y Blaid Lafur?
Llafur Cymru sydd â’r nifer fwyaf o gynghorwyr ar drothwy’r etholiadau diweddaraf, er gwaetha’r ffaith fod y blaid wedi colli dros 100 o seddi cyngor yn 2017.
Mae pethau wedi gwella ers hynny, ac mae rhywun yn dychmygu bod canlyniad da’r blaid yn etholiad y Senedd, lle llwyddon nhw i sefydlu mwyafrif, yn sail dda i adennill rhai o’r seddi cyngor hynny gafodd eu colli yn 2017.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi annog y cyhoedd i bleidleisio dros “gynghorwyr i ymuno â thîm Llafur Cymru ymroddedig a fydd yn gweithio law yn llaw gyda’ch Llywodraeth Lafur Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol ar draws eich cymuned ac ar draws Cymru”.
“Pan ewch chi i’r blwch pleidleisio, pleidleisiwch dros y materion sydd o bwys i chi; dros gynghorwyr y gallwch ddibynnu arnyn nhw pan fo pethau’n galed; dros gynghorwyr a wnaiff gyflawni pethau,” meddai.
“Ond yn bennaf oll, pleidleisiwch dros yr hyn rydych chi’n rhoi gwerth arno.”