Bu cefnogaeth unfrydol yr wythnos hon gan holl aelodau Cyngor Nedd Port Talbot i gynllun sy’n anelu at ehangu addysg Gymraeg yn yr ardal.

Mae’r cyngor yn gyfrifol am 63 o ysgolion sy’n rhoi addysg i tua 20,000 o blant.

A bwriad Cynllun y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yw gwella’r cynllunio a chodi’r safon ar gyfer addysg Gymraeg o fewn ffiniau’r cyngor sir ar gyfer y ddegawd nesaf.

O’i roi ar waith, y gobaith yw y bydd y cynllun yn arwain at fwy o blant meithrin a chynradd yn derbyn addysg Gymraeg.

Hefyd mae hi’n amcan i gael mwy o blant yn gwella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o’u haddysg i’r llall.

Targed arall yw bod mwy o ddisgyblion a myfyrwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chynyddu nifer yr athrawon sy’n medru dysgu’r Gymraeg fel pwnc, a dysgu pynciau eraill drwy gyfrwng yr iaith.

Bu Cyngor Nedd Port Talbot yn datblygu’r cynllun ar y cyd gyda Choleg Nedd Port Talbot ac Academi Hywel Dda ym Mhrifysgol Abertawe.

Ac mae’r cynllun hefyd wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru, sydd wedi gosod y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Er mwy cyrraedd y nod, bydd angen ehangu addysg Gymraeg yn sylweddol.

Ac mae’r aelod o gabinet Cyngor Nedd Port Talbot sy’n gyfrifol am Addysg, yn dweud bod y cyngor bwrdeisdrefol yn barod am yr her.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, ehangu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn Nedd Port Talbot, a meithrin myfyrwyr a disgyblion sydd yna gyfan gwbl ddwyieithog,” meddai’r Cynghorydd Nia Jenkins.

“Bydd ein Cynllun Cymraeg mewn Addysg yn chwarae rhan fawr wrth helpu Llywodraeth Cymru i wireddu’r nod o gael miliwn y bobl yn medru ac yn mwynhau siarad Cymraeg erbyn 2050.”