Fydd dim rhaid i bobol sy’n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £225,000 dalu treth o dan fesurau newydd.

Mae’r trothwy ar gyfer talu’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei godi o £180,000 a bydd y newid yn dod i rym ar Hydref 10.

Bwriad y newid yw sicrhau bod y trothwy ar gyfer talu treth yn adlewyrchu’r cynnydd ym mhrisiau tai dros y ddwy flynedd ddiwethaf, meddai Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi’r newid.

Bydd unrhyw dŷ sy’n costio rhwng £225,000 a £345,000 yn gweld gostyngiad yn y dreth maen nhw’n ei thalu, hyd at uchafswm o £1,575.

I’r gwrthwyneb, bydd pobol sy’n prynu tai sy’n werth mwy na £345,000 yn gweld cynnydd o hyd at £550, ond dim ond i ryw 15% o drafodiadau eiddo yng Nghymru mae hynny’n berthnasol.

Bydd pob elfen arall o’r Dreth Trafodiadau Tir yn aros yr un fath, sy’n golygu nad oes gostyngiad treth i bobol sy’n prynu ail gartrefi yng Nghymru, yn wahanol i dreth dir y dreth stamp yng Nghymru.

‘Helpu prynwyr tro cyntaf’

Dywed Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Lleol Cymru, fod hwn yn newid sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion unigryw marchnad dai Cymru, a’i fod yn cyfrannu at eu gweledigaeth ehangach “o greu system drethi decach”.

“Ni fydd 61% o brynwyr tai yn gorfod talu treth,” meddai.

“Bydd y newidiadau hyn yn rhoi cymorth i’r bobol sydd ei angen, ac yn helpu ag effaith y cynnydd mewn cyfraddau llog.

“Rydym yn gwybod hefyd y bydd helpu pobol ar ben isaf y farchnad yn helpu’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf, yn enwedig.

“Rydym yn helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys perchnogaeth ar y cyd a chynlluniau cymorth i brynu, ac rwy’n falch o allu ymestyn y gefnogaeth honno drwy’r newidiadau hyn i’r Dreth Trafodiadau Tir.”

‘Ddim yn mynd yn ddigon pell’

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r newid, dydy’r cymorth ddim yn mynd ddigon pell, meddai llefarydd cyllid y blaid.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig weithredu’n bendant a rhoi twf, cyfle ac uchelgais wrth wraidd yr economi,” meddai Peter Fox.

“Fel rhan o hynny, bydd y Llywodraeth Lafur yn derbyn £70m yn sgil newidiadau i’r dreth stamp yn Lloegr.

“Er ein bod ni’n croesawu’r toriad hwn mewn trethi ar gyfer prynwyr tai yng Nghymru – rhywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano ers bron i ddegawd – dyw e ddim yn mynd ddigon pell.

“Mae prisiau tai yng Nghymru wedi bwrw £240,000, ond eto mae Llywodraeth Lafur Bae Caerdydd yn cau’r drws yn wynebau prynwyr tro cyntaf drwy wrthod cynnig unrhyw gymorth penodol ar eu cyfer.

“Mae hi’n syndod bod Llafur a Phlaid Cymru’n gallu cyfiawnhau gwario £100m ar fwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd ond yn methu ei wario i gefnogi pobol ar yr ysgol dai.”