COLOFN WLEIDYDDOL WYTHNOSOL HUW BEBB…

Waeth beth ydi’ch barn wleidyddol chi, mae’n rhaid i chi gyfaddef bod wythnosau cyntaf Llywodraeth Liz Truss wedi bod yn drawiadol.

Ydi, mae hi’n drawiadol, bron yn anghredadwy, sut maen nhw wedi llwyddo i wneud gymaint o smonach o bethau!

Maen nhw’n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond mae’r wythnos ddiwethaf ‘ma wedi teimlo fel degawd.

Synnwn i ddim pe bai haneswyr y dyfodol yn ysgrifennu llyfrau am yr wythnos boncyrs yma. Neu efallai y caiff hawlio pennod go swmpus mewn llyfr gyda theitl tebyg i The Fall of The United Kingdom – where it all went wrong.

Ta waeth, dyma i chi ymdrech i geisio crynhoi’r cwbl.

Yn dilyn cyhoeddi ‘cyllideb fach’ y Canghellor Kwasi Kwarteng ddydd Gwener roedd yna ofidion am sut y byddai’r marchnadoedd ariannol yn ymateb.

Un o’r ffactorau oedd yn achosi gofid ymhlith y marchnadoedd oedd y ffaith nad oedd y Canghellor wedi comisiynu’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ddadansoddi beth fyddai effaith debygol ei gyllideb fach, er eu bod nhw wedi cynnig gwneud hynny.

Roedd y ffaith fod y Llywodraeth yn bwriadu torri cyfradd uchaf y dreth, a’i ariannu drwy fenthyca hefyd wedi corddi’r dyfroedd.

Mae’n ddiddorol bod Kwasi Kwarteng wedi cyfeirio at ei gynlluniau fel ‘cyllideb fach’, o ystyried ei fod wedi cael mwy o effaith ar economi’r wlad nag unrhyw gyllideb arall mewn cof, ond dyna ni.

Ac yn wir i chi, pan agorodd y marchnadoedd ddydd Llun, doedd y ‘gyllideb fach’ ddim wedi argyhoeddi ac fe ddechreuodd y bunt blymio, gan gyrraedd ei lefel isaf erioed ar un pwynt.

Erbyn dydd Mawrth, roedd yr International Monetary Fund (IMF) yn rhybuddio’r Llywodraeth i “ail-werthuso” ei pholisi economaidd – embaras mawr i economi fawr fel Prydain – ond roedd gwaeth eto i ddod.

Dydd Mercher, bu bron i gronfeydd pensiwn cyflog y Deyrnas Unedig fynd yn ffliwt, gan orfodi Banc Lloegr i gamu i mewn a gwario £65bn i’w hachub rhag chwalfa – sefyllfa hollol wallgof.

Tra roedd hyn i gyd yn digwydd, doedd neb yn siŵr iawn lle oedd ein Prif Weinidog newydd-ish. Efallai mai ar ymweliad â Peppa Pig World gyda’i rhagflaenydd Boris Johnson oedd hi – pwy a ŵyr?

Lle bynnag yr oedd hi wedi bod, fe wnaeth hi ddychwelyd fore Iau gan fynychu cyfres o gyfweliadau radio ar orsafoedd lleol y BBC.

Mae’n bwysig nodi mai cyfweliadau oedd eisoes wedi’u trefnu wrth edrych ymlaen at gynhadledd y Blaid Geidwadol – sy’n dechrau dydd Sul (Hydref 2) – oedd y rhain.

Fodd bynnag, er mawr syndod i bawb, nid oedd cyflwynwyr y rhaglenni hyn yn rhy awyddus i drafod cynhadledd y Blaid Geidwadol.

Roedd y rhan fwyaf o’r cyfweliadau yn cynnwys adran ar filiau ynni, a bu’r Prif Weinidog, o leiaf i ddechrau, yn mynnu na fyddai neb yn talu mwy na £2,500 y gaeaf hwn.

Y broblem yw nad dyna sut mae cap prisiau Ofgem wedi’i strwythuro – £2,500 yw’r cap cyfartalog.

Dechrau da.

Mewn cyfweliad gyda James Hanson yn BBC Bryste, cafodd y Canghellor Kwasi Kwarteng ei gyhuddo o “agor drws y stablau a dychryn y ceffylau i’r ffasiwn raddau nes bod modd gweld yr economi yn cael eu llusgo y tu ôl iddyn nhw”.

Beiodd Liz Truss y sefyllfa ar “Putin a’r rhyfel yn Wcráin”.

“Bai Valdimir Putin oedd ymyrraeth Banc Lloegr ddoe felly ia?” holodd James Hanson, wrth i’r Prif Weinidog straffaglu i gynnig ateb.

Gwerth newyddiaduriaeth leol

A dyma ddod yn daclus at y pwnc nesaf dw i’n awyddus i’w drafod yr wythnos hon, sef gwerth newyddiaduriaeth leol.

Un o’r rhesymau y cafodd Liz Truss hi mor anodd yn yr wyth cyfweliad wnaeth hi oedd y ffaith ei bod hi’n amlwg heb gael ei briffio’n ddigonol am yr ardaloedd roedd hi’n ymweld â nhw.

