Mae’r “polisïau radical” gafodd eu cyflwyno yng nghynhadledd y Blaid Lafur, yn ogystal â’r ffaith fod Llywodraeth Geidwadol San Steffan “ar chwâl”, wedi gadael Mick Antoniw yn teimlo’n fodlon ei fyd yn dilyn cynhadledd y Blaid Lafur.
Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn Lerpwl rhwng dydd Sul (Medi 25) a dydd Mercher (Medi 28).
Gwelodd y dyddiau hynny Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu, neu’n achosi, un argyfwng ar ôl y llall, tra bod y Blaid Lafur ymhell ar y blaen ymhob pôl piniwn.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n glir fod yna ddau beth wedi digwydd,” meddai Cwnsler Cyffredinol Cymru wrth golwg360.
“Un, rydyn ni’n dechrau gweld y Blaid Lafur yn dechrau cyflwyno polisïau eithaf radical.
“Mae’r syniad o gael cwmni ynni gwladol gwyrdd yn ddatblygiad sylweddol, mae gwladoli’r rheilffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig yn newid cyfeiriad pwysig dros ben.
“Yn yr un modd, mae’r drafodaeth a gafwyd yn y gynhadledd ar system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol yn un arwyddocaol, er bod y ddadl honno yn parhau.
“Felly roedd y gynhadledd yn llawer iawn mwy radical ac wedi’i gyrru fwy gan bolisi nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl.
“Ond yr hyn sydd hefyd yn glir yw fod gennym ni lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd ar chwâl, ac mae’r posibilrwydd o etholiad cyffredinol yn gynyddol debygol.
“Mae’r polau piniwn i gyd yn awgrymu bod yna newid mawr ar droed yn nhermau argraffiadau pobol o’r llywodraeth ac maen nhw’n awgrymu y byddai Llafur yn ennill mwyafrif enfawr pe bai yna etholiad yfory.
“Mae’r anhrefn sydd wedi cael ei achosi gan wythnosau cyntaf Liz Truss yn Brif Weinidog yn ogystal â chyllideb Kwasi Kwarteng [y Canghellor] wedi datgelu llywodraeth sydd wedi colli rheolaeth ar yr economi.
“Ac os oes yna un peth mae pobol ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig ei eisiau, llywodraeth sydd mewn rheolaeth o’r economi ydi hynny.
“Efallai bod yna wahaniaeth o ran cyfeiriad ac ati, ond mae pawb eisiau gweld llywodraeth sydd mewn rheolaeth.
“Felly dw i’n meddwl bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn argyfwng ar hyn o bryd.”
Sut mae symud ymlaen?
Mae Mick Antoniw o’r farn fod yna “egwyddorion sylfaenol sydd angen cael eu sefydlu” er mwyn i unrhyw Lywodraeth Lafur lwyddo i adfer y sefyllfa mae’r Deyrnas Unedig ynddi.
“Un o’r rhain, heb os nac oni bai, ydi datrys y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon,” meddai.
“Dyw’r Bil Protocol mae’r Ceidwadwyr yn ceisio bwrw ymlaen gydag e ddim wir yn mynd i unman.
“Alli di ddim datrys problem wleidyddol gyda deddfwriaeth.
“Yr ail beth yw mynediad i’r farchnad.
“Mae’n rhaid i ni gael rhyw fath o drefniant sy’n rhoi gwell fynediad i ni i fasnachu, ac mae hynny yn golygu bod yn rhaid i ni wella ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd.
“Mae angen i ni weithio law yn llaw gyda’r Undeb Ewropeaidd yn nhermau buddiannau cyffredin ar fasnach yn hytrach na’r trywydd rydyn ni arno nawr, sy’n edrych fel rhyfel masnach i bob pwrpas.
“Fe fyddai hynny yn drychinebus i bawb.
“Yn drydydd mae’n rhaid cael cytundeb cyffredin ar sefyllfa diogelwch rhyngwladol o ganlyniad i’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin a thwf yr hyn all ddim ond cael ei disgrifio fel gwladwriaeth ffasgaidd yn Rwsia sy’n gwneud pob math o fygythiadau ac yn gynyddol gael eu hynysu’n rhyngwladol.
“A dw i’n meddwl bod y pedwerydd un yn ymwneud â’r economi.
“Fe fydd sicrhau bod arian cyhoeddus ar gael er mwyn talu cyflogau go iawn yn hynod bwysig.
“All hynny ddim ond cael ei gyflawni gyda pholisïau sy’n ailddosbarthu cyfoeth.
“Dyna fydd y sialens go iawn i unrhyw Lywodraeth Lafur, sef datblygu rhaglen economaidd gref, ond un sydd hefyd yn ailddosbarthu cyfoeth ac yn cydnabod anghenion y rhan fwyaf o’r gweithlu.”
Canu clodydd cydweithio
Mae Mick Antoniw yn credu bod gan ganghennau’r Blaid Lafur yn Lloegr a’r Alban “wersi i’w dysgu o sut mae gwleidyddiaeth wedi datblygu yng Nghymru”.
Yn ei araith yn y gynhadledd, bu’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn canu clodydd ei gytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.
“Ydy pleidiau’r chwith yn cytuno ar bopeth? Wrth gwrs dydyn nhw ddim,” meddai.
“Ond rydyn ni’n canolbwyntio ar y meysydd lle mae pleidiau blaengar yn gallu cytuno, gwleidyddiaeth sy’n cydnabod safle Llafur fel y blaid gryfaf, ond sydd hefyd yn gwybod nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da neu flaengar.”
Saff dweud nad oedd yr ysbryd yma o gydweithio wedi creu llawer o argraff ar aelodau’r blaid yn Holyrood na San Steffan.
Defnyddiodd Ian Murray, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol yr Alban, ei araith i fynnu na fyddai “dim cytundeb o fath yn y byd” yn cael ei lofnodi gyda’r SNP.
“No, nay, never,” meddai wrth i’r gynhadledd ei gymeradwyo.
Pam, felly, mae Llafur Cymru yn fwy parod i gydweithio? Ydyn nhw’n fwy blaengar na’r canghennau yn Lloegr a’r Alban?
“Dw i’n meddwl bod y blaid yng Nghymru yn deillio o sefyllfa wahanol,” meddai Mick Antoniw.
“Rydyn ni wastad wedi cydnabod bendithion cydweithio, mae’n rywbeth sydd yn rhan annatod o strwythur ein cyfansoddiad.
“Mae’r ffordd rydyn ni a’r Prif Weinidog yn gweld pethau yn deillio o’r ffaith yna.
“Rydyn ni awyddus i weithio tuag at fuddiannau cyffredin ac mae hynny yn rywbeth sy’n taro deuddeg gyda phobol Cymru.
“Y pwynt roedd Mark Drakeford yn ei wneud yn y gynhadledd oedd bod ein profiadau ni o gydweithio wedi bod yn rhai positif ac efallai bod yna wersi i’w dysgu o sut mae gwleidyddiaeth wedi datblygu yng Nghymru.”