Mae S4C yn galw ar gerddorion a chyfansoddwyr Cymru i gynnig eu caneuon, wrth i gystadleuaeth Cân i Gymru 2023 agor yn swyddogol heddiw (dydd Iau, Hydref 27).

Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn cipio tlws Cân i Gymru a gwobr o £5,000, gyda’r ail yn derbyn gwobr o £2,000 a’r drydedd yn ennill £1,000.

Y gân ‘Mae yna Le’ gan Rhydian Meilir o Gemaes ger Machynlleth ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth yn gynharach eleni.

Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglen, yn ffyddiog o ddod o hyd i stôr o gerddoriaeth Gymraeg newydd ledled Cymru, a thu hwnt.

“Rhan o apêl Cân i Gymru ydy’r ffaith ein bod ni’n cael clywed cerddoriaeth newydd gan amryw o gyfansoddwyr – wynebau cyfarwydd a rhai newydd,” meddai.

“Faswn i’n annog ceisiadau o bob genre cerddorol er mwyn cynrychioli’r cyfoeth arbennig sydd gennym ni yng Nghymru heddiw.”

Bydd wyth cân yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr y diwydiant er mwyn mynd ymlaen i gystadlu yn Cân i Gymru 2023.

A bydd yr wyth cân yn mynd yn erbyn ei gilydd yn fyw ar S4C ar nos Wener, Mawrth 3 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris wrth y llyw.

Ond y gwylwyr adref gaiff ddewis pwy fydd yn codi tlws eiconig Cân i Gymru drwy fwrw eu pleidlais dros y ffôn.

‘Cyffro a theimlad unigryw iawn’

“Ar ôl blynyddoedd heriol i’r celfyddydau a cherddoriaeth fyw, dyma gyfle i ni ddathlu a thynnu sylw at y dalent gerddorol ry’n ni’n ffodus o’i chael yma yng Nghymru,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant a Cherddoriaeth S4C.

“Mae’r cyffro a’r teimlad sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth yn un unigryw iawn.

“Ewch amdani.”

Dyddiad cau cystadleuaeth Cân i Gymru 2023 yw Ionawr 3.

Os ydych chi am gystadlu mae’r manylion i gyd a’r ffurflen gais ar gael ar wefan S4C.