Fyddai gan Gymru “ddim i’w ofni” o safbwynt cyllidol pe bai’n dewis dod yn wlad annibynnol.

Dyna ddywedodd Adam Price wrth golwg360 wrth drafod ymchwil newydd sydd wedi’i chyhoeddi gan Blaid Cymru.

Yn ôl y Blaid, mae’r ymchwil a gafodd gynnal gan yr Athro John Doyle o Brifysgol Dinas Dulyn yn gwrthbrofi’r honiad fod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol.

Diben yr ymchwil oedd cyfrifo faint o fwlch cyllidol fyddai gan Gymru annibynnol ar ei diwrnod cyntaf.

Mae’n dod i’r casgliad mai £2.6bn fyddai’r bwlch ariannol yn nyddiau cynnar Cymru annibynnol – sy’n sylweddol llai na’r £13.5bn sy’n cael ei ddyfynnu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae ffigwr y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’i seilio ar gyfrifiad o sut mae pethau o fewn y gyfundrefn bresennol.

Mae hyn yn golygu nad yw’n adlewyrchu costau a chyfrifoldebau fyddai gan unrhyw Lywodraeth Cymru annibynnol ar ei diwrnod gyntaf fel gwladwriaeth annibynnol.

Mae ei gasgliadau’n seiliedig ar amcangyfrif mai £77.5bn oedd allbwn economaidd Cymru yn 2019, ac y byddai’n gyfystyr ag ychydig yn llai na 3.4% o GDP – mae hyn o’i gymharu â diffyg ariannol cyfartalog holl wledydd yr OECD o 3.2% y flwyddyn honno.

Y rhesymeg tu ôl i seilio’r ymchwil ar allbwn economaidd Cymru yn 2019, yn ôl yr Athro Doyle, oedd nad yw Cymru annibynnol “yn debygol o ddyfodol yn y ddwy dair blynedd nesaf, ac mae rhywun yn gobeithio nad sefyllfa economaidd wedi’r pandemig yw’r realiti hirdymor”.

Gweledigaeth economaidd hirdymor

Mewn cynhadledd i’r wasg yn trafod yr ymchwil, gofynnodd golwg360 sut y gallai Adam Price fod yn sicr y byddai Cymru annibynnol yn ffynnu, yn ogystal â holi beth fyddai ei weledigaeth economaidd hir dymor i Gymru annibynnol.

“Dyw hwn ddim yn gwestiwn rydyn ni’n mynd ar ei ôl yn y papur hwn, roedd yna ffocws penodol gyda ni ar yr ochr gyllidol ar gyfer y man cychwyn,” meddai wrth ymateb.

“Ond yn sicr, un o’r cwestiynau sydd wedyn yn codi ydi’r model economaidd rydyn ni’n mynd i’w weithredu yn ystod blynyddoedd cynnar Cymru annibynnol a’r degawdau i ddod.

“Sut rydyn ni’n mynd i roi Cymru annibynnol ar grombil economaidd gwell na’r perfformiad economaidd cymharol sâl rydyn ni wedi cael o fewn y Deyrnas Gyfunol a sicrhau cynnydd economaidd?

“Dyna un o’r pethau y byddwn ni’n mynd ati i’w ateb wrth asesu’r opsiynau polisi fydd gan Lywodraeth Cymru annibynnol.

“Ond jyst i ddweud yn fras, mi fyswn i’n meddwl bod buddsoddi yn yr isadeiledd yn allweddol.

“Mae Cymru, at ei gilydd, yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad mewn isadeiledd.

“Rydyn ni’n gwybod o wahanol sefydliadau megis Banc y Byd bod isadeiledd yn un o’r ffactorau sydd yn fwyaf penderfynol o ran llwyddiant neu fethiant economaidd.

“Yr ail un, falle hyd yn oed yn bwysicach nag isadeiledd, yw sgiliau.

“Hynny yw, cyfalaf dynol, neu human capital fel mae e’n cael ei alw, sy’n hanfodol i unrhyw economi.

“Mae yna danfuddsoddi dybryd wedi bod yn hwnna hefyd.

“Felly fe faswn i’n meddwl bod y ddau yna yn ganolog, ac os oes rhaid enwi trydydd, fe fyddwn i’n dweud entrepreneuriaeth ac arloesedd.

“Mae hynny yn cynnwys cefnogi busnesau ac yn enwedig busnesau bychain a chanolig eu maint a hefyd ymchwil a datblygu.

“Rydyn ni’n gwybod o fewn y Deyrnas Gyfunol bod Cymru ddim ond yn cael rhywle oddeutu 1.5%, llai na 2% yn sicr o gronfeydd ymchwil a datblygu cyhoeddus, dydyn ni ddim yn cael cyfran ein poblogaeth ni.

“Wel, wrth gwrs, fe fydden ni fel gwlad annibynnol yn sicrhau ein bod ni’n buddsoddi yn ein galluoedd arloesi ni sydd yn gyrru twf economaidd.

