Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn dweud ei fod yn cyflwyno bil yn Nhŷ’r Arglwyddi mewn ymgais i roi “sefydlogrwydd” i ddatganoli yng Nghymru.
Byddai Bil Llywodraeth Cymru (Pwerau Datganoledig) yn “arwain at weithio mwy cytûn rhwng y Senedd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig”, meddai Dafydd Wigley.
Gall Mesur ddechrau yn Nhŷ’r Cyffredin neu’r Arglwyddi, a rhaid iddo gael ei gymeradwyo yn yr un ffurf gan y ddau Dŷ cyn dod yn Ddeddf.
Byddai Mesur Dafydd Wigley – sydd â chefnogaeth drawsbleidiol, meddai – yn atal unrhyw newid neu ostyngiad ym mhwerau’r Senedd heb gefnogaeth dau draean o Aelodau’r Senedd.
“Yn fy neuddegfed blwyddyn ac, efallai, yr olaf yn y Siambr hon, teimlaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i gyflwyno’r Bil hwn a fyddai, o’i basio, yn cael ei groesawu’n eang yn Senedd Cymru, ar draws y pleidiau; ac a fyddai’n arwain at weithio mwy cytûn rhwng y Senedd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Dafydd Wigley cyn y ddadl yn Nhŷ’r Arglwyddi.
“Nod y Mesur yw darparu mwy o sefydlogrwydd nag sydd wedi bodoli dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers y bleidlais Brexit, sydd wedi arwain at danseilio pwerau deddfu Senedd Cymru oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae San Steffan wedi gweithredu’n groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru ar sawl achlysur; ac ar adegau, mewn modd sydd wedi ymddangos fel pe bai’n gwrthdaro â’r fframwaith deddfwriaethol y mae’r Senedd yn gweithredu ynddo.”
‘Datganoli yma i aros’
Ychwanega Dafydd Wigley ei fod yn siarad “ar ran Plaid Cymru”, ond fod Llywodraeth Cymru ac Aelodau Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol o’r Senedd yn rhannu ei amcanion.
“Ac rwy’n credu fod hyd yn oed rywfaint o gydymdeimlad preifat ymysg rhai Ceidwadwyr – gan ei fod er budd pawb i gael sefydlogrwydd ac eglurder o ran pwerau’r Senedd,” meddai.
“Mae datganoli yng Nghymru wedi bod yn ddarlun sy’n esblygu, ers y refferendwm bum mlynedd ar hugain yn ôl i fis diwethaf.
“Mae wedi gweld Cymru’n ennill mwy o hunanhyder a mwy o barodrwydd i gymryd cyfrifoldeb dros lywodraethu ein gwlad, o fewn y fframwaith datganoli a gafodd ei gytuno gan y Senedd ac a gafodd ei gadarnhau gan ddau refferendwm.
“Cafodd Refferendwm 1997 ei ennill o drwch blewyn – dim ond chwe mil o fwyafrif, a oedd yn adlewyrchu sinigiaeth ymhlith pleidleiswyr bod y model arfaethedig o ddatganoli yn cynrychioli dim mwy na chyngor sir enfawr, nid senedd ddeddfwriaethol, fel yr oedd yn cael ei gynnig i’r Alban.
“Pan gafodd pwerau a chyfrifoldebau’r Senedd honno eu hymestyn, yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006, cawson nhw eu cadarnhau gan refferendwm 2010, gyda dau draean o bleidleiswyr yn cefnogi pwerau deddfu cynradd.
“Fe wnaeth y lleiafrif hwnnw sy’n dal i wrthwynebu bodolaeth y Senedd gynnig ymgeiswyr yn yr etholiad diwethaf yn 2021, ac fe gawson nhw eu trechu.
“Mae datganoli yma i aros, ac felly, mae’n ddyletswydd arnom – yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd – i wneud iddo weithio, ac i wneud hynny, mae angen sefydlogrwydd a thryloywder.”