COLOFN WYTHNOSOL BEBB AR BOLITICS…

Wel, mae Liz Truss wedi mynd. Am wastraff amser!

Serch hynny, mae’n rhaid dweud ei bod hi reit drawiadol sut y llwyddodd rhywun i wneud cweit gymaint o lanast mewn cyn lleied o amser! Dw i’n meddwl y byddech chi’n ei chael hi’n anodd cawlio pethau i’r ffasiwn raddau hyd yn oed tasa chi’n trio!

A phwy sydd yma i achub y dydd, i ddiffodd y tân gafodd ei gynnau gan Liz? Y dyn ddaru hi drechu yn y ras i fod yn Brif Weinidog, a hynny heb yr un bleidlais gan y cyhoedd, nac aelodau’r blaid Geidwadol hyd yn oed. Peth braf yw byw mewn gwlad ddemocrataidd ynde?

Dechreuodd ein Prif Weinidog newydd ei deyrnasiad drwy ein sicrhau y byddai’n ennill ein hymddiriaeth, yn llywodraethu gyda thosturi ac yn dewis ei Gabinet ar sail talent. Teg dweud ei fod o wedi mynd yn ôl ar ei air ar y tri pwynt hwnnw yn barod.

Does gen i ddim ffydd mewn dyn sy’n gwrthod mynychu cynhadledd COP 27 a ninnau yng nghanol argyfwng hinsawdd. Dw i ddim yn credu fod gan unrhyw un sydd â bwriad i gyflwyno Austerity 2.0 yn ystod argyfwng costau byw unrhyw dosturi. A dyw unrhyw un sy’n gadael Suella Braverman a Theresa Coffey ar gyfyl unrhyw gabinet yn amlwg yn malio dim am dalent.

Fe ddylai’r ffaith bod Suella Braverman wedi anfon deunydd llywodraethol sensitif yn ymwneud â seiberddiogelwch, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost preifat, at yr Aelod Seneddol Torïaidd John Hayes, olygu na ddylai byth ddychwelyd i swydd o bwys mewn unrhyw lywodraeth.

Mae’r ffaith ei bod wedi ceisio copïo gwraig Hayes i mewn i’r e-bost ond wedi ei anfon at aelod staff un arall o Geidwadwyr y meinciau cefn, Andrew Percy, yn dangos twpdra aruthrol.

Mewn difrif, ai dyma’r gorau sydd gan y Ceidwadwyr i’w gynnig ar hyn o bryd?!

Ond wrth gwrs, fe gafodd Braverman ei chroesawu’n ôl i’r gorlan, a hynny am fod ein Prif Weinidog newydd sbon danlli eisiau sicrhau cefnogaeth adain fwyaf eithafol y blaid.

Awgryma hyn yn glir nad yw Sunak yn credu fod ganddo ddigon o awdurdod, ac fel yr ydyn ni wedi’i weld tros y wythnosau a misoedd diwethaf, mae unrhyw ddisgyblaeth fewnol wedi hen adael y blaid Geidwadol.

A fydd o’n goroesi i’w harwain yn yr etholiad cyffredinol nesaf? Pwy a ŵyr? Ond y cynta’n byd y daw hwnnw, gora’n byd!

Bonws am gael y sac?!

Nid Liz Truss yn unig sydd wedi colli ei swydd yr wythnos hon.

Wrth i Rishi ad-drefnu ei Gabinet, bu yn rhaid ffarwelio â rhai o dîm Liz Truss.

Ond peidiwch da chi â theimlo gormod o bechod ar y rheini gollodd eu swyddi, oherwydd maen nhw’n cael cerdded i ffwrdd gyda bonws bach i wneud fyny am eu siom.

Ydi wir, mae rheolau’r Llywodraeth yn dweud y gall gweinidogion sy’n gadael dderbyn chwarter eu cyflog blynyddol fel taliad diswyddo, sy’n cyfateb i £16,876.25.

Ymhlith y rhai mae disgwyl iddyn nhw dderbyn yr arian hwn mae Syr Robert Buckland, cyn-Ysgrifennydd Cymru, cyn-Ysgrifennydd yr Amgylchedd Ranuk Kayawardena, a’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Chloe Smith.

Mae’n debyg y bydd Buckland yn difaru jump ship o ymgyrch Rishi Sunak i gefnogi Liz Truss yn ystod y ras i olynu Boris Johnson!

Ta waeth, yn ôl at y taliadau bonws ‘ma. Mae’r system hon yn esiampl arall o pam nad yw’r drefn yn San Steffan yn ffit i bwrpas. Ystyriwch mewn difrif, ym mha broffesiwn arall y gallech chi gael y sac wedi ychydig dros fis a cherdded i ffwrdd gyda bonws mawr? Mae’r peth yn hurt. A pe bai gan y rheini sy’n mynd i fod yn derbyn y taliad hwn unrhyw urddas fe fyddan nhw’n ei wrthod… er, wna i ddim dal fy ngwynt!

Pwy bleidleisiodd am hyn?

Huw Bebb

Bebb ar Bolitics: Doniol oedd gweld Robin Millar, AS Aberconwy, yn cipio’r faner oddi ar y ddwy ddynes, dim ond iddyn nhw estyn un arall allan o fag

Pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Lywodraeth Liz Truss

Huw Bebb

Bebb ar Bolitics: “Synnwn i ddim pe bai haneswyr y dyfodol yn ysgrifennu llyfrau am yr wythnos boncyrs yma…”