Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia ac arweinydd plaid Esquerra, wedi diswyddo’i ddirprwy Jordi Puigneró, yr aelod cabinet mwyaf blaenllaw Junts per Catalunya, y blaid sy’n bartner iau yn y glymblaid.
Mewn datganiad neithiwr (nos Fercher, Medi 28), ac yn dilyn chwech awr o drafodaethau, dywedodd Aragonès fod yn rhaid i Junts benodi olynydd i’w ddirprwy ac y bydd y swydd yn aros yn wag tan hynny, a’i fod e’n gobeithio y bydd y blaid yn penodi rhywun i “adfer hyder” rhwng y ddwy blaid.
Dywed ei fod yn gobeithio y bydd Junts yn gallu parhau’n bartner yn y llywodraeth, ac mae disgwyl i’r blaid honno gyfarfod heddiw (dydd Iau, Medi 29) i drafod y ffordd ymlaen.
Gallai diswyddiad y dirprwy arlywydd arwain at y blaid yn gadael y llywodraeth, ac mae pob gweinidog sydd gan y blaid wedi cynnig ymddiswyddo pe bai swyddogion y blaid yn penderfynu gwneud hynny.
Annibyniaeth
Mae’r glymblaid yn wynebu ei hargyfwng mwyaf ers ei sefydlu yn sgil y ffrae ddiweddaraf, gyda’r pleidiau’n anghytuno ynghylch cam nesa’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gatalwnia.
Tra bod Esquerra yn ffafrio cynnal trafodaethau â Sbaen, mae Junts yn amau na fyddai hynny’n arwain at gynnydd gan ffafrio dull tebycach i refferendwm 2017, oedd heb ei gydnabod gan Sbaen oedd yn dadlau ei fod yn anghyfansoddiadol.
Mae’r ffrae wedi gwaethygu ers i Junts ofyn am bleidlais hyder ddechrau’r wythnos, gan mai’r arlywydd yn unig all ofyn am bleidlais o’r fath.
Mae holl fusnes yr arlywydd wedi’i ganslo am y tro er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.
Yn ôl Pere Aragonès, penderfynodd e ddiswyddo Jordi Puigneró ar ôl iddo fe fethu â rhoi gwybod am y bleidlais hyder gafodd ei thrafod ddydd Mawrth (Medi 27), ac fe wnaeth e “golli hyder” yn ei ddirprwy, meddai, sy’n dadlau bod y diswyddiad yn “gam angenrheidiol” er mwyn cryfhau’r weinyddiaeth.
Yn ôl Junts per Catalunya, “camgymeriad hanesyddol” yw diswyddo’r dirprwy arlywydd, a’r camgymeriad hwnnw’n “peryglu annibyniaeth” a chafodd hynny ei gyfleu yn ystod y trafodaethau cyn cyhoeddi’r penderfyniad.
Bu’n rhaid gohirio cyfarfodydd arweinyddol yn sgil y penderfyniad hefyd, ac mae disgwyl i’r cyfarfodydd hynny gael eu cynnal heddiw.