Mae mudiad Conradh na Gaeilge wedi ymateb â rhagofal ar ôl i Araith y Frenhines grybwyll cynlluniau am ddeddf i gefnogi’r iaith Wyddeleg.
Roedd disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chyhoeddi gan Swyddfa Gogledd Iwerddon cyn etholiad Stormont yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i’r prif bleidiau fethu â dod i gytundeb ar ddeddfwriaeth ddiwylliannol ac ieithyddol fel rhan o’r cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd.
Mae’r cynlluniau gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Mai 10) yn cynnwys Swyddfa Mynegiant o Hunaniaeth a Diwylliant i hyrwyddo parch at amrywiaeth, a chreu Comisiynydd Iaith Wyddeleg a chomisiynydd i ddatblygu iaith, celfyddydau a llenyddiaeth Sgots Ulster.
Yn ôl y ddeddfwriaeth, mae gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon ddyletswydd i annog a hwyluso’r defnydd o Sgots Ulster, a bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr hawl i gamu i mewn i sicrhau bod y Pwyllgor Gwaith yn cadw at eu hymrwymiad.
‘Profiad poenus’
Wrth ymateb, dywed Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge, fod ymgyrchwyr iaith “wedi bod yn fan hyn sawl gwaith o’r blaen”.
“Fe wnaeth Llywodraeth Prydain ymrwymo’n wreiddiol i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg yng Nghytundeb St Andrew yn 2006,” meddai.
“Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Brandon Lewis wneud ymrwymiad cyhoeddus ym mis Mehefin 2021 y byddai’n cyflwyno deddfwriaeth ar yr iaith Wyddeleg erbyn mis Hydref.
“Ni ddigwyddodd hynny a chafodd ei wthio hyd at ddiwedd y mandad. Ni ddigwyddodd hynny chwaith.
“Ein profiad poenus ni gyda’r mater hwn yw fod ymrwymiadau wedi cael eu gwneud yn y gorffennol a dydyn nhw heb gael eu cadw.
“Yn naturiol, yn sgil hynny, rydyn ni’n bod yn rhagofalus iawn wrth ystyried y cyhoeddiad [ddoe].
“Rydyn ni angen dyddiad ar gyfer ei chyflwyno. Rydyn ni angen gweld y ddeddfwriaeth yn y dyddiadur seneddol.
“Tan y bydd dyddiad penodol ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth yr iaith Wyddeleg, nid oes gennym ni reswm i ymddiried yn Llywodraeth Prydain o ran hawliau iaith.
“Nawr yw’r amser i’w chyflwyno.”
‘Sinigaidd’
Bydd y gymuned iaith Wyddeleg yn “naturiol sinigaidd” ynghylch y cyfeiriad at y ddeddf yn Araith y Frenhines, ychwanega Conchúr Ó Muadaigh, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge.
“Mae ymddiriedaeth yn anodd i’w hennill ac yn hawdd i’w cholli,” meddai Conchúr Ó Muadaigh.
“O ystyried digwyddiadau deuddeg mis diwethaf, ac yn wir yr 16 mlynedd ddiwethaf, bydd y gymuned iaith Wyddeleg yn naturiol sinigaidd a rhagofalus wrth wrando ar y cyfeiriad at ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg yn Araith y Frenhines.
“Rydyn ni wedi cael sawl addewid ffurfiol yn y gorffennol, gan gynnwys gwarantau ysgrifenedig mewn cytundebau rhyngwladol y mae’n rhaid cadw atyn nhw, fel Cytundeb St Andrew, ynghyd ag amserlen benodol yn y Cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd.
“Rydyn ni’n gwybod be sy’n digwydd fel arfer.
“Er mwyn i’n cymuned ni ymddiried o gwbl yn y broses hon, mae’n rhaid i ni weld dyddiad clir, na all newid, ar gyfer ei chyflwyno.
“Yn y cyfamser, mae ein cymuned yn trefnu ac yn ymgynnull.
“Ar Fai 21, rydyn ni’n disgwyl i filoedd o bobol ddod ynghyd yn Béal Feirste (Belfast) i gefnogi ymgyrch y Ddeddf Iaith Wyddeleg dros hawliau a pharch.”