Mae ymchwil newydd gan academydd blaenllaw sydd wedi’i chyhoeddi gan Blaid Cymru’n gwrthbrofi’r honiad fod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol, yn ôl y blaid.
Dywed yr arweinydd Adam Price fod yr ymchwil, sy’n dangos y byddai’r diffyg ariannol i Gymru yn sgil gadael y Deyrnas Unedig yn llai na’r hyn sydd wedi’i ragfynegi yn y gorffennol, yn hwb i’r ymgyrch tros annibyniaeth a’i bod yn “newid y gêm”.
Cafodd y dadansoddiad ei gynnal gan yr Athro John Doyle o Brifysgol Dinas Dulyn, ac mae’n dod i’r casgliad mai £2.6bn fyddai’r bwlch ariannol yn nyddiau cynnar Cymru annibynnol – sy’n sylweddol llai na’r £13.5bn sy’n cael ei ddyfynnu’n aml iawn.
Mae ei gasgliadau’n seiliedig ar amcangyfrif yn 2019 mai £77.5bn yw allbwn economaidd Cymru, ac y byddai’n gyfystyr ag ychydig yn llai na 3.4% o GDP – mae hyn o’i gymharu â diffyg ariannol cyfartalog holl wledydd yr OECD o 3.2% y flwyddyn honno.
O ganlyniad, byddai diffyg ariannol Cymru annibynnol tua’r un faint â gwledydd cymharol, meddai’r ymchwil, sy’n dod i’r casgliad nad yw hynny’n rwystr sylweddol fel sy’n cael ei awgrymu.
Yn ôl Plaid Cymru, mae hyn yn effeithio’n fawr ar y ddadl dros annibyniaeth o safbwynt y dyhead ei hun, yn ogystal â dichonolrwydd ac amseru annibyniaeth gan fod lle i gredu yn y gorffennol y byddai’n rhaid aros i’r economi gryfhau er mwyn i Gymru allu fforddio annibyniaeth fel opsiwn ‘realistig’.
I’r gwrthwyneb, dywed y blaid fod angen gofyn a oes gobaith y gall economi Cymru gryfhau o fewn y Deyrnas Unedig bellach, ac maen nhw’n dadlau mai “annibyniaeth yw’r cam cyntaf angenrheidiol tuag at economi gryfach a thecach”.
Ymchwil ac eglurhad
Fe wnaeth yr Athro John Doyle ddadansoddi prif rannau’r bwlch ariannol, gan gynnwys pensiynau, ad-daliadau dyledion cenedlaethol y Deyrnas Unedig a gwariant ar amddiffyn, ynghyd â thangyfrifon o gyfran Cymru o refeniw trethi.
Fe ddaeth i’r casgliad y byddai’r elfennau o’r rhain fyddai’n cael eu trosglwyddo i Gymru annibynnol yn cyfateb i ryw £2.6bn.
“Dydy effaith economaidd Cymru annibynnol ddim felly’n cael ei chyfyngu’n sylweddol gan y sefyllfa ariannol bresennol,” meddai.
“Y dull gofalus clasurol fu dadlau bod angen i economi, cynhyrchiant ac incwm Cymru dyfu er mwyn cau’r bwlch ariannol a gwneud annibyniaeth yn fwy ‘ymarferol’.
“Ond mae hon yn ddadl ‘iâr neu ŵy’ glasurol. Beth pe na bai’n bosib tyfu cynhyrchiant ac economi Cymru heb y lifrau polisi sydd ar gael i wladwriaeth annibynnol?
“Ers 50 mlynedd, mae GDP y pen wedi aros yn weddol sefydlog ar 75% o GDP cyfartalog y pen, gydag ychydig iawn o arwyddion o’r math o gydgyfeiriad a gafodd ei weld yn Ewrop rhwng lefel incwm gwladwriaethau sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.
“Byddai’n cymryd newid polisi radical iawn i gyflwyno dadl gredadwy fod yr ugain mlynedd nesaf yn debygol o gyflwyno canlyniad gwahanol i Gymru.
“Byddai’n sicr yn werth archwilio’n fanwl pa offerynnau polisi gafodd eu defnyddio gan wladwriaethau bychain sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd sydd wedi elwa ar y fath gydgyfeiriad gydag economïau mwy cyfoethog.
“Canlyniad fy mhapur yw nad yw bwlch ariannol Cymru’n ddigon mawr i ddileu’r posibilrwydd o Gymru annibynnol ddichonadwy.
“Gellid cau’r bwlch ariannol drwy dwf economaidd cymharol fach, ynghyd â pholisi trethi gwahanol.
“Mae’r rhain yn feysydd y dylai’r ddadl ynghylch arian cyhoeddus Cymru annibynnol ganolbwyntio arnyn nhw.
“Mae angen i ddadansoddi economaidd symud oddi wrth ganolbwyntio ar y bwlch ariannol i archwilio’r rhesymau dros y perfformiad economaidd is hwnnw yng Nghymru, a’r diffyg cydgyfeiriad yn fwy cyffredinol rhwng gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.
