A hithau’n Ddiwrnod Waldo ddoe (dydd Gwener, Medi 30), mae aelodau 20 o grwpiau drwy Gymru wedi bod yn ymarfer eu doniau llefaru wrth ymbaratoi at y ‘Waldothon’ fawr.

Yn rhan o’r digwyddiad mae 20 o bobol ar draws Cymru yn arweinyddion grwpiau i ddarllen tua 20 o gerddi Waldo Williams.

Mae’r grwpiau yn cael eu cynnal ledled Cymru – o Feidrim i Fangor, o Ruthun i Ffostrasol, o Lwyndyrys i Faenclochog. Y bwriad yw y byddan nhw, drwy’i gilydd, yn darllen holl gerddi’r gyfrol Waldo Williams: Cerddi 1922 – 1970, tua 400 i gyd. Mae cyfle i bobol noddi cerddi am £5 i godi arian tuag at Gymdeithas Waldo.

Un a fydd yn darllen ambell i gerdd fory yw un o olygyddion y gyfrol, y darlithydd Robert Rhys o Brifysgol Abertawe.

“Mae hwn yn gyfle gwych i griw ohonon ni lefaru rhai o’r cerddi fory gyda rhai o staff a myfyrwyr ifanc Adran y Gymraeg – diolch i un ohonyn nhw, Dr Miriam Elin Jones, am drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad,” meddai.

“Yn fwy na’r un bardd arall mae gwaith Waldo yn rym diwylliannol byw yn y Gymru gyfoes, yn ysbrydoli yn lleol yn ardal y Preseli ac yn genedlaethol. Mae gwaith Cymdeithas Waldo yn trefnu digwyddiadau, yn gosod cofebau, yn rhan allweddol o hynny.”

Sôn am atodiad i gyfrol Waldo

Un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd Waldo Williams yn ei oes, Dail Pren, un o gyfrolau enwocaf yr iaith Gymraeg.

Ond sgrifennodd nifer fawr o gerddi eraill, ac fe gafodd llawer iawn ohonyn nhw eu casglu a’u cyhoeddi gan wasg Gomer yn y gyfrol Waldo Williams: Cerddi 1922 – 1970 yn 2014, a gafodd ei golygu gan Alan Llwyd a Robert Rhys.

Mae hi’n gyfrol o dros 650 tudalen ac mae ynddi gerddi cynnar y bardd, rhai y cafwyd hyd iddyn nhw ymhlith ei bapurau, rhai a gyhoeddodd mewn cylchgronau fel Y Ford Gron, rhai Saesneg, a rhai i blant a gyhoeddodd yn ei gyfrol Cerddi’r Plant (1936) gyda’i gyfaill E Llwyd Williams.

“Rydan ni’n darllen ei gywydd syfrdanol i D J Williams fory, a doedd honno ddim yn Dail Pren,” meddai’r golygydd Robert Rhys.

“Dw i’n credu bod y cerddi i ffrindiau a cherddi coffa – fel y rhai i E Llwyd Williams, i W R Evans ac i D J Williams – mae rhywbeth arbennig iawn yn y rheiny.

“Yn raddol, mae pobol yn derbyn bod yna gerddi y tu fas i Dail Pren.

“O’n safbwynt ni, mae’r cerddi cynnar yn ddiddorol o safbwynt ei ddatblygiad e.”

Ers cyhoeddi’r gyfrol, mae rhagor o gerddi gan Waldo wedi dod i’r fei, ac mae Robert Rhys yn gobeithio y gellir eu cyhoeddi fel atodiad i’r gyfrol – o leiaf yn ddigidol os nad mewn print – yn fuan. Mae llyfrau Gomer bellach wedi eu trosglwyddo i wasg y Lolfa.

“Yn fwriadol doedden ni ddim wedi ei alw yn ‘gasgliad cyflawn’,” meddai.

“Mae cerddi’n dod i’r amlwg bob hyn a hyn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd modd cynnwys atodiad mewn argraffiad newydd rywbryd.

“Mae yna gerddi yn dod, ac mae yna bobol eraill wedi darganfod ambell un. Dw i ddim yn siŵr faint sydd gyda ni erbyn hyn, ond rydyn ni’n gobeithio perswadio’r Lolfa rywbryd.”

Un gerdd y byddai’n eu hychwanegu at atodiad yw englyn a lefarodd Waldo mewn sgwrs gyda’r storïwr ffraeth Eirwyn Pontsian. Cafodd y sgwrs ei darlledu ar raglen gyntaf cyfres o’r enw Tapiau Coll Berian Williams ar Radio Cymru ym mis Awst eleni, sef ffrwyth llafur yr ymchwilydd Eurof Williams.

Cymdeithas Waldo

Trefnwyr y Waldothon ar ran Cymdeithas Waldo yw’r cyn-brifathro o Faenclochog, Alun Ifans, a’r Athro Mererid Hopwood, un o lywyddion anrhydeddus y Gymdeithas.

Amcanion Cymdeithas Waldo yw ‘diogelu’r cof am waith a bywyd Waldo Williams a ystyrir yn un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru ac yn fardd o statws rhyngwladol’ a ‘hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth ddyfnach o’i waith yn lleol ac yn genedlaethol’.

Ganed Waldo Williams ar Fedi 30, 1904.

Bu farw yn Hwlffordd ar Fai 20, 1971, ac mae ei fedd ym mynwent capel Blaenconin, Llandysilio yn nwyrain Sir Benfro.

  • Cynhelir y Waldothon ddydd Sadwrn, Hydref 1.