Mae 59% o bobol Cymru yn bryderus am effaith newid hinsawdd a dim ond 19% sy’n credu bod Llywodraeth y Derynas Unedig yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r mater, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil gan The Climate Coalition hefyd yn dangos mai effaith newid hinsawdd yw pryder mwyaf rhieni Cymru am ddyfodol eu plant (32%), ac wedyn iechyd (23%), arian (29%) a phryderon am swyddi (24%).

Daw’r arolwg barn wrth i’r grŵp lansio ymgyrch newydd o’r enw Llythyrau i Yfory, a fydd yn gweld y cyhoedd yn ysgrifennu llythyrau at eu hanwyliaid am eu gobeithion a’u hofnau ar gyfer y dyfodol.

Bydd The Climate Coalition yn anfon llythyr bob dydd at Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Syr Keir Starmer, arweinydd yr wrthblaid; a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i’w hatgoffa’n ddyddiol ynghylch lefel pryder y cyhoedd.

Canfyddiadau

Canfu’r arolwg barn hefyd fod:

  • 48% o bobol Cymru yn pryderu am effaith newid hinsawdd ar y genhedlaeth nesaf
  • pobol yng Nghymru sy’n poeni y bydd newid hinsawdd yn effeithio’n negyddol ar y Deyrnas Unedig yn y deng mlynedd nesaf
  • 60% yn poeni am dywydd eithafol
  • 51% yn poeni am lygredd aer
  • 50% yn poeni am brinder bwyd / cynnydd ym mhrisiau bwyd
  • 49% yn poeni am sychder

Blychau post o Gaerdydd i Gernyw

Nod yr ymgyrch yw cynhyrchu miloedd o lythyrau ac mae blychau post gwyrdd wedi ymddangos yn Llundain, Manceinion, Cernyw a Chaerdydd i annog rhagor.

Mae’r blychau post wedi’u gosod mewn ardaloedd sydd eisoes yn teimlo effeithiau newid hinsawdd.

Cafodd Arglawdd Fitzhamon yng Nghaerdydd, sydd gyferbyn â Stadiwm Principality, ei ddewis er mwyn tynnu sylw at berygl llifogydd yn yr ardal.

Mae blychau post hefyd wedi ymddangos ar Euston Road, un o’r ardaloedd yn Llundain sydd â’r llygredd aer gwaethaf, St Peter’s Square ym Manceinion, sy’n ardal gafodd ei hadfywio’n ddiweddar a’i llenwi â choed i liniaru’r perygl o lifogydd, ac Aber yr Hayle yng Nghernyw sy’n enwog am orlifo ar hyd ei glannau yn ystod llanw uchel.

Mae ffigurau adnabyddus gan gynnwys Annie Lennox, Mya-Rose Craig, Chris Packham, Jackie Morris, JB Gill a Dr Amir Khan eisoes wedi cyfrannu Llythyr i Yfory, ochr yn ochr â phrif weithredwyr elusennau, grwpiau cymunedol, ysgolion a phobol ledled y wlad.

Angen arweinwyr

“Mae ein hymgyrch Llythyrau Yfory yn rhoi’r cyfle i bobol leisio eu gobeithion a’u hofnau personol iawn ynghylch yr argyfwng hinsawdd,” meddai Bronwen Smith-Thomas, Pennaeth Ymgyrchoedd a Gwleidyddiaeth yn y Climate Coalition.

“Mae wedi’i gynllunio i roi cipolwg prin i’r rhai sydd mewn grym ar y pryder bob dydd y mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn ei deimlo ar hyn o bryd.

“Bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â’r ymadrodd ‘mae’r dyddiau’n hir ond mae’r blynyddoedd yn fyr’.

“Credwn ei bod yn hanfodol i’n harweinwyr roi’r gorau i weithredu fel pe bai digon o amser i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sylweddoli ei fod yma eisoes ac yn effeithio ar bob un ohonom.

“Yr ymgyrch hon yw ein galwad i arfogi.

“Mae arnom angen arweinwyr i fynd ar ochr iawn hanes yn awr.

“Mae angen i ni leihau ein dibyniaeth ar nwy drud sy’n llygru, drwy fuddsoddi mewn cartrefi mwy effeithlon a rhoi ynni adnewyddadwy fforddiadwy yn lle tanwyddau ffosil, a dechrau diogelu ac adfer byd natur yn y Deyrnas Unedig a thramor.”