Mae “polisïau economaidd ffantasïol” Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn peryglu holl economi Prydain, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i Fanc Lloegr gael eu gorfodi i gamu i farchnadoedd bond yn sgil argyfwng marchnadol sydd wedi arwain at gostau benthyca’r llywodraeth yn codi’n aruthrol.

Mae’r banc canolog wedi gohirio cynlluniau i werthu bondiau.

Yn hytrach, byddan nhw’n dechrau eu prynu er mwyn ceisio sefydlogi’r hyn maen nhw’n eu disgrifio fel “marchnadoedd camweithredol”.

“Pe bai camweithredu yn y farchnad hon i barhau neu waethygu, byddai yna risg gwirioneddol i sefydlogrwydd ariannol y Deyrnas Unedig,” meddai’r banc.

Wnaethon nhw ddim rhoi ffigwr ar faint y pryniannau ond dywedodd y byddan nhw’n cael eu cynnal ar “ba bynnag raddfa sydd ei angen”.

Mae cyfraddau llog wedi bod yn codi ar draws y byd, gan wthio costau benthyca mewn marchnadoedd bond.

Ond mae’r cynnydd yn nyled Prydain wedi bod yn llawer mwy serth, gan adlewyrchu ofnau masnachwyr dros gyflwr yr economi a chynlluniau torri trethi’r Llywodraeth.

Yn y cyfamser, mae’r bunt wedi syrthio i’w lefel isaf erioed yn erbyn y ddoler.

Ar hyn o bryd, mae un bunt yn cyfnewid ar gyfradd o 1.0435 doler.

‘Adfer amodau trefnus yn y farchnad’

“Mae’r Banc yn monitro datblygiadau mewn marchnadoedd ariannol yn agos iawn o ganlyniad i’r broses o ail-brisio asedau ariannol y Deyrnas Unedig a byd-eang,” meddai Banc Lloegr mewn datganiad.

“Mae’r ail-brisio hwn wedi dod yn fwy arwyddocaol yn ystod y diwrnod diwethaf – ac mae’n effeithio’n arbennig ar ddyled Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Pe bai’r camweithredu yn y farchnad hon yn parhau neu waethygu, byddai risg gwirioneddol i sefydlogrwydd ariannol y Deyrnas Unedig.

“Byddai hyn yn arwain at dynhau amodau ariannu a lleihau llif y credyd i’r economi go iawn.

“Yn unol â’i amcan o sefydlogrwydd ariannol, mae Banc Lloegr yn barod i ymyrryd yn y farchnad a lleihau unrhyw risg o gyffiniau i amodau credyd ar gyfer cartrefi a busnesau’r Deyrnas Unedig.

“Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Banc yn cynnal pryniannau dros dro o fondiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o 28 Medi.

“Pwrpas y pryniannau hyn fydd adfer amodau trefnus yn y farchnad.

“Bydd y pryniannau’n cael eu cynnal ar ba bynnag raddfa sydd ei angen i effeithio ar y canlyniad hwn.

“Bydd y gwaith yn cael ei ddigolledu’n llawn gan Drysorlys Ei Fawrhydi.”

Annog y Llywodraeth i “ail-werthuso” ei gynllun economaidd

Mae’r IMF hefyd wedi ymosod ar gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu £45bn o doriadau treth, sy’n cael eu hariannu gan ddyledion.

Maen nhw’n annog y llywodraeth i “ail-werthuso” ei gynllun economaidd.

Ymhlith y mesurau mwyaf dadleuol gafodd eu cyhoeddi mae dileu’r cap ar fonws bancwyr, a chael gwared ar y cynnydd arfaethedig yn y dreth gorfforaeth.

Mae’r trothwy cyn bod rhaid talu’r dreth stamp wedi codi i £250,000 a bydd cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn gostwng i 19c fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Roedd y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi tro pedol ar Yswiriant Gwladol a’r bwriad i gyflwyno parthau treth isel.

“O ystyried pwysau chwyddiant uwch mewn llawer o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, nid ydym yn argymell pecynnau cyllidol mawr a di-darged ar hyn o bryd,” meddai’r IMF mewn datganiad.

“Mae’n bwysig nad yw polisi cyllidol yn gweithio yn groes i ddibenion polisi ariannol.”

“Polisïau economaidd ffantasïol”

“Dw i’n meddwl bod ymyrraeth Banc Lloegr heddiw ar gefn barn ryngwladol, ti’n edrych ar ymateb yr IMF a’r asiantaeth credyd Moody’s,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360, wrth ymateb i’r datblygiadau.

“Mae polisïau economaidd ffantasïol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu beirniadu o bob cyfeiriad.

“Beth sydd gennym ni ydi grŵp o eithafwyr asgell dde sydd wedi cael gafael ar bŵer drwy aelodaeth y Blaid Geidwadol, ac yn cael rhwydd hynt i gyflwyno polisïau gwallgof heb fawr o ystyriaeth o’r effaith y maen nhw’n eu cael o gwbl.

“Dw i’n cael ar ddeall rŵan bod Banc Lloegr yn ofni’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar bensiynau.

“Rydan ni’n symud o’r byd ffantasi i’r byd go iawn ac mae pobol yn mynd i ddioddef oherwydd bod y bobol yma wedi cael rhoi ei ffantasïau ar waith.

“Mae’r peth yn sylfaenol anfoesol ac mae o mor ffôl.

“Dyw’r bunt ddim efo’r un statws â’r ddoler beth bynnag ac mae crasio’r bunt ochr yn ochr â’r ddoler yn golygu bod pob dim sy’n cael ei fewnforio yn mynd i gostio mwy – ac rydan ni’n wlad sy’n mewnforio y rhan fwyaf o’n bwydydd ni er enghraifft.

“Dw i wedi gweld chwyddiant o 20% yn cael ei ddyfynnu ar fwyd dros y gaeaf.

“Rydan ni’n sôn am hanfodion byw i bobol.

“Ac mae cyfraddau llog hefyd ar ei fyny felly mae pobol sydd efo morgais, sef y rhan fwyaf o bobol sy’n gweithio, yn mynd i gael eu gwasgu o bob cyfeiriad.

“Beth oedd y Llywodraeth yn meddwl oedd yn mynd i ddigwydd?”