Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cerddor, actor a digrifwr Dewi ‘Pws’ Morris o Nefyn yng Ngwynedd sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Y peth dw i’n cofio bwyta fwya’ pan o’n i’n fach oedd brechdan banana wedi mashio efo siwgr a llaeth. Ro’n i’n bwyta hynna yn aml. Dw i’n cofio Mam yn neud e i fi a fi’n dwli arno fe. Ond pan o’n i tua saith oed wnes i wrthod bwyta unrhyw beth ond tost a menyn a jam – do’n i’n bwyta dim byd arall. O’n i jest yn licio fe. Wnaeth hynny bara tua blwyddyn neu ddwy. Dw i’n credu dyna pam dw i wedi colli ngwallt! Ond o’n i ddim yn mynd yn sâl so oedd Mam yn iawn am y peth.

Doedd Dad ddim yn coginio o gwbl – Mam oedd yn cwcio bob dim. Roedd hi’n gwneud pethau eitha’ traddodiadol, ac roedden ni’n cael bara lawr a chocos yn aml. Dw i’n dal i fwyta bara lawr nawr ond bwyta fe’n oer. Roedd y teledu yn beth newydd ar y pryd a dw i’n cofio roedd Mam wedi darllen rysáit mewn magazine am “TV Special”  – a be oedd e oedd brechdan efo cig moch, tomatos ac ŵy di ffrio a HP Sauce. A pan oedd Mam yn gofyn “be wyt ti moyn i de?” o’n i’n gofyn am “TV Special”.

Oedd mam hefyd yn gwneud be oedd hi’n alw’n “slwtsh ar dost” – tun o bins a thun o domatos wedi malu, efo twlpyn mawr o gaws wedi gratio, a’u cynhesu nes bod nhw’n slwtsh. Roedd Mam yn gwneud hwn i fi pan o’n i’n dod adra o’r ysgol am ginio.

Yn fy mlwyddyn gynta’ yn yr ysgol ramadeg dyma Mam yn mynd i gyfarfod rhieni a’r athro’n gofyn: “Pa eglwys dach chi’n mynd iddi?” a Mam yn dweud: “Capel ‘dan ni.”  A dyma fe’n dweud: “O, mae Dewi wedi troi’n Gatholig ar ben ei hun.” A be oedd e, ar y diwrnod cynta’ dyma nhw’n gofyn: “Any Catholics here cos they have fish and chips on a Friday.” So wnes i roi’n llaw i fyny er mwyn cael y fish a chips. Ges i hamran gan Mam am newid crefydd!

Dw i’n cofio pan o’n i’n fach oedden ni wastad yn mynd am bicnics a chael brechdan ŵy efo lot o halen. Os dw i’n mynd i angladd neu briodas nawr dw i wastad yn mynd am y frechdan ŵy a samwn, ond samwn o dun. Dw i’n eitha’ hawdd i blesio.

Sa’ i’n cwcan fy hunan ond mae Rhiannon [ei wraig] yn gwneud lasagne a sbag bol hyfryd. Dw i licio cyri lot, ac mae lle da fan hyn ym Mhwllheli. Os dw i’n mynd i Groeg dw i licio stifado – cig sydd wedi cael ei goginio’n hir iawn, efo tatws a bins gwyrdd. A bob yn ail ddiwrnod yn Llydaw ro’n i’n bwyta moules frites – hyfryd. Os oes genna’i hangofyr dw i licio ŵy ‘di sgramblo ar dost surdoes efo lot o fenyn.

Pan o’n i tua 16 oed, oedd y dyn oedd yn byw gyferbyn a ni yn Treboeth [Abertawe] – Wncwl Granfil oedden ni’n galw fe – yn Fray Bentos rep a wnaeth e roi llyfr coginio Mary Berry i fi. Mae ryseitiau gwych ynddo fe fel Orlando Beef a Steak Diane. Mae Rhiannon licio llyfrau coginio MOB a Nigella hefyd.

Rysáit Rhiannon

Pasta du (squid ink) gyda chocos a bara lawr

Cynhwysion

Pasta du

Cocos

Bara lawr

Winwns

Tun o domatos wedi malu

Tsili

Garlleg

Sinsir

Parmesan

Dull

Ffriwch ychydig o winwns nes eu bod yn feddal, ac ychwanegwch y tun o domatos, bara lawr a tsili, (Mae Dewi lico fe’n boeth) garlleg a sinsir, ac wedyn y cocos. Gadewch i’r saws goginio am tua 10 munud. Coginiwch y pasta. Cymysgwch y saws a’r pasta gyda’i gilydd. Rhowch Parmesan ar y top. Mae’n edrych yn horrendous pan ti’n gweld o ar y plât achos mae’n ddu i gyd efo’r caws gwyn ar y top ond mae’n flasus iawn!