Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi dod i gytundeb gyda meddygol teulu ar gytundeb newydd, sy’n cynnwys codiad cyflog.

Mae’r cytundeb yn cynnwys codiad cyflog o 4.5% i holl staff sy’n gweithio mewn meddygfeydd.

O ganlyniad i’r cytundeb mae BMA Cymru, sef yr undeb sy’n cynrychioli meddygon, wedi cadarnhau na fydd meddygon teulu Cymru yn streicio.

Fel rhan o’r cytundeb hefyd, bydd ymdrechion i wella mynediad cleifion at feddygon teulu yn dod yn orfodol, gan gynnwys bod:

  • Cleifion yn derbyn ymateb prydlon i unrhyw gysylltiad â phractis meddyg teulu dros y ffôn;
  • Gan feddygfeydd systemau ffôn priodol i gefnogi anghenion pobol – gan osgoi’r angen i ffonio’n ôl sawl gwaith;
  • Pobol yn derbyn gwybodaeth ddwyieithog ynglŷn â gwasanaethau lleol a gwasanaethau brys wrth gysylltu â meddygfa;
  • Pobol yn gallu cael gafael ar wybodaeth am sut i gael cymorth a chyngor;
  • Pobol yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg gywir yn seiliedig ar eu hanghenion;
  • Pobol yn gallu defnyddio amrywiaeth o opsiynau i gysylltu â’u meddygfa;
  • Gan feddygfeydd fynediad at wasanaethau digidol.

“Gwella mynediad at feddygfeydd”

“Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o hyd i wella mynediad at feddygfeydd a bydd y contract newydd hwn yn mynd peth o’r ffordd i fynd i’r afael â hynny,” meddai Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan.

“Fodd bynnag, mae rhai pobol yn parhau i wynebu heriau o ran cael mynediad at eu meddygfa, mae angen datrys hynny a byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i geisio gwella.

“Wrth symud ymlaen, bydd cytundeb newydd, symlach yn dileu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a’u timau yn ogystal ag atgyfnerthu’r safonau yr ydym yn disgwyl i bractisau gadw atynt wrth weithredu – gyda mynediad i gleifion yn rhan hanfodol o’r safonau hynny.”

“Rhyddhad”

Dywedodd Dr Ian Harris, Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu’r BMA yng Nghymru: “Mae’n rhyddhad ein bod ni wedi dod i gytundeb a ni’n falch bod yna fuddsoddiad wedi dod fel bod ni’n gallu codi cyflog ein staff ni sydd yn gweithio’n galed iawn ar hyn o bryd.

“Ond y’n ni’n deall y cyfyngiadau ariannol sydd gyda’r llywodraeth yn sgil grant San Steffan felly mae rhaid cydnabod bod y cytundeb yma yn is na chwyddiant.

“Rydyn ni’n sylweddoli dyna gyd y’n ni’n gallu cael ar hyn o bryd ond rhaid ystyried y cytundeb yn llwyr i ryw raddau achos bod e hefyd yn lleihau’r fiwrocratiaeth rydyn ni’n cael pob dydd felly rydyn ni’n croesawu hynny hefyd.”

“Amddifadu cleifion”

Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Er fy mod yn croesawu’r codiad cyflog i feddygon teulu yng Nghymru y ffaith syml yw bod y nifer o feddygon sy’n aros yng Nghymru yn llawer rhy isel.

“Am 25 mlynedd, mae Llywodraethau Llafur wedi llesteirio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan siomi staff ac amddifadu cleifion.

“Mae angen i weinidogion Llafur fuddsoddi llawer mwy o arian fel bod gan feddygon y gofod sydd ei angen i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon teulu yng Nghymru.”