Daeth hyn i’r amlwg wrth iddi drafod ffracio gyda Graham Liver yn BBC Radio Lancashire, dyn oedd yn amlwg yn adnabod yr ardal, ei phobol a’i gwleidyddiaeth.

Methodd Liz Truss yn llwyr ag egluro sut oedd cael caniatâd lleol i ffracio, wrth i’r cyflwynydd egluro bod holl Aelodau Seneddol yr ardal yn ogystal â’r Cyngor Sir yn erbyn y syniad.

Ers 2005 mae 271 o bapurau newydd wedi diflannu yn y Deyrnas Unedig, rhywbeth sydd heb os wedi cael effaith ddwys ar ein democratiaeth.

Ac er bod cyfradd y dirywiad wedi lefelu allan yn y pum mlynedd diwethaf, rydan ni’n dal i golli papurau lleol.

Collwyd 20 papur newydd rhwng Ionawr 2019 ac Awst 2020, sy’n is na’r golled 43 a gollwyd yn 2018 a 30 yn 2017.

Rydyn ni gyd yn ymwybodol bod democratiaeth iach yn dibynnu ar fedru cadw gwleidyddion yn atebol i’w hetholwyr – rhywbeth y gallwch ddadlau sy’n fwyfwy prin ar y lefel genedlaethol.

Roedd y cyfweliadau hyn yn profi bod pobol sy’n adnabod eu hardal ac yn gallu gofyn y cwestiynau mae pobol leol wir am gael atebion iddyn nhw, yr un mor hanfodol i gynnal democratiaeth iach ag y mae rhaglenni cenedlaethol megis Question Time, Sunday with Laura Kuenssberg a’u tebyg.

Felly hir oes i newyddiaduriaeth leol ddyweda i!

Ysbryd cydweithio Drakeford ddim yn argyhoeddi

Roedd aelodau’r Blaid Lafur ar ben eu digon yng nghynhadledd flynyddol y blaid ddechrau’r wythnos, a phwy all eu beio?

Mae Llafur ymhell ar y blaen ymhob pôl piniwn, tra bod pethau’n mynd o ddrwg i waeth i’r Ceidwadwyr.

Cafwyd yn y gynhadledd yn Lerpwl areithiau lu am fethiannau’r Ceidwadwyr a’r hyn fyddai llywodraeth Lafur yn ei chyflawni.

Fodd bynnag, fe sbardunodd araith Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gryn dipyn o drafodaeth wrth iddo ganu clodydd ei gytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Mae yna sawl un sydd wedi bod yn barod i feirniadu’r cytundeb cydweithio ers iddo gael ei arwyddo ym mis Rhagfyr y llynedd.

Gwn nad yw Llafur Cymru na Phlaid Cymru yn berffaith o bell ffordd, ond iesgob, ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu darpariaeth gofal plant, gweithredu i fynd i’r afael â thai haf…

Siawns bod y rhain oll yn bolisïau positif sydd wedi dod o ganlyniad o ddwy blaid yn gweithio gyda’i gilydd?

Dyna geisiodd Mark Drakeford ddadlau wrth y gynhadledd beth bynnag.

“Ydy pleidiau’r chwith yn cytuno ar bopeth? Wrth gwrs ddim,” meddai.

“Ond rydyn ni’n canolbwyntio ar y meysydd ble mae pleidiau blaengar yn gallu cytuno, gwleidyddiaeth sy’n cydnabod safle Llafur fel y blaid gryfaf, ond sydd hefyd yn gwybod nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da neu flaengar.”

Saff dweud nad oedd yr ysbryd yma o gydweithio wedi creu llawer o argraff ar aelodau’r blaid yn Holyrood na San Steffan.

Efallai bod gan eu hagwedd rhywbeth i’w wneud â’r ffaith bod y blaid yn yr Alban wedi cael chwip dîn gan yr SNP ym mhob etholiad ers 2007?

Roedd hi bron fel petai Mr Picton wedi dod ar y llwyfan wrth i Ian Murray, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol yr Alban, fynnu na fyddai “dim cytundeb o fath yn y byd” yn cael ei arwyddo gyda’r SNP.

No, nay, never,” meddai’n gas i gyd wrth i’r gynhadledd ei gymeradwyo.

Cafodd y pwynt pwysig hwn ei bwysleisio ymhellach gan Anas Sarwar, sy’n arweinydd Plaid Lafur yr Alban ers 2021.

“Gynhadledd, rydych chi’n gwybod yr hyn dw i’n ei wybod,” meddai.

“Does yna ddim byd blaengar ynglŷn â chenedlaetholdeb Albanaidd.

“Mae annibyniaeth yn mynd yn erbyn undod a chyfiawnder cymdeithasol.

“Mae’n ideoleg sydd wedi’i seilio ar yr hyn sy’n ein gwahanu yn hytrach na’r hyn sy’n ein huno.”

Felly naddo, wnaeth Mark Drakeford ddim argyhoeddi’r gynhadledd.

Ond o ystyried mai cangen Cymru’r Blaid Lafur yw’r unig un sy’n ennill etholiadau cyson, efallai y dylen nhw ddechrau gwrando arno…