Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, yn dweud ei fod e eisiau i’r llywodraeth glymblaid barhau.

Ond mae’n dweud bod rhaid i’r llywodraeth fod yn gryf er mwyn wynebu heriau byd-eang.

Mae’n argyfwng ar bwyllgor gwaith Catalwnia ar hyn o bryd ar ôl i lefarydd ar ran Junts per Catalunya, un o bleidiau’r llywodraeth glymblaid, awgrymu y dylai’r arlywydd, sy’n cynrychioli plaid Esquerra Republicana, wynebu pleidlais hyder yn siambr Catalwnia pe na bai modd cadw at y cytundeb rhwng y pleidiau.

O ganlyniad, fe alwodd Aragonès gyfarfod cabinet arbennig, gan ofyn i bob gweinidog o blaid Junts per Catalunya a oedden nhw’n gwybod y byddai Albert Batet yn crybwyll y syniad o gynnig hyder, ac a oedden nhw’n cytuno â’r egwyddor.

Cafodd Jordi Puignero, y dirprwy arlywydd, ei ddiswyddo nos Fercher (Medi 28), ar ôl i’r arlywydd golli ffydd ynddo ac roedd cyfarfodydd drwy gydol y dydd ddoe (dydd Iau, Medi 29) cyn i’r cyd-lywyddion Jordi Turull a Laura Borràs gyhoeddi mai dydd Sul (Hydref 2) fyddai’r diwrnod olaf i’r pleidiau ddod i gytundeb.

Ar Hydref 6 a 7, mae disgwyl i Junts ofyn i’w haelodau a ddylai’r blaid barhau’n rhan o’r llywodraeth ac maen nhw wedi rhoi tan y dyddiad hwnnw i’r arlywydd drafod amodau er mwyn aros yn rhan o’r llywodraeth.

Mae Junts eisiau atebion pendant gan Esquerra ynghylch tri phrif faes, sef undod strategol, amnest a hunanlywodraeth.

Mae disgwyl i Junts gyfarfod eto dydd Llun (Hydref 3) i drafod y ffordd ymlaen pe na bai cytundeb erbyn hynny.

Anghydweld tros annibyniaeth

Er bod Junts per Catalunya ac Esquerra o blaid annibyniaeth, maen nhw’n anghytuno ynghylch y ffordd o’i chwmpas hi o ran yr ymgyrch.

Hefyd yn rhan o’r ffrae mae’r cyhuddiadau o lygredd yn erbyn llywydd Junts a phenderfyniad Aragonès i beidio â mynd i rali annibyniaeth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Catalwnia yn ddiweddar gan nodi ei bod yn brotest yn erbyn gwleidyddion ac nid yn erbyn y drefn wleidyddol yn Sbaen.

Ond mae’r ffrae wedi gwaethygu yr wythnos hon ar ôl i Junts fygwth pleidlais hyder pe na bai Esquerra yn cadw at amodau’r glymblaid, ac ar ôl i’r arlywydd ddiswyddo’i ddirprwy.

Yn ôl Aragonès, roedd y diswyddiad yn “gam angenrheidiol er mwyn cryfhau’r pwyllgor gwaith”, ond mae Junts wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod yn “gamgymeriad hanesyddol” ac maen nhw’n gwrthod cynnig olynydd iddo.

Mae Ada Colau, Maer Barcelona, wedi camu i mewn gan ofyn i’r pleidiau roi’r gorau i’r ffrae.