Mi fydd trigolion yn cael teithio am ddim ar fysus yn Sir Fynwy ar benwythnosau ym mis Rhagfyr.
Bwriad polisi’r Cyngor Sir lleol yw annog y brodorion y siopa yn lleol yn y cyfnod yn arwain at y Dolig.
Mae Cyngor Sir Fynwy, sy’n cael ei redeg gan y Blaid Lafur, i gael arian gan Lywodraeth Cymru i dalu am deithiau bysus am ddim ar benwythnosau ym mis Rhagfyr.
Ac mae newyddion da i’r rhai hynny sy’n gyrru ceir hefyd – am y drydedd flwyddyn yn olynol mi fydd yna barcio am ddim ar benwythnosau ym mis Rhagfyr yn holl feysydd parcio’r Cyngor yn y Fenni, Mynwy a Chas-gwent.
Er eu bod yn croesawu’r newyddion, bu’r wrthblaid Geidwadol ar Gyngor Sir Fynwy yn grwgnach mai nhw gafodd y syniad gwreiddiol i gyflwyno parcio a theithio ar fws am ddim ar benwythnosau ym mis Rhagfyr, a’u bod wedi cyflwyno cais i’w drafod yn siambr y Cyngor.
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad,” meddai’r Cynghorydd Richard John, Arweinydd y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Sir Fynwy.
“Fe ddylai hyn annog pobol I ddefnyddio bysus a’I gwneud yn haws i drigolion wneud eu siopa Dolig yn lleol a chefnogi busnesau’r ardal.
“Dyma’r union fath o gamau y dylai’r Cyngor Sir eu cymryd i gefnogi canol ein trefi. Wedi dweud hynny, byddai sinig o’r farn bod y cyhoeddiad yma wedi ei amseru er mwyn osgoi dadl ar y mater a gallu cymryd y clod am y penderfyniad.”