“Mae lleoliad daearyddol Cymru a hollti ei diwydiannau traddodiadol yn aml yn cael eu cynnig fel esboniadau, ond pe bai daearydd yn ffactor pendant, pam fod perfformiad Cymru, sy’n agos at berfformiad Gogledd Iwerddon yn hytrach na Gweriniaeth Iwerddon, sydd ill dwy yn nes at y cyrion yn ddaearyddol na Chymru?”
Mae gwaith yr Athro John Doyle wedi cyfrannu at dystiolaeth Plaid Cymru i’r Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ond mae’n dadlau, fel Gwyddel, nad ei le yntau yw dadlau o blaid annibyniaeth.
“Nid mater i fi fel academydd Gwyddelig yw cynghori pobol Cymru ar eu dewisiadau cyfansoddiadol yn y dyfodol, ond mae’r ffigwr £13.5bn, sy’n aml yn cael ei ddyfynnu fel un sy’n cynrychioli arian cymorth blynyddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru, yn rhan o ymarferion cyfrifo’r Deyrnas Unedig, ac nid yw’n cyfrifo’r bwlch ariannol a fyddai’n bod yn ystod dyddiau cynnar Cymru annibynnol,” meddai.
“Mae’r ffordd mae bwlch ariannol Cymru’n cael ei gyfrifo gan Swyddfa Ystadegau Gwladol y Deyrnas Unedig yn ddigon clir i ddadansoddiad gwleidyddol benderfynu pa elfennau o’r cymorth hwn fydd yn berthnasol i Gymru annibynnol.
“Mae fy nadansoddiad wedi dod i’r casgliad y bydd y ffigwr oddeutu £2.6bn, sy’n sylweddol is na’r ffigwr £13.4bn sy’n aml yn cael ei ddyfynnu yn y cyfryngau.”
‘Tanseilio’r ddadl’
Yn ôl Adam Price, mae’r ymchwil yn “tanseilio’r ddadl ymhellach fod Cymru’n rhy fach ac yn rhy dlawd i ffynnu fel cenedl annibynnol”.
“Nid yn unig mae gwaith yr Athro Doyle yn adeiladu ymhellach ar y corff o dystiolaeth sy’n cefnogi’r achos tros Gymru annibynnol, ond mae hefyd yn newid y gêm o ran y ddadl ynghylch ei dichonolrwydd,” meddai.
“Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed amcangyfrifon gwyllt ynghylch y bwlch ariannol tebygol fyddai’n bod pe baen ni’n dod yn annibynnol nad ydyn nhw’n perthyn i realiti.
“Mae hyn yn dangos unwaith ac am byth fod “economeg ffantasïol” yn cael ei phedlo gan y rheiny nad ydyn nhw o blaid annibyniaeth.
“Bydd annibyniaeth hefyd yn rhoi’r cyfle i Gymru wella’n heconomi drwy bolisïau sydd wedi’u dylunio i greu sylfaen economaidd mwy amrywiol gyda mwy o fusnesau bach a chanolig dan berchnogaeth leol, gan wella cynhyrchiant ac arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus, gan wneud y mwyaf o fuddiannau economaidd drwy bolisïau caffael lleol a buddsoddi yn isadeiledd y dyfodol.”
‘Dim byd ond ffigurau ffantasïol ar gefn amlen’
Un sydd wedi wfftio’r ymchwil yw Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae’n dweud bod yr adroddiad yn cynnwys “rhagfynegiadau gwyllt ynghylch yr hyn fyddai Llywodraeth Cymru’r dyfodol yn ei wneud pe bai Cymru’n annibynnol”.
Mae’n dweud na fyddai Llywodraeth Cymru’n “cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gadw pobol yn ddiogel”, gan droi cefn ar wariant ar amddiffyn a dod â chymorth yn null UK Aid i ben ar gyfer gwledydd sy’n datblygu, “heb sôn am fod heb uchelgais ar gyfer polisi tramor Cymru gyda llysgenadaethau’n cau o amgylch y byd”.
“Ac mae’n debyg y byddai’r wladwriaeth Gymreig yn gallu trafod cytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn osgoi dyled yn dod atom ni,” meddai.
“Dydy’r adroddiad hwn yn ddim byd ond ffigurau ffantasïol ar gefn amlen i gyfiawnhau obsesiwn Plaid.
“Mae angen i Adam Price fod yn onest â phobol Cymru ac egluro beth fyddai’n ei dorri o’n cyllidebau milwrol, gwasanaethau diplomyddol a chymorth.
“Yn hytrach na herio’r Llywodraeth Lafur ar y ffaith mai Cymru yw’r unig genedl yn y Deyrnas Unedig i weld cynnydd mewn tlodi plant neu gost ddiddiwedd yr argyfwng poen gyda rhestrau aros cynyddol y Gwasanaeth Iechyd, mae Plaid wedi ymuno â Llafur â chap yn eu dwylo ar gyfer rhagor o wleidyddion a gwastraffu amser ar economeg fwdw.”