Mae’r holl wrthbleidiau yn San Steffan bellach yn galw am ail alw’r senedd.
Mae’r senedd wedi cael ei ohirio dros dro ar hyn o bryd tra bod y ddwy brif blaid yn cynnal eu cynadleddau blynyddol.
Mae disgwyl i Aelodau Seneddol ddychwelyd ar Hydref 11.
Daw hyn ar ôl i Fanc Lloegr gael eu gorfodi i ymyrryd mewn marchnadoedd a phrynu dyled y Llywodraeth yn sgil argyfwng marchnadol sydd wedi arwain at gostau benthyca’r llywodraeth yn codi’n aruthrol.
Mae’r bunt wedi syrthio i’w lefel isaf erioed yn erbyn y ddoler, gan gyfnewid ar gyfradd o 1.0435 doler.
Mae Syr Charlie Bean, cyn-ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, yn dweud y bydd dal angen i gyfraddau llog godi er gwaethaf ymyrraeth y Banc.
Yn y cyfamser, mae’r IMF wedi ymosod ar gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu £45bn o doriadau treth, sy’n cael eu hariannu gan ddyledion.
Maen nhw’n annog y llywodraeth i “ail-werthuso” ei gynllun economaidd.
Argyfwng economaidd
“Mae hyn yn ymyrraeth enfawr mewn ymgais i wrthbwyso ansefydlogrwydd a achosir gan Gyllideb anllythrennog economaidd y Llywodraeth,” meddai Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys.
“Yn y cyfamser nid yw’r Prif Weinidog a’r Canghellor yn unman i’w gweld.
“Rhaid galw’r senedd yn ôl ar frys.”
Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, hefyd yn awyddus i weld Aelodau Seneddol yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin er mwyn mynd i’r afael â’r helynt economaidd.
Dywed fod y Deyrnas Unedig yn “wynebu argyfwng economaidd sy’n dirywio’n gyflym”.
Cyhuddodd Syr Keir Starmer y llywodraeth o “golli rheolaeth ar yr economi”.
“Yn wahanol i sefyllfaoedd eraill lle gallai fod yn ddigwyddiad byd-eang, neu’n ddigwyddiad annisgwyl sy’n achosi’r math yma o argyfwng, y llywodraeth sy’n gwbl gyfrifol am yr argyfwng hwn.
“Cafodd hyn ei wneud yn Stryd Downing ddydd Gwener diwethaf.
“Ac er mwyn beth? Toriadau treth i’r rhai sy’n ennill cannoedd o filoedd o bunnoedd.”