Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yw pencadlys swyddogol newydd Llenyddiaeth Cymru.

Bydd cartref swyddogol newydd Llenyddiaeth Cymru yng Ngwynedd, sir sy’n gyfoethog o ran diwylliant a’r celfyddydau.

Dyma fydd y cwmni celfyddydol cenedlaethol cyntaf i fagu gwreiddiau parhaol yn y gogledd, gyda’r saith cwmni cenedlaethol arall yn y de – Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin, a’r lleill oll yng Nghaerdydd.

Ers sefydlu’r cwmni cenedlaethol yn 2011, mae eu pencadlys wedi ei leoli ym Mae Caerdydd, gyda’u staff yn gweithio o ddau safle – Canolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Bydd y ddwy swyddfa yn parhau ar agor, yn weithredol, ac yn fannau gweithio i’w staff.

Cafodd Tŷ Newydd ei sefydlu fel Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru yn 1990, ac ers hynny mae wedi croesawu cannoedd o awduron o Gymru a thu hwnt ar gyrsiau ysgrifennu creadigol.

Daeth sawl awdur nodedig o hyd i’w llais yn y ganolfan, a chafodd sawl un arall gyfle i hogi eu sgiliau fel tiwtoriaid proffesiynol a mwynhau dysgu eu crefft i eraill.

‘Hanes cyfoethog’

“Mae gan y gornel hon o Eifionydd hanes cyfoethog ac rwy’n hyderus fod y newyddion fod Llenyddiaeth Cymru yn symud ei bencadlys i’r fro yn ddechrau pennod cyffrous newydd yn y stori,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Rydw i’n croesawu’r ffaith fod y sefydliad nodedig yma’n dewis gwneud y newid hwn, gan danlinellu’r ffaith fod Gwynedd yn le braf i fyw a gweithio ynddo.

“Hyderaf bydd hyn yn atgyfnerthu’r sector diwylliannol yn yr ardal ac y bydd yn hwb pellach i’r economi wledig yng Ngwynedd.”

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r cyhoeddiad yn “newyddion arbennig o gyffrous sydd i’w groesawu yn fawr”.

“Rydym yn hynod falch fod Llenyddiaeth Cymru wedi dewis Dwyfor fel cartref newydd eu pencadlys, ac yn arbennig Tŷ Newydd, Llanystumdwy – lleoliad sydd â hanes cyfoethog ac enw da o ysbrydoli a meithrin talent llenyddol o Gymru a thu hwnt,” meddai.

“Mae’n destun balchder fod Llenyddiaeth Cymru yn ehangu gwreiddiau yma yng Ngwynedd, gan osod cynsail pwysig i ddatblygu yr arlwy celfyddydol a diwylliannol sydd yn cyfoethogi’r sir hon.

“Hyderwn y bydd y newyddion hyn yn arwain at ddiogelu a datblygu cyfleoedd gwaith lleol ynghyd a chryfhau apêl yr ardal fel cyrchfan boblogaidd i lenorion, beirdd ac yn wir, unrhyw un sy’n ymddiddori yn y grefft o ysgrifennu.

“Gyda pharatoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn eu hanterth, mae’r newyddion cyffrous hyn yn gosod sylfaen gadarn i ddatblygu yr hyn sydd gan Wynedd i’w chynnig o ran diwylliant celfyddydol.

“Edrychwn ymlaen yn arw i groesawu Llenyddiaeth Cymru yn swyddogol i Ddwyfor.”

‘O’r brifddinas i Ddwyfor wledig’

Un arall sy’n croesawu’r cyhoeddiad yw Rhys Tudur, Cynghorydd Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd.

“Dwi’n hynod falch bod Tŷ Newydd am gael ei ddynodi yn Bencadlys Llenyddiaeth Cymru, ac yn croesawu’r ffaith bod y pencadlys yn cael ei ail leoli o’r brifddinas i Ddwyfor wledig,” meddai.

“Mi fydd yn hwb economaidd a diwylliannol i’r ardal ac yn ysgogi mwy i ymddiddori mewn diwylliant Cymreig.

“Mae’r amseru yn berffaith o ystyried bod Eisteddfod Genedlaethol am ddod i Lŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf.”

Leusa Llewelyn yw Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, ac mae hi’n gweithio o’r Ganolfan ers saith mlynedd.

“Mae Tŷ Newydd yn cynrychioli ein gwerthoedd fel sefydliad, mae’n gartref croesawgar, cynnes, a’i drysau bob amser led y pen ar agor i awduron Cymru,” meddai.

“Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth, a rydym yn edrych ymlaen i barhau â’r weledigaeth honno o bencadlys sy’n annwyl iawn i’n staff, i’n hawduron, a’n cymunedau amrywiol sy’n ymwneud â’n gwaith.

“Edrychwn ymlaen at gyd-weithio â chymuned Llanystumdwy yn agosach hefyd i gynnal prosiectau llên er iechyd a llesiant, i roi rhywbeth yn ôl i’r pentref a’r ardal ehangach sy’n ein cynnal.”