A hithau’n Ddiwrnod Waldo heddiw, mae aelodau 20 o grwpiau drwy Gymru heno yn ymarfer eu doniau llefaru wrth ymbaratoi at y ‘Waldothon’ fawr fory.
Yn rhan o’r digwyddiad bydd 20 o bobol ar draws Cymru yn arweinyddion grwpiau i ddarllen tua 20 o gerddi Waldo Williams. Mae’r grwpiau yn cael eu cynnal ledled Cymru – o Feidrim i Fangor, o Ruthun i Ffostrasol, o Lwyndyrys i Faenclochog.
Y bwriad yw y byddan nhw, drwy’i gilydd, yn darllen holl gerddi’r gyfrol Waldo Williams: Cerddi 1922 – 1970, tua 400 i gyd. Mae cyfle i bobol noddi cerddi am £5 i godi arian tuag at Gymdeithas Waldo.
Un a fydd yn darllen ambell i gerdd fory yw un o olygyddion y gyfrol, y darlithydd Robert Rhys o Brifysgol Abertawe.
“Mae hwn yn gyfle gwych i griw ohonon ni lefaru rhai o’r cerddi fory gyda rhai o staff a myfyrwyr ifanc Adran y Gymraeg – diolch i un ohonyn nhw, Dr Miriam Elin Jones, am drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad,” meddai.
“Yn fwy na’r un bardd arall mae gwaith Waldo yn rym diwylliannol byw yn y Gymru gyfoes, yn ysbrydoli yn lleol yn ardal y Preseli ac yn genedlaethol. Mae gwaith Cymdeithas Waldo yn trefnu digwyddiadau, yn gosod cofebau, yn rhan allweddol o hynny.”
Sôn am atodiad i gyfrol Waldo
Un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd Waldo Williams yn ei oes, Dail Pren, un o gyfrolau enwocaf yr iaith Gymraeg.
Ond sgrifennodd nifer fawr o gerddi eraill, ac fe gafodd llawer iawn ohonyn nhw eu casglu a’u cyhoeddi gan wasg Gomer yn y gyfrol Waldo Williams: Cerddi 1922 – 1970 yn 2014, a gafodd ei golygu gan Alan Llwyd a Robert Rhys. Mae hi’n gyfrol o dros 650 tudalen ac mae ynddi gerddi cynnar y bardd, rhai y cafwyd hyd iddyn nhw ymhlith ei bapurau, rhai a gyhoeddodd mewn cylchgronau fel Y Ford Gron, rhai Saesneg, a rhai i blant a gyhoeddodd yn ei gyfrol Cerddi’r Plant (1936) gyda’i gyfaill E Llwyd Williams.
“Rydan ni’n darllen ei gywydd syfrdanol i D J Williams fory, a doedd honno ddim yn Dail Pren,” meddai’r golygydd Robert Rhys. “Dw i’n credu bod y cerddi i ffrindiau a cherddi coffa – fel y rhai i E Llwyd Williams, i W R Evans ac i D J Williams – mae rhywbeth arbennig iawn yn y rheiny. Yn raddol, mae pobol yn derbyn bod yna gerddi y tu fas i Dail Pren. O’n safbwynt ni, mae’r cerddi cynnar yn ddiddorol o safbwynt ei ddatblygiad e.”
Ers cyhoeddi’r gyfrol, mae rhagor o gerddi gan Waldo wedi dod i’r fei, ac mae Robert Rhys yn gobeithio y gellir eu cyhoeddi fel atodiad i’r gyfrol – o leiaf yn ddigidol os nad mewn print – yn fuan. Mae llyfrau Gomer bellach wedi eu trosglwyddo i wasg y Lolfa.
“Yn fwriadol doedden ni ddim wedi ei alw yn ‘gasgliad cyflawn’,” meddai. “Mae cerddi’n dod i’r amlwg bob hyn a hyn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd modd cynnwys atodiad mewn argraffiad newydd rywbryd.
“Mae yna gerddi yn dod, ac mae yna bobol eraill wedi darganfod ambell un. Dw i ddim yn siŵr faint sydd gyda ni erbyn hyn, ond rydyn ni’n gobeithio perswadio’r Lolfa rywbryd.”
Un gerdd y byddai’n eu hychwanegu at atodiad yw englyn a lefarodd Waldo mewn sgwrs gyda’r storïwr ffraeth Eirwyn Pontsian. Darlledwyd y sgwrs ar raglen gyntaf cyfres o’r enw Tapiau Coll Berian Williams ar Radio Cymru ym mis Awst eleni, sef ffrwyth llafur yr ymchwilydd Eurof Williams.
Cymdeithas Waldo
Trefnwyr y Waldothon ar ran Cymdeithas Waldo yw’r cyn-brifathro o Faenclochog, Alun Ifans, a’r Athro Mererid Hopwood, un o lywyddion anrhydeddus y Gymdeithas.
Amcanion Cymdeithas Waldo yw ‘diogelu’r cof am waith a bywyd Waldo Williams a ystyrir yn un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru ac yn fardd o statws rhyngwladol’ a ‘hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth ddyfnach o’i waith yn lleol ac yn genedlaethol’.
Ganed Waldo Williams ar y diwrnod hwn yn 1904. Bu farw yn Hwlffordd ar 20 Mai 1971, ac mae ei fedd ym mynwent capel Blaenconin, Llandysilio yn nwyrain Sir Benfro.
- Cynhelir y Waldothon am 10 o’r gloch y bore, Sadwrn, Hydref 1 2022