Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yn hwylus i bob disgybl yn y wlad.
Daw hyn wrth i’r mudiad ymateb i’r alwad am sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru’n rhugl yn y Gymraeg.
Mae’r mudiad yn cefnogi’r alwad i’r cyhoedd lofnodi deiseb sydd wedi cael ei sefydlu gan ‘Wish I Spoke Welsh’ ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi papur gwyn ar Ddeddf Addysg Gymraeg newydd yn y man.
Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, “anwadal, darniog ac amrywiol yw’r profiad o ran ceisio cael mynediad at addysg Gymraeg”.
Maen nhw’n dweud bod ardaloedd helaeth o dde Cymru heb ysgol Gymraeg, a bod disgyblion yn gorfod teithio allan o’u cymunedau ac yn all-sirol.
Yn yr un modd, meddai’r mudiad, cyfyngedig yw’r ddarpariaeth yn y gogledd-ddwyrain, yn enwedig o ran ysgolion uwchradd.
Yn ogystal, oherwydd ddiffyg dilyniant yn y continiwwm ieithyddol addysgiadol o fewn a rhwng sectorau cynradd ac uwchradd, mae nifer o ddisgyblion yn cael eu colli fyddai wedi dod yn ddwyieithog fel arall.
At hynny hefyd, meddai Dyfodol i’r Iaith, gall darpariaeth cludiant ysgol a cholegau mewn rhai siroedd fod yn wahaniaethol tuag at addysg Gymraeg o’i gymharu ag addysg Saesneg, gan effeithio’n negyddol ar dwf addysg Gymraeg.
Craffu a dysgu o brofiadau Gwlad y Basg
Mae Dyfodol i’r Iaith yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru graffu a dysgu o brofiadau Gwlad y Basg o ran caffael iaith yn y sector addysg.
Cadarnhaodd Paul Bilbao Sarria o Euskalgintzaren Kontseilua, grŵp iaith yng Ngwlad y Basg, fod system addysg Fasgeg wedi amlygu bod angen i blant dderbyn addysg trwy gyfrwng y Fasgeg er mwyn dod yn hyddysg ynddi, yn debyg i bolisi addysg Gwynedd, gyda’r mwyafrif helaeth o ddisgyblion o gefndiroedd newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg yn sefyll arholiadau Cymraeg fel siaradwyr iaith gyntaf.
“Wrth gynllunio darpariaeth addysg yng Nghymru dylai’r gyfundrefn addysg fod yn creu cenhedlaeth o bobl ifanc hyderus ddwyieithog,” meddai Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith.
“Addysg cyfrwng Cymraeg / dwyieithog yw’r llwybr gorau i gyflawni hynny gan nad yw’n gweithredu ar draul nac yn llesteirio meithrin a datblygiad gallu siarad ac ysgrifennu yn y Saesneg.
“Dylid cofio fod pob disgybl mewn ysgol Gymraeg yn astudio Saesneg a Chymraeg fel iaith gyntaf.
“Nod allweddol ysgolion Cymraeg yw bod disgyblion yn cael eu trwytho yn y Gymraeg gydol y diwrnod ysgol, a hynny’n draws-bynciol, sy’n llawer mwy llwyddiannus na dysgu iaith dim ond fel pwnc yn unig.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn.
“Yn awr, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod argaeledd hwylus addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yn gynwysiedig yn y mesur addysg arfaethedig.”
Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cyflwyno’r alwad hon i Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.