Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Medi 29) y bydd cymorth ariannol gydol oes i bobol sydd wedi’u heffeithio gan y cyffur thalidomide yng Nghymru.

Roedd thalidomide yn cael ei ddefnyddio’n aml i drin salwch y bore mewn menywod beichiog rhwng 1958 a 1961, ond fe ddaeth i’r amlwg ei fod wedi achosi namau geni difrifol mewn babanod.

Mae oddeutu 30 o oroeswyr yng Nghymru am dderbyn y Grant Iechyd, gyda llawer ohonyn nhw bellach yn 60 oed neu’n hŷn.

Cafodd y cyffur ei dynnu oddi ar y farchnad ym mis Rhagfyr 1961.

‘Diwallu anghenion goroeswyr’

Daw’r cytundeb deng mlynedd presennol ar gyfer Grant Iechyd yr Ymddiriedolaeth Thalidomide i ben ym mis Mawrth 2023.

Mae Ymddiriedolaeth Thalidomide yn goruchwylio gweinyddu’r Grant Iechyd i oroeswyr thalidomide sy’n defnyddio’r arian ar gyfer ystod eang o ddibenion iechyd. Mae’r rhain yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â rheoli poen, cymorth personol a gofal personol, symudedd ac annibyniaeth a mynediad at ymyriadau gofal iechyd.

Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £8m i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide i gefnogi goroeswyr.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, daeth cytundeb ynghylch adolygiadau cyllid rheolaidd yn y dyfodol gyda’r Ymddiriedolaeth, a fydd yn sicrhau bod anghenion goroeswyr yn parhau i gael eu diwallu.

‘Bron pob un ohonynt yn byw mewn poen cyson’

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd i oroeswyr thalidomide y bydd cymorth ariannol parhaus ar gael iddyn nhw,” meddai Eluned Morgan.

“Mae darparu cymorth gyda’u hanghenion iechyd parhaus a’u hanghenion iechyd yn y dyfodol yn eu galluogi i fod yn annibynnol a sicrhau eu llesiant cyn hired â phosibl.

“Hoffwn ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide am eu gwaith o ran helpu i oruchwylio’r grant a rhoi cymorth hanfodol i oroeswyr Thalidomide.”

“Mae’r rhan fwyaf o’n buddiolwyr nawr yn eu 60au ac mae’r blynyddoedd o ddefnyddio eu cyrff mewn ffyrdd na fwriadwyd wedi cael effaith fawr,” meddai Deborah Jack, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymddiriedolaeth Thalidomide.

“Mae bron pob un ohonynt yn byw mewn poen cyson ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt broblemau iechyd lluosog bellach.

“Mae cost eu hanghenion cymhleth yn sylweddol ac yn cynyddu.

“Mae llawer ohonynt wedi bod yn bryderus iawn am y posibilrwydd y bydd y cyllid mawr ei angen hwn yn dod i ben, felly mae’r newyddion hwn i’w groesawu.

“Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn drwy ymrwymo i roi cymorth ariannol gydol oes i’n buddiolwyr, a chytuno i adolygu’r lefel cyllid yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion newidiol.”