Mae Liz Truss wedi amddiffyn polisi economaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ei mesurau – sy’n cynnwys torri cyfradd uchaf y dreth – yw’r cynllun cywir” er mwyn hybu’r economi.
Daw hyn ar ôl i Fanc Lloegr gael eu gorfodi i ymyrryd mewn marchnadoedd a phrynu dyled y llywodraeth yn sgil argyfwng marchnadol sydd wedi arwain at gostau benthyca’r Llywodraeth yn codi’n aruthrol.
Mae’r bunt wedi syrthio i’w lefel isaf erioed yn erbyn y ddoler, gan gyfnewid ar gyfradd o 1.0435.
Mae Syr Charlie Bean, cyn-Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr, yn dweud y bydd dal angen i gyfraddau llog godi er gwaethaf ymyrraeth y Banc.
Yn y cyfamser, mae’r IMF wedi ymosod ar gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu £45bn o doriadau treth, sy’n cael eu hariannu gan fenthyca.
Maen nhw’n annog y llywodraeth i “ail-werthuso” eu cynllun economaidd.
Yn ei sylwadau cyhoeddus cyntaf ers cyhoeddi’r gyllideb fach ddydd Gwener (Medi 23), amddiffynnodd Liz Truss fesurau’r Canghellor Kwasi Kwarteng, gan fynnu bod angen “gweithredu brys” er mwyn “sbarduno twf economaidd”.
Fodd bynnag, mae hi’n cyfaddef bod penderfyniadau’r Llywodraeth wedi bod yn “ddadleuol”.
“Roedd yn rhaid i ni gymryd camau brys er mwyn sbarduno twf economaidd, cael Prydain i symud a hefyd delio â chwyddiant,” meddai’r Prif Weinidog wrth BBC Radio Leeds.
“Wrth gwrs, mae hynny’n golygu cymryd penderfyniadau dadleuol ac anodd ond rwy’n barod i wneud hynny fel Prif Weinidog oherwydd yr hyn sy’n bwysig i mi yw ein bod ni’n cael ein heconomi i symud, ein bod yn sicrhau bod pobol yn gallu dod drwy’r gaeaf hwn ac rydym yn barod i wneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod hynny’n digwydd.”
Dadansoddiad
Rydyn ni tua thair wythnos i mewn i gyfnod Liz Truss fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a dw i ddim yn siŵr iawn sut y gallai pethau fod yn waeth.
Mae’r bunt wedi plymio i’w lefel isaf erioed, chwyddiant drwy’r to ac mae’n debyg y bydd cyfraddau llog swyddogol yn codi eto i 6% os yw’r farchnad yn gweithredu fel y disgwyl, sy’n golygu cyfraddau morgais o 7.5% – newyddion erchyll i unrhyw un sydd â morgais.
Ddoe (dydd Mercher, Medi 28), bu bron i gronfeydd pensiwn cyflog y Deyrnas Unedig fynd yn ffliwt, gan orfodi Banc Lloegr i gamu i mewn a gwario £65bn i’w hachub – sy’n sefyllfa hollol wallgof.
Yn y cyfamser, mae costau benthyca’r Deyrnas Unedig yn codi ar raddfa frawychus, gan olygu y bydd mwy o arian yn gorfod cael ei wario ar daliadau llog dyledion y wlad, tra bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hamddifadu.
Ar ben hyn oll, mae hi wir yn anodd dychmygu – mewn termau economaidd – embaras fwy i economi fawr fel Prydain na’r IMF yn galw ar y Llywodraeth i wneud tro pedol ar ei bolisi economaidd.
A dyna yn union sydd ei angen gan y Llywodraeth hon – tro pedol a gobeithio i’r nefoedd bod y marchnadoedd economaidd yn gwenu arnom.
Fodd bynnag, mae’n edrych yn debygol bod Liz Truss a Kwasi Kwarteng yn benderfynol o fwrw ymlaen â’u harbrawf economaidd, a gallwch fod yn sicr mai dim ond rhagor o newyddion drwg sydd ar y ffordd os fydd marchnadoedd yn parhau i’w damnio.