Mae menywod o bob rhan o Gymru wedi cael eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo sy’n cydnabod llwyddiannau rhai o fenywod mwyaf anhygoel y wlad.

Cafodd gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022 eu cynnal neithiwr (nos Iau, Medi 29) fel seremoni hybrid am y tro cyntaf erioed.

Ar ôl cael ei chynnal ar-lein am ddwy flynedd yn olynol oherwydd y pandemig, cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd a’i ffrydio’n fyw ar Facebook Live a Twitter ITV Cymru.

Mae Womenspire yn dathlu ac yn arddangos llwyddiannau menywod o bob cefndir sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.

Emily Nicole Roberts

Yr enillydd mwyaf ar y noson oedd Emily Nicole Roberts o Bontarddulais, menyw ifanc â pharlys yr ymennydd sydd wedi cymryd arni ei hun i ysbrydoli, addysgu a chefnogi eraill sy’n byw ag anableddau.

Derbyniodd y Wobr Seren Ddisglair yn ogystal â theitl cyffredinol Pencampwraig Womenspire 2022 ar ôl creu argraff ar y beirniaid â’i gwaith eirioli a’i fideos YouTube doniol ac addysgiadol.

Dechreuodd hi recordio’i hun pan sylweddolodd fod yna ddiffyg gwybodaeth ymarferol ar gael i bobol ag anableddau, ac aeth ati i greu ffilmiau ‘sut i’ yn dangos i bobol ag anableddau eu bod nhw’n gallu gwneud popeth y mae pobol heb anableddau’n gallu ei wneud.

Andrea Byrne o ITV Cymru a’r actor a’r cyflwynydd Elin Pavli-Hinde oedd yn cyflwyno’r noson ac yn ystod y seremoni, cafodd y gynulleidfa eang ei hysbrydoli gan hanesion a newyddion am holl gyflawniadau’r menywod oedd yn cael eu hanrhydeddu.

Yr enillwyr

Gwobr Cysylltydd Cymunedol – noddir gan Mencap Cymru: Sophie Hinksman (Saundersfoot) – Ymgyrchydd diflino sydd wedi bod yn weithgar iawn ym maes hunan-eiriolaeth a hawliau pobol ag anableddau dysgu – yn ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau maen nhw’n eu hwynebu.

Gwobr Entrepreneur – noddir gan Banc Datblygu Cymru: Maggie Ogunbanwo (Penygroes) –Mae Maggie, a gafodd ei geni yn y DU ond ei magu yn Nigeria, yn byw ei breuddwyd ar ôl iddi sefydlu cwmni Maggie’s An African Twist to Your Everyday Dish® ym Mhenygroes. Mae hi’n rhan allweddol o’i chymuned yn y gogledd ac yn cefnogi busnesau yn ei bro ac yn helpu menywod eraill i ddyrchafu eu hunain.

Gwobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd – noddir gan Academi Wales: Sarah-Jayne Bray (Port Talbot) – Mae Sarah-Jayne yn Gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywedd Heddlu De Cymru, ac mae hi’n gweithio’n ddygn i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth ar flaen y gad o fewn ei sefydliad.

Pencampwraig Gymunedol – noddir gan Tiny Rebel: Zarah Kaleem (Casnewydd) – Fel menyw ifanc o gefndir ethnig lleiafrifol sydd ag anabledd dysgu, mae Zarah wedi gweithio’n galed i gyflwyno cyrsiau hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ar gamwahaniaethu a barnu ar gyfer ysgolion a busnesau.

Gwobr Arweinydd – noddir gan Business in Focus: Siân Morgan (Caerfyrddin) – Mae Siân yn gyfrifol am weddnewid bywydau mewn cymunedau ledled Cymru, fel Prif Weithredwr Hafan Cymru, sef cymdeithas dai elusennol sy’n darparu llety a chymorth i fenywod, dynion, eu plant a phobol ifanc.

Gwobr Dysgwr – noddir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru: Celsey Janes (Abertawe) – Ychydig iawn o gymwysterau oedd gan Celsey pan adawodd yr ysgol, ond ar ôl cwblhau rhaglen datblygu gyrfa Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg, mae hi bellach yn arwain tîm o 24 o lanhawyr yn Thrive Group Wales – menter gymdeithasol sy’n cefnogi Thrive Women’s Aid (elusen trais yn y cartref).

Gwobr Seren Ddisglair – noddir gan Target Group: Emily Nicole Roberts (Pontarddulais) – Fel menyw â pharlys yr ymennydd, penderfynodd Emily fynd ati i ysbrydoli, addysgu a chefnogi pobl eraill sy’n byw ag anableddau ac mae hi’n gwneud hyn i gyd â llawer iawn o egni cadarnhaol.

Gwobr Menyw Mewn Iechyd a Gofal – noddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC): Kelly Clewett (Prestatyn) – Mae Kelly yn rheoli tîm o 29 o nyrsys ardal sy’n cyflwyno gofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Hi hefyd yw Arweinydd y Tîm Adnoddau Cymunedol sy’n helpu nyrsys ardal a gwasanaethau cymdeithasol i gydweithio’n agosach.

Gwobr Menyw Mewn Chwaraeon – noddir gan Chwaraeon Cymru: Vera Ngosi-Sambrook (Caerdydd) – A hithau’n gymharol newydd i feicio, yn 2021 derbyniodd Vera yr Ysgoloriaeth Pellter Ultra sydd â’r nod o gynyddu cynrychiolaeth pobl o gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yn y Ras Ban Geltaidd.

Gwobr Menyw Mewn STEM – noddir gan ABPI: Katherine Axten (Caerffili) – A hithau’n gweithio fel un o’r unig beirianyddion benywaidd DevOps mewn cwmni mawr, mae Katherine wedi goresgyn rhagfarn a chamwahaniaethu sylweddol a heddiw mae hi’n beiriannydd meddalwedd hynod o fedrus a llwyddiannus dros ben yn ei maes.

Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg (i fusnes neu sefydliad) – noddir gan Hodge: Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Mae’r sefydliad yn gynhwysol, yn arloesol ac yn ymatebol ac mae ymrwymiad i gydraddoldeb a thegwch wedi’i ymgorffori ym mhopeth a wna.

Llongyfarchiadau

“Dyma seithfed seremoni wobrwyo Womenspire ac unwaith eto mae wedi bod yn wych clywed hanesion pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a dathlu eu llwyddiannau,” meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg.

“Mae’n rhaid i mi longyfarch pob un o’r rhai a gafodd eu henwebu, yr enillwyr a phawb sydd wedi cyfrannu at wneud Womenspire 2022 yn llwyddiant aruthrol.

“Mae dyfarnu gwobr Pencampwraig Womenspire i Emily Nicole yn adlewyrchiad o’r heriau aruthrol mae hi wedi’u hwynebu a’r ffaith ei bod hi, drwy ei phenderfyniad ei hun i greu adnoddau i eraill, yn galluogi pobol eraill i oresgyn rhwystrau a byw bywyd i’r eithaf.

“Ac mae hi bob amser yn gwneud hynny â gwen fawr ar ei hwyneb a chwerthiniad heintus.

“Dylai pawb wylio ei ffilmiau a dysgu!”