Mae hiliaeth yn parhau i’w gwneud hi’n anodd i fyfyrwyr Affro-Garibïaidd ddod o hyd i lety prifysgol yng ngogledd Cymru, yn ôl elusen.
Cafodd Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru ei sefydlu yn 2018, ac mae llawer o’u gwaith yn canolbwyntio ar gynorthwyo myfyrwyr a’u teuluoedd sy’n cyrraedd o wledydd ledled Affrica i ganfod llety addas ac i ddod yn rhan o fywyd yn y gogledd.
Ond mae canfod llety yn peri problem wirioneddol gyda chynifer â chwech aelod o un teulu yn chwilio am dŷ, yn ôl Dr Salamatu Fada, cadeirydd y Gymdeithas sy’n arbenigo mewn cadwraeth ac sy’n hanu o Nigeria ond bellach yn byw ym Mangor.
“Rwy’n cael trafferth cael llofft iddyn nhw dros nos, ac mae’r llifddorau’n agor fis Medi pan fo’r brifysgol yn dechrau,” meddai.
‘Angen cymorth tymor hirach i’n cymuned’
Tai a dod o hyd i swyddi ydy’r prif broblemau mae ymfudwyr yn eu hwynebu, meddai Dr Salamatu Fada.
“Mae dod o hyd i waith yn anoddach oherwydd bod cynifer o’r bobol yn gymwys iawn ond yn amlwg yn methu siarad Cymraeg.
“Yn anffodus, pan ddaw i dai mae pobol ddu yn dueddol o ddioddef.
“Fe wnes i weld hynny pan ddois i yma yn 2011 ac yn chwilio am lety.
“Pan fo rhai landlordiaid yn gweld eich bod yn ddu, nid ydynt eisiau dangos y lle i chi hyd yn oed ac roedd gen i’r arian am chwe mis o rent.
“Yn aml, mae digon o dai gwag ac mae pobol o hyd sydd yn methu dod o hyd i lety – rydym angen apelio ar landlordiaid.
“Rydym angen cymorth tymor hirach i’n cymuned sy’n ymdrin â rhai o achosion sylfaenol anghydraddoldeb o ran hiliau.
“Bydd yn ein galluogi ni eirioli mewn achosion lle mae pobol wedi cael eu gadael ar ôl neu allan o’r system, neu pan maen nhw wedi teimlo nad oes ganddynt rym i weithredu, ond heb ddeall y ceisiadau am wybodaeth gan yr awdurdodau.
“Mae angen ymdrin â hiliaeth sefydliadol a strwythurol drwy gynyddu dealltwriaeth am y gymuned BAME a’u hanghenion.”
Ymestyn gwasanaethau diolch i gyllid newydd
Bydd y Gymdeithas yn ymestyn eu rhaglen gymorth am dair blynedd ar ôl ennill grantiau dros £100,000 gan sefydliadau fel y Gronfa Loteri Fawr.
Mae’r grant wedi galluogi’r Gymdeithas i ymestyn eu hystod o wasanaethau, gan gynnwys gwersi Cymraeg, cyngor ar gyllid, astudiaethau amgylcheddol, gweithgareddau plant, carnifal a chynorthwyo i brynu bwyd o Affrica ac India’r Gorllewin.
Ond grant lai o £2,000 gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned a osododd y ffordd, yn ôl Dr Salamatu Fada.
“Gwnaeth y grant hwn ac un gan Sefydliad Teulu Douglas Pennant ein galluogi ni ddal i fynd a rhentu lle ar Stryd Fawr Bangor a darparu cyfleusterau yno ar ôl i ni sefydlu i ddechrau gyda chymorth gan elusen y Trwynau Coch ac elusen BAWSO sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i gymunedau du a lleiafrifol,” meddai.
“Rydym bellach wedi cael cyllid am y tair blynedd nesaf.
“Ond heb y cymorth dilynol a gawsom gan y grantiau cychwynnol hynny, ni fyddem wedi gallu sefydlu na dechrau cael staff yn yr eiddo.”
Ymwelodd Ashley Rogers, Cadeirydd PACT, â’r safle ym Mangor.
“Mae’n bleser gweld bod cyllid PACT wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu datblygiad,” meddai.
“Drwy eu gweithgareddau sy’n agored i bawb yn y gymuned, mae’r Gymdeithas yn anelu i ddathlu’r diwylliannau Cymreig ac Affricanaidd, gan arwain at ddealltwriaeth well a mwy o gydlynu cymunedol.
“Mae ein cyllid gan PACT wedi cynorthwyo canlyniadau iechyd gwell ac wedi lleihau unigedd, gan wneud cymunedau mwy diogel a chynaliadwy ledled gogledd Cymru.”