Mae’r cynnydd mewn tai gwyliau yn cael “effaith ddramatig” ar y tai sydd ar gael i’w rhentu, meddai ymchwil newydd.

Yn ôl dadansoddiad melin drafod Sefydliad Bevan, mae nifer yr eiddo sy’n cael eu rhestru ar AirBnb yng Nghymru wedi cynyddu o 13,800 yn 2018 i 21,718 ym mis Mai eleni.

Gwynedd, Sir Benfro a Phowys sydd â’r nifer uchaf o dai wedi’u rhestru ar AirBnb.

Mae’r cynnydd wedi digwydd ar yr un adeg ag y mae prinder “difrifol” mewn tai ar rent fforddiadwy, medd y sefydliad.

Fis diwethaf, fe wnaeth Sefydliad Bevan ddarganfod mai dim ond 60 eiddo dros Gymru i gyd sy’n cael eu hysbysebu â rhent sy’n cyd-fynd neu’n is na faint y gall aelwydydd incwm isel ei dderbyn drwy’r Budd-dal Tai neu’r Lwfans Tai Lleol.

“Gall perchnogion eiddo wneud elw llawer uwch drwy rentu fel tŷ gwyliau yn hytrach na rhentu i breswylwyr,” meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.

“Ar gyfartaledd, byddai hi’n cymryd llai na deng wythnos i westeiwr sy’n rhentu eu heiddo ar AirBnb i wneud yr un faint ag incwm rhent blynyddoedd landlord sy’n rhentu ei eiddo ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol ymhob un o awdurdodau lleol Cymru oni bai am Dorfaen.”

‘Dewis amhosib’

Mae Sefydliad Bevan yn cydnabod pwysigrwydd tai gwyliau i’r economi leol, ond gyda phrinder tai fforddiadwy ar rent dros Gymru, mae angen cael cydbwysedd rhwng cyfleoedd economaidd a sicrhau bod gan bobol gartref.

“Gyda chyn lleied o dai ar rent ar gyfer aelwydydd ar incwm isel, mae pobol yn wynebu dewis amhosib – symud o’u cymuned, symud i dai ansawdd isel, trio talu’r bwlch rhwng eu rhent a’u budd-daliadau drwy wario llai ar fwyd a gwres, neu ddod yn ddigartref,” meddai Steffan Evans.

“Os ydyn ni am ddarganfod datrysiad hirdymor i argyfwng tai Cymru mae hi’n hanfodol bod gwaith yn cael ei wneud i reoleiddio’r sector eiddo gwyliau ynghyd â’r sector rhentu preifat.”