Mae Cynghorydd Plaid Cymru yn galw ar ei gydweithwyr yng Ngwynedd i gefnogi ei rybudd o gynnig i ddileu’r teitl ‘Tywysog Cymru.’

Mae Elfed Wyn ap Elwyn, Cynghorydd Blaenau Ffestiniog dros Bowydd a Rhiw, yn credu’n gryf bod y teitl yn parhau yn symbol hanesyddol o oruchafiaeth dros Gymru gan wlad arall.

Mae hefyd yn galw ar bob awdurdod perthnasol i ddileu’r teitl Tywysog Cymru.

“Dwi’n credu’n gryf mai rŵan ydi’r amser iawn i drafod y mater yma,” meddai.

“Mae Cymru heddiw yn wlad fodern, ddemocrataidd, gyda Senedd sy’n gwneud cynnydd, yn rhoi llais a llwyfan i bobol Cymru i ysgogi newid a datblygu fel cenedl.

“Mae’r traddodiad gormesol hynafol hwn yn falltod ar ein cenedl ac mae wedi bod ers canrifoedd.

“Mae’n rhoi’r argraff mai’r system sy’n berchen bobol Cymru, yn hytrach na’n bod ni’n ddinasyddion rhydd sy’n byw yn ein gwlad ein hunain.

“Mae’n ein dal yn ôl rhag camu ymlaen yn annibynnol a gwneud ein ffordd ein hunain yn y byd.

“Yn fy marn i, dyma’r amser i roi’r cyfle i bobol Cymru leisio barn a dileu’r teitl sarhaus hwn a drosglwyddwyd i’n cenedl gan foneddigion fel symbol gormesol parhaus ar ein tir a’n pobol.

“Does dim synnwyr, yn fy marn i bod cymaint o arian cyhoeddus yn mynd i gynnal y teulu Brenhinol, gan gynnwys swydd Tywysog Cymru, gan ystyried yr argyfwng costau byw y mae ein pobol ar hyd a lled y wlad yn ei ddioddef.”

‘Gwlad deg a chyfartal’

Mae’r teitl ‘Tywysog Cymru’ wedi cael ei ddefnyddio gan dywysogion brodorol Cymru ers y deuddegfed ganrif.

Tywysog olaf Cymru oedd Llywelyn ein Llyw Olaf, a gafodd ei ladd gan filwyr Lloegr ym 1282.

Yn ôl yr hanes, cafodd pen Llywelyn ei dorri, ac aethpwyd ag e drwy strydoedd Llundain cyn cael ei arddangos ar giât y tu allan i Dŵr Llundain.

“Mae fy Nghymru i yn un lle gallaf fagu fy ngefeilliaid bach mewn gwlad deg a chyfartal, lle nad oes neb yn gallu gosod arnom hualau dosbarth cymdeithasol, symbolaeth na statws sy’n effeithio ar ein hunaniaeth Gymreig falch,” meddai Elfed Wyn ap Elwyn wedyn.

“Dylai pobol Cymru fod yn rhydd i wneud ein dewisiadau ein hunain ac yn rhydd o unrhyw glymau symbolaidd gaiff ei orfodi arnom.”

Arwisgiad

Mae hefyd yn annog ei gyd-gynghorwyr i’w gefnogi yn ei gais i wrthod unrhyw drafodaeth am gynnal Arwisgiad yng Ngwynedd nac mewn unrhyw leoliad arall yng Nghymru.

“Yn fy marn i, byddai’n sarhad llwyr trafod cynnal rhyw basiant seremonïol unrhyw le yng Nghymru,” meddai.

“Byddai’n sarhad ar Gymru a’i phobol i gynnal seremoni Arwisgo ar dir Cymru.”

Mae’n credu bod arwisgiad 1969 wedi rhannu’r genedl, wedi creu drwgdeimlad a difrod di-ben-draw o fewn cymunedau, meddai.

“Diddymwyd dyddiau Cymru fel “a little Principality” yn Neddf Cyfreithiau Cymru’r unfed ganrif ar bymtheg.

“Mae’n hen bryd i’r hyn a elwir yn deitl anrhydeddus, Tywysog Cymru, hefyd gael ei ddileu i’r llyfrau hanes.

“Dwi’n galw ar Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi’r cynnig hwn ac yn annog cynghorau eraill yng Nghymru i drafod y mater.

“Mae angen i unrhyw benderfyniadau o’r math yma gael eu gwneud yng Nghymru, gan bobol Cymru yn dilyn trafodaeth gyhoeddus.”

Bydd y rhybudd o gynnig yn cael ei drafod yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ar ddydd Iau, Hydref 6.