Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud ei fod wedi cael sioc, ond heb ei synnu, o glywed bod un ym mhob wyth swydd nyrsio a bydwreigiaeth yng ngogledd Cymru yn wag.

Daeth y ffigurau newydd i’r amlwg trwy gais Rhyddid Gwybodaeth gan Llyr Gruffydd.

Dywed fod pryderon cynyddol am staff meddygol, nyrsio a bydwreigiaeth rheng flaen sydd wedi’u gorymestyn ac yn gweithio’n ormodol wedi ysgogi’r ymholiad.

“O siarad â nyrsys, meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws y Gogledd ers rhai blynyddoedd, mae Plaid Cymru wedi bod yn ymwybodol o brinder staff ers peth amser,” meddai.

Sgil-effeithiau

“Mae’r rhain yn cael sgil-effeithiau difrifol ar y rhai sy’n delio â galwadau cynyddol am ofal,” meddai Llyr Gruffydd.

“Mae staff yn gorfod cyflenwi dros gydweithwyr absennol, maen nhw wedi llosgi allan, maen nhw’n ymddeol cyn gynted ag y gallant, maen nhw’n torri’n ôl ar eu horiau.

“I wneud iawn, mae Betsi Cadwaladr yn gorfod gwario miliynau bob blwyddyn ar feddygon locwm a nyrsys asiantaeth – gan losgi trwy eu cyllidebau o ganlyniad.

“Mewn rhai adrannau, mae prinder staff yn dod yn argyfyngus ac mae gwaith yn gorfod cael ei adleoli dros y ffin yn Lloegr ar gost ychwanegol i’r bwrdd iechyd. Nid yw hyn yn gynaliadwy.”

Dywed fod hyn yn cael effaith gynyddol ar ofal cleifion.

“Un canlyniad anweledig i brinder staff yw bod mwy na 100 o welyau ar draws y Gogledd nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

“Er bod rhywfaint o hyn oherwydd Covid-19, mae’n ymddangos bod hyn yn bennaf oherwydd prinder staff.

“Nid oes digon o nyrsys i staffio’r wardiau hyn.

“Mae hynny’n golygu bod cleifion sydd angen gwely yn aml yn gorfod aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod yn rhaid i ambiwlansys aros yn hirach y tu allan i’n holl ysbytai cyffredinol.”

‘Cylch dieflig’

Dywed Llyr Gruffydd ei fod yn teimlo, ar ôl 10 mlynedd o alw am wella cynllunio’r gweithlu, bod Llywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd wedi bod yn hynod o araf i weithredu.

“O’r diwedd rydym wedi cael ysgol feddygol yn y gogledd ac o’r diwedd rydym yn gweld mwy o hyfforddiant nyrsio arbenigol a phroffesiwn perthynol i iechyd yn Wrecsam yn ogystal â Bangor,” meddai.

“Ond mae’n rhy ychydig, yn rhy hwyr a phobol gogledd Cymru yw’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd.

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn frawychus ond nid yn syndod – rydym yn gwybod pa mor wael ydyw ac ni ddylem byth dderbyn y lefel hon o brinder staff fel rhywbeth ‘normal’ neu dderbyniol.

“Canlyniad y prinder staff hwn yw cylch dieflig lle mae’n rhaid i’r rhai sy’n weddill weithio’n wastad i lenwi’r bylchau.

“Nid yw’n fodel cynaliadwy yn enwedig ar ôl effaith Covid, sydd wedi cael effaith ddinistriol ar lawer o weithwyr iechyd proffesiynol.”

Sgwrs ‘onest’ ac ‘agored’ am ddatrys y broblem

Plediodd Llyr Gruffydd yn uniongyrchol i weinidog iechyd Cymru.

“Ddegawd yn ôl, cyhoeddodd BIPBC gyda ffanffer bod ‘gofal iechyd yn y gogledd yn newid’,” meddai.

“Gwnaeth hynny drwy gau mwy na 50 o welyau gofal cymunedol mewn pedair tref a chanoli gwasanaethau allweddol.

“Ydy, mae gofal iechyd wedi newid – er gwaeth.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru, a gymerodd y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig saith mlynedd yn ôl ond a fethodd â mynd i’r afael â llawer o’r problemau allweddol a wynebodd heddiw, i gydnabod yr heriau staffio parhaus sy’n ein hwynebu yn y Gogledd.

“Dewch i ni gael sgwrs onest ac agored am ddatrys y broblem hon ar y rheng flaen yn ogystal â mynd i’r afael â’r broblem gronig ar lefel uwch reolwyr lle mae’r bwrdd bellach ar ei seithfed prif weithredwr mewn naw mlynedd.”