Mae Plaid Cymru’n cyhuddo Liz Truss o ddweud “celwydd noeth” ynghylch biliau ynni.

Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fynnu wrth BBC Radio Kent a BBC Radio Leeds heddiw (dydd Iau, Medi 29) na fyddai “neb” yn talu dros £2,500 y flwyddyn ar filiau.

Ond mae Plaid Cymru’n amcangyfrif y bydd 44.1% o aelwydydd yng Nghymru’n talu mwy na’r swm hwnnw.

Yn ôl y Blaid, mae Gwarant Prisiau Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cap ar bris unedau nwy a thrydan, sy’n golygu y bydd aelwydydd yn talu £2,500 ar gyfartaledd ond dydy e ddim yn sicrhau nad yw’r un aelwyd yn talu dros £2,500.

Maen nhw’n dweud bod ffigurau Llywodraeth Liz Truss yn dangos y bydd teuluoedd sy’n byw mewn tai sengl yn talu £3,300 a theuluoedd sy’n byw mewn tai dwbwl yn talu £2,650 o dan y gwarant prisiau.

Mae 25.1% o dai Cymru’n dai dwbwl a 19% yn dai sengl, sy’n arwain at ffigwr Plaid Cymru o 44.1% o aelwydydd yn talu dros £2,500 – sy’n sylweddol uwch na’r 39.6% yn Lloegr.

‘Celwydd trwy ei dannedd’

“Mae Liz Truss yn dweud celwydd trwy ei dannedd ynghylch biliau ynni,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Mae hi’n honni na fyddai ‘neb’ yn talu biliau tanwydd dros £2,500 – ond y gwir ydy fod disgwyl i 44.1% o aelwydydd Cymru fod yn talu dros y swm hwnnw.

“Mae pobol yn wynebu gaeaf eithriadol o heriol.

“Mae angen gwybodaeth gywir, ddibynadwy arnyn nhw i fedru gwneud penderfyniadau deallus ynghylch eu gwariant.

“Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog a’r Canghellor wedi ymgolli cymaint yn eu hideoleg wyrdroedig fel nad ydyn nhw bellach yn gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen.

“Gadewch i ni dorri trwy’r sbin.

“Mae angen cap prisiau ynni gwirioneddol arnom, ond nid dyna ydy Gwarant Prisiau Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Galwodd Plaid Cymru am gapio prisiau ynni ar eu lefelau mis Ebrill.

“Mae’n bryd i Liz Truss gydnabod fod ei chynllun yn gadael pobol yn ei chael hi’n anodd ac yn defnyddio treth ffawdelw newydd i ddod â phrisiau’n ôl i lawr i’r lefelau roedden nhw cyn mis Ebrill.”