Does gan y refferenda mae Rwsia wedi eu cynnal ym mhedair ardal yn Wcráin fel cyfiawnhad i’w cyfeddiannu “ddim dilysrwydd mewn cyfraith ryngwladol”, yn ôl Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Cafodd pleidleisiau honedig eu cynnal yn Luhansk a Donetsk yn y dwyrain, ac yn Zaporizhzhia a Kherson yn y de.

Mae disgwyl i Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, gynnal seremoni lofnodi swyddogol ddydd Gwener (Medi 30), lle bydd hefyd yn traddodi araith.

Roedd swyddogion sydd â chefnogaeth Rwsia wedi honni’n gynharach fod refferenda yn y pedair ardal wedi sicrhau’r bleidlais boblogaidd bron yn llwyr.

‘Refferenda ffug’

“Maen nhw’n refferenda ffug sydd wedi cael eu cynnal dan fygythiad gwn,” meddai Mick Antoniw, sydd o dras Wcreinaidd, wrth golwg360.

“Mae’r canlyniadau wedi cael eu penderfynu ymlaen llaw a does ganddyn nhw ddim dilysrwydd mewn cyfraith ryngwladol.

“A dw i ddim yn credu eu bod nhw’n newid dim byd cyn belled â bod pobol Wcráin, Llywodraeth Wcráin a llywodraethau’r Gorllewin yn y cwestiwn.

“Bydd Wcráin yn parhau i frwydro er mwyn cipio’r tir sydd o dan reolaeth Rwsia yn ôl.

“Yn y bôn dyw hyn yn ddim ond ymdrech gan Putin i dynnu sylw oddi ar fethiannau Rwsia yn y rhyfel.

“Mae’n ceisio gwneud rhagor o fygythiadau sydd ddim wir yn newid dim ar lawr gwlad.

“Ond y gwir amdani yw bod yna banig llwyr ac anhrefn yn datblygu yn Rwsia yn sgil y ffordd mae pobol gyffredin yn cael eu hanfon i ffwrdd i ryfel.

“Fe ddechreuodd Putin drwy ddweud mai ymgyrch filwrol arbennig oedd hon, doedd e ddim eisiau cyfeirio ato fel rhyfel.

“Mae pawb bellach yn gallu gweld mai rhyfel yw hwn.

“Ond beth sydd hefyd yn hynod o glir yw bod pobol – sy’n aml yn leiafrifoedd ethnig – yn cael eu casglu a’u hanfon i ryfel.

“Felly mae yna elfen o lanhau ethnig yn perthyn i hyn.

“Mae hefyd wedi arwain at ddegau o filoedd o Rwsiaid yn ffoi o’r wlad.

“Felly mae’r wlad mewn cyflwr o banig llwyr.

“Dw i’n meddwl ei fod yn fater nawr o barhau i gefnogi Wcráin a hyd yn oed o gynyddu’r gefnogaeth yna.”

Brolio’r Arlywydd Zelenskyy

Mae Mick Antoniw o’r farn bod yr Arlywydd Volodymyr Zelenskyy yn haeddu canmoliaeth am y modd mae’n ceisio cyfathrebu gyda phobol Rwsia.

O ganlyniad, mae’n darogan y gallen ni weld “niferoedd sylweddol” o filwyr sy’n cael eu hanfon i’r rhyfel yn erbyn eu hewyllys yn “ildio i luoedd Wcráin”.

“Yr hyn sydd gyda ti yw nifer fawr o bobol sydd ddim wedi cael eu hyfforddi ar gyfer rhyfel rheng flaen, sydd ddim eisiau bod yno ac sy’n aml ddim yn deall pam eu bod nhw yno,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod ffordd yr Arlywydd Zelenskyy yn gywir. Mae’n ceisio cyfathrebu gyda phobol Rwsia gymaint ag y mae’n gallu.

“Ond hefyd mae e’n agor y drws i’r rheini sy’n cael eu hanfon i’r rhengoedd blaen yn erbyn eu hewyllys i ildio i luoedd Wcráin drwy warantu na fyddan nhw’n cael eu cosbi, y byddan nhw’n cael eu trin yn dda, ac na fyddan nhw’n cael eu dychwelyd yn orfodol i Rwsia.

“Dw i’n meddwl y gall hyn fod yn arwyddocaol ac yn rywle y gallen ni weld niferoedd sylweddol o filwyr yn gollwng eu harfau ac yn ildio i luoedd Wcráin.

“Bydd yn rhaid i ni aros i weld sut mae hynny yn datblygu.”