Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod Bil Amaethyddiaeth (Cymru) “hanner ffordd yna i ddarparu sylfaen sefydlog i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru”.

Cafodd drafft cyntaf y Bil, ynghyd â’i ddogfennaeth ategol, eu gosod gerbron y Senedd ddydd Llun (Medi 26), gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig a gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Roedd dadl yn y Senedd wedyn ar ddydd Mawrth (Medi 27).

Yn ôl Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, mae’r Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru yn rhoi’r “cyfle i ni ddatblygu polisïau ffermio a allai fod o fudd gwirioneddol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru”.

“Bydd y Bil yn nodi’r ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac yn sbarduno’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r Deyrnas Unedig ymuno â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Ers refferendwm Brexit, rydym wedi sefyll ein tir ac wedi dadlau o blaid ehangu egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy i gynnwys cynaliadwyedd economaidd ein ffermydd teuluol, cynhyrchu cynaliadwy o fwyd olrheiniadwy diogel, diwylliant Cymru a’n hiaith sy’n rhoi ystyriaeth lawn i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac amcanion Cymreig eraill.

“Rydym felly’n falch o weld bod y Bil yn nodi pedwar amcan Rheoli Tir Cynaliadwy sy’n cynnwys cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynaliadwyedd yr iaith Gymraeg, a bydd gofyn i bob un ohonynt gyfrannu at y nodau llesiant.”

‘Hanner ffordd’

Ynghlwm wrth y rhain bydd yna ofyniad bod gweinidogion Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiadau bob pum mlynedd yn nodi’r cynnydd a wnaed ers i’r amcanion ddod i rym, ac yn ystyried amcanion o’r fath wrth gyflwyno mecanweithiau neu reoliadau cymorth newydd.

“Fodd bynnag, rydym ond wedi cyrraedd hanner ffordd gyda’r Bil hwn gan fod llawer o’r pryderon a godwyd gennym yn ein hymateb i Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd yn parhau,” meddai Glyn Roberts wedyn.

“Er nad yw’r rhestr o ddibenion y gellir darparu cymorth ar eu cyfer yn holl gynhwysfawr ac y gellir ei ddiwygio, ei ddileu ac ychwanegu ato, mae’n destun pryder nad yw llesiant economaidd busnesau fferm na’r Gymraeg wedi’u cynnwys yn benodol.

“Rhaid i ni sicrhau bod tâl ac amodau byw priodol i ffermwyr a gweithwyr mewn amaethyddiaeth ac elw digonol ar fuddsoddiad cyfalaf yn y diwydiant yn cael eu cynnwys fel amcanion diffiniedig o’r Bil.

“Heb egwyddorion sylfaenol o’r fath, bydd amcanion eraill y Bil yn cael eu tanseilio neu eu negyddu’n llwyr.”

Mae yna ddarpariaethau hefyd i gynyddu mynediad cyhoeddus i gefn gwlad, diffyg ystyriaeth i newydd-ddyfodiaid ifanc, a hepgor rheolau sy’n ymwneud â Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Sancsiynau Sifil, ac mae lle i gredu y byddan nhw’n cael eu gweithredu maes o law.

Bydd y Bil nawr yn symud ymlaen drwy gam cynta’r broses seneddol tan ddechrau 2023, a fydd yn cynnwys archwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, ac yna’r Cyfnod Diwygio yn y Gwanwyn cyn pleidleisio arno yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

“Rhaid i ni nawr werthuso’r 500 tudalen o ddeddfwriaeth, y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel y gallwn ddod o hyd i’r manylion yn y print mân a pharhau i weithio gydag Aelodau’r Senedd a phwyllgorau perthnasol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ar gyfer sector ffermio cynaliadwy ffyniannus yma yng Nghymru,” meddai wedyn.