Ar drothwy etholiadau taleithiol Quebec yr wythnos nesaf (dydd Llun, Hydref 3), mae arweinydd y dalaith yn rhybuddio na ddylid croesawu mewnfudwyr yno oni bai eu bod nhw’n gallu siarad Ffrangeg.
Francois Legault yw’r ffefryn i ennill yr etholiad taleithiol, ac mae’n dweud y byddai’n “hunanddinistriol” pe bai mewnfudwyr yn mynd yno heb fod yn medru’r iaith.
“Mae angen i ni stopio’r tranc”, meddai arweinydd Coalition Avenir Quebec am yr iaith Ffrangeg, gan ddefnyddio’r term “hunanddinistriol” sawl gwaith yn ystod cynhadledd i’r wasg.
Daeth ei blaid i rym am y tro cyntaf yn 2018, gan addo torri niferoedd mewnfudwyr a chynnal yr iaith Ffrangeg yng Ngogledd America, lle mae’r mwyafrif helaeth yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
Mae disgwyl i’w blaid ennill 98 sedd allan o 125.
Ei addewid yn gynharach eleni oedd cyflwyno cap o 50,000 o fewnfudwyr, ac mae ei blaid eisoes wedi cyflwyno bil sy’n sicrhau bod mewnfudwyr newydd yn cael mynediad at wasanaethau’r llywodraeth trwy gyfrwng y Ffrangeg ar ôl bod yn byw yn y dalaith am chwe mis.
Ond mae rhai cyflogwyr wedi bod yn gwrthwynebu’r cam, gan ddweud ei bod hi’n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gyflogi pobol.