Mae Liz Saville Roberts wedi galw am well mynediad i berthnasau sydd mewn gofal, yn dilyn marwolaeth ei mam yn ystod y pandemig Covid-19.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan fod angen gwneud mwy i helpu teuluoedd gael mynediad at eu perthnasau yn yr ysbyty.

Dywedodd fod ei mam, Nancy, wedi cael strôc rywbryd rhwng noswyl Nadolig a dydd Nadolig 2020, ac y bu farw’r gaeaf canlynol ar ôl disgyn.

Esboniodd nyrs arbenigol ym maes dementia wrthi fod cyswllt teuluol yn “hawl yn hytrach na ffafr ddewisol”, meddai, gan ychwanegu mai “hi oedd y person cyntaf mewn awdurdod i sôn am hyn”.

“Er gwaethaf ei chymorth, dim ond unwaith y gwnes i gyffwrdd â llaw fy mam yn ystod y chwe wythnos dyngedfennol ar ôl ei strôc gyntaf,” meddai.

“Oeddwn, roeddwn i’n gallu trefnu siarad â hi drwy ffenest wydr tra’r oedd hi’n eistedd ar risiau yn yr ysbyty ac roedden ni’n sefyll tu allan yn y maes parcio.

“Do, fe allais i ffonio a threfnu i siarad dros iPad, ond doedd hi ddim yn gallu ein clywed ni. Doedd hi ddim yn gallu ein deall ni.

“Doedd dim cwtsh. Fe wnaeth polisi heintio’r awdurdod iechyd osod feto ar gariad teuluol gan eu bod yn ei ystyried yn berygl iechyd.”

‘Niwed’

“Mae trin yr henoed a phobol â dementia fel unedau o gnawd ac asgwrn trwy fodloni lleiafswm eu hanghenion corfforol yn anghywir,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n anifeiliaid cymdeithasol, os ydych chi’n tynnu ein cefnogaeth gymdeithasol i ffwrdd rydyn ni’n methu ffynnu.

“Mae gwadu cyswllt teuluol yn achosi niwed i gleifion a niwed mwy hirdymor i aelodau’r teulu.”