Mae arlywydd Catalwnia wedi cyflwyno cynnig i Lywodraeth Sbaen er mwyn ceisio datrys yr anghydfod tros annibyniaeth.
Dywed Pere Aragonès wrth siarad yn agoriad y ddadl ar bolisi cyffredinol fod ei gynnig yn “gytundeb eglurder” sydd wedi cael cefnogaeth y gymdeithas yng Nghatalwnia.
Fe gyfeiriodd at gytundeb tebyg rhwng Canada a Quebec yn 2000, sy’n nodi bod rhaid cael mwyafrif o blaid refferendwm, fod rhaid i’r refferendwm hwnnw fod yn seiliedig ar gwestiwn clir a diamwys, ac mae’n rhaid ceisio cydsyniad gwleidyddion y senedd genedlaethol.
Yn ôl Aragonès, bydd ei lywodraeth ar dir mwy sicr i gyflwyno’r cynnig i Sbaen unwaith fyddan nhw wedi ceisio ymateb trigolion Catalwnia, a bydd hynny yn ei dro yn arwain at debygolrwydd uwch y bydd yn cael ei dderbyn gan y gymuned ryngwladol.
Bydd y cytundeb yn amlinellu pryd a sut fydd Catalwnia yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch ei dyfodol ei hun, meddai, gan dynnu sylw at enghreifftiau Canada a Quebec, a’r Deyrnas Unedig a’r Alban.
Mae Pere Aragonès yn gobeithio dysgu gwersi o’r ymgyrch aflwyddiannus yn 2017 i sicrhau refferendwm cyfansoddiadol dilys, meddai, gan fynnu mai “dim ond refferendwm dilys y cytunir arno all ddisodli refferendwm Hydref 1”.
Y cynnig
Wrth siarad yn y siambr, amlinellodd yr arweinydd fod 82% o drigolion Catalwnia yn cytuno y dylen nhw gael pleidleisio ar eu dyfodol ac y byddai unrhyw bolisi’n seiliedig ar hynny ac ar amrywiaeth Catalwnia.
Mae’n dweud mai’r unig ffordd o oresgyn rhwystrau’r gorffennol yw cyflwyno “cynnig adeiladol” sy’n ennyn cefnogaeth y mwyafrif.
Daw’r cynnig yn dilyn ffrae rhwng Catalwnia a Sbaen a’r trafodaethau a ddilynodd er mwyn ceisio’i datrys.
Roedd y trafodaethau’n rhan o’r cytundeb gwleidyddol rhwng Esquerra Republicana de Catalunya a’r Blaid Sosialaidd ar ôl i Pedro Sánchez ddod yn brif weinidog ar ôl yr etholiad diwethaf.
Ond mae’r trafodaethau hynny wedi bod yn destun ffrae gyson yng Nghatalwnia, nid lleiaf yn dilyn y trafodaethau diweddaraf ym Madrid ym mis Gorffennaf pan gafodd camau eu cyflwyno i geisio gwarchod yr iaith Gatalaneg.
Ond dydy Junts per Catalunya, un o bleidiau’r glymblaid, ddim wedi bod yn bresennol yn y trafodaethau.