“Felly dyna dri maes y byddwn i eisiau ei flaenoriaethu, a bydd mwy gyda ni i’w ddweud ar hyn maes o law.”

‘Newid yr hafaliad’

“Nid jyst pregethu i’r côr ‘da ni eisiau ei wneud ac mae hynny yn allweddol,” meddai Adam Price wedyn wrth ateb cwestiwn gan golwg360 ar sut yr oedd Plaid Cymru yn bwriadu lledaenu’r canfyddiadau’r ymchwil i bobol a sefydliadau sydd ddim wedi eu hargyhoeddi gan yr achos dros annibyniaeth.

“Dw i yn grediniol bod yna sgwrs am annibyniaeth ymhlith pobol gyffredin yn digwydd ar hyn o bryd.

“Weithiau dw i’n clywed sgyrsiau ar y trên, neu yn y dafarn.

“Rwyt ti’n clywed pobol yn trafod annibyniaeth, pobol sydd efallai ddim yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth dydd i ddydd.

“Felly mae’r drafodaeth yn digwydd, ond mae e’n bwysig nawr ein bod ni’n mynd ati i gael y neges graidd yma ynglŷn â gwir sefyllfa gyllidol Cymru annibynnol mas yna, mae’n rhaid cael y ffigwr yma o £2.6bn lan mewn goleuadau, goleuadau neon os gallwn ni achos mae e yn allweddol bod pobol yn ymwybodol o’r ffigwr yma.

“Mae e’n ffigwr sydd yn newid yr hafaliad ar lefel sylfaenol iawn, ac mi fydd Plaid Cymru yn gwneud rhagor o waith i fynd i’r afael â’r holl gwestiynau sydd gan bobol, ac yn y pen draw yn crynhoi’r rheini.

“I rai sydd eisiau gwybod y manylder, fe fyddan nhw’n gallu darllen papurau fel papur yr Athro Doyle.

“Bydd rhai eraill jyst eisiau gweld crynhoad o’r ffigyrau a bydd eraill jyst yn hapus i ddeall y pennawd fel petai.

“Mae’n rhaid i ni deilwra’r wybodaeth yma at gynulleidfaoedd gwahanol mewn ffyrdd creadigol, cael y neges ma’s trwy’r cyfryngau newyddion, ond hefyd y cyfryngau cymdeithasol a rhoi hwn yn nwylo ymgyrchwyr annibyniaeth, ei symleiddio fe fel ein bod ni’n gallu cael y wybodaeth yma at stepen y drws.

“Nid dim ond cynnwys y wybodaeth yma sydd yn bwysig, ond sut rydyn ni’n ei gyfleu e i bobol Cymru ac rydyn ni’n meddwl yn ddwys am hynny ac mae nifer o syniadau gyda ni a byddwn ni’n gweithredu ar hynny yn y cyfnod yma sydd i ddod.”

‘Gweithio gyda’n gilydd’

Mae Adam Price yn mynnu bod yr achos ehangach dros annibyniaeth yn bwysicach iddo na llwyddiant etholiadol Plaid Cymru.

Serch hynny, mae’n cydnabod “bod yna gyfrifoldeb arnom ni fel y brif blaid sydd o blaid annibyniaeth i gyflwyno atebion i’r cwestiynau mae pobol Cymru eisiau atebion iddyn nhw”.

“Nid dyna sydd ar flaen ein meddyliau wrth gynhyrchu’r gwaith yma,” meddai wrth golwg360.

“Wrth gwrs rydyn ni’n blaid wleidyddol, ac wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd yr unig ffordd rydyn ni’n mynd i wireddu unrhyw beth rydyn ni am ei weld ydy cael ein hethol, a’r unig ffordd rydyn ni’n mynd i gael Cymru annibynnol ydy drwy ethol pobol o bleidiau sydd o blaid annibyniaeth, a dw i yn defnyddio’r lluosog.

“Felly mae hynny wastad yn mynd i fod yn rywbeth sy’n allweddol i ni.

“Ond o ran y cymhelliant fan hyn, rydyn ni eisiau cryfhau’r ymgyrch dros annibyniaeth.

“Rydyn ni’n credu mewn creu mudiad amrywiol, cynhwysol, a dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn rhoi ein hunain ar ben pedestal, dim ond rhan o’r mudiad annibyniaeth ydyn ni.

“Dydyn ni ddim ond yn mynd i ryddhau ein hunain fel cenedl os ydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd.

“Nid rhywbeth o’r top i lawr fydd ennill rhyddid i Gymru ac rydyn ni’n cynnig hwn fel cyfraniad gennym ni, ond rhywbeth sy’n berchen i unrhyw un sy’n rhan o’r mudiad, pobol sydd ddim wedi’u darbwyllo, ond gan obeithio y byddwn ni’n perswadio pobol, nid i bleidleisio dros Blaid Cymru ond perswadio pobol i fod o blaid annibyniaeth.”

Annibyniaeth

Ymchwil yn gwrthbrofi’r honiad fod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol

Mae’r ymchwil yn hwb i’r ymgyrch tros annibyniaeth, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru