Y flwyddyn ddiwethaf, gwelais gelf drawiadol ar Instagram: ‘Fonesig Venodotia/ Modryb Gwen’ (cyfeiriad at sir Gwynedd). Caiff Cymru ei darlunio fel dynes, gyda’i phen a’i braich fel Gwynedd. Ar ei chefn mae sach o lo: gogledd-ddwyrain Cymru.
Nawr te, mae yna lot o lo yn ardaloedd y gogledd-ddwyrain, yn enwedig ar hyd y ffin. Cefais sgwrs ddifyr draw yn Fforest Ddena, am y wythïen lo sy’n rhedeg o dop y gororau, reit lawr i ardaloedd y ffin yn y de. Mae yna hefyd glai prin coch yn yr ardaloedd hyn – ond mwy am hynny rywbryd arall.
Serch hyn, teimlais braidd yn drist o weld bro fy mebyd yn cael ei ddarlunio fel sach trwm ar gefn Modryb Gwen; baich i Wynedd ei gario? Fel trosiad o’r ffordd y mae’r gogledd-ddwyrain yn cael ei chanfod, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg a’r celfyddydau.
Ardaloedd y gororau
Wrth gwrs, un o’r pethau nodweddiadol am Wrecsam yw ei bod hi ar y ffin, ac felly mae’n mynd i fod yn lle mwy cymysg ei diwylliant ac iaith nag ardaloedd pellennig y gorllewin. Yn wir, pan astudiais y gerdd ‘Alltud’ (W. Leslie Richards) yn Ysgol Morgan Llwyd, roeddwn yn medru uniaethu â hi.
Mae’r gogledd-ddwyrain hefyd hefo hanes a thraddodiadau ynghlwm â’r diwydiannau trwm ac rwy’n browd iawn fod hanes fy nheulu yn rhan o hyn. Roedd teulu fy nhad yn gweithio yn y diwydiant glo, a’i thaid yn löwr yn yr Hafod. Roedd teulu mam yn gweithio yn y diwydiant dur, ac roedd ei thad hi yn swyddog undeb llafur i gwmni adnabyddus John Summers yn Shotton.
Mae fy nheulu hefyd yn nodweddiadol o’r hen fro ôl-ddiwydiannol – dosbarth gweithiol, ddim yn cymryd rhan yn y meysydd celfyddydau, gan gynnwys ysgrifennu. Ond, rwy’n obeithiol fy mod i yn nodweddiadol o’r tuedd yn y genhedlaeth newydd, yn hawlio’n lle yn y celfyddydau cyfoes, gan gynnwys y sin llenyddol Cymreig.
Diwygio’r darlun
Ar ddechrau’r flwyddyn, fues yn ddigon ffodus i fod yn rhan o ‘Creativity is mistakes’, prosiect gan Disability Arts Cymru i artistiaid Cymraeg. Cawsom breswyliad byr yng ngaleri Mostyn, Llandudno, gan greu’r arddangosfa ‘Sense us’. Cawsom hefyd drafodaethau difyr, gan adlewyrchu yn ôl i’n gilydd.
Synnais fod fy adborth yn cynnwys lot am fy nheimladau ynglŷn â thanbrisio’r gogledd-ddwyrain. Meddyliais fy mod wedi canolbwyntio ar anabledd, ond rhaid bod fy isymwybod wedi gwthio’r thema drwodd; sylweddolais fod hyn yn fy mhlagio i ar ryw lefel.
Gan taw preswyliad celf oedd e, ymatebais hefo darn o gelf. Yn fy llun diwygiedig, dw i’n dangos yr ‘awen’ anadferadwy yn dianc o sach Modryb Gwen. Am ryw reswm, wnes i hefyd ychwanegu nodau cerddorol (a serendipedd oedd hyn).
Prosiect ‘Utopias bach’
Un noson yn y Saith Seren, ges i sgwrs hefo dyn ifanc wnaeth fy siomi. Roedd ef a’i ffrindiau mewn band, ac roeddent eisiau cyfieithu lyrics ‘Slipknot’, er mwyn cael eu perfformio; ond doedd neb ar gael i’w helpu.
Tua’r un adeg, des yn ymwybodol o’r rhwydwaith ‘Utopias bach’. Soniais wrthyn nhw am y band, ac am sefyllfa’r Gymraeg yn Wrecsam, a hefyd am y tlodi, amddifadedd a dadryddfreinio yn y Sir (sydd nawr yn ddinas). Roedd gen i syniad o gynnig fy hun fel cyfieithydd a mentor sgwennu lyrics gwreiddiol; helpu pobol leol i sianelu eu profiadau i greu caneuon trawiadol. Cefais grant bach i wneud y gwaith.
‘Jam night’ y Saith Seren a Voicebox
Aeth pethau ddim yn union fel y tybiais y bydden nhw yn ei wneud, ond yr wyf nawr wrthi’n hyrwyddo fy ngwasanaeth, trwy gyfieithu a pherfformio caneuon – ia wir, twist annisgwyl! Mae hyn yn brofiad lletchwith am sawl rheswm, gan gynnwys fy nam clyw cynyddol a chymhleth. Ond ta waeth, mae pob her yn gyfle.
Pythefnos yn ôl, es i ‘Jam night’ y Saith Seren, lle perfformiais ‘Diolch i Dregaron’, yn seiliedig ar ‘Thank you for the music’ (wedi ei pharatoi at Fragdy’r Beirdd yn yr Eisteddfod). Cefais ymateb positif a dychwelais neithiwr hefo cyfieithiad o ‘The Winner takes it all’ (request!), a chân wreiddiol ‘Oes aur Wrecsam’ i dôn ‘Feuilles-O’.
Roeddwn wrth fy modd pan wnaeth un cyfaill ddweud fod clywed y Gymraeg i dôn cyfarwydd yn teimlo’n fwy hygyrch iddo fo, a mwynhaodd glywed yr enwau lleol (Cymraeg) yn ‘Oes aur Wrecsam’; dyma bopeth roeddwn i wedi gobeithio amdano!
Rwy’n bwriadu perfformio’r caneuon yn nosweithiau ‘Voicebox’ hefyd, lle rwyf wedi cael ymateb da i gerddi gyda fersiynau dwyieithog a chaneuon gwerin Gymreig. Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae’n ymddangos bod yna fwy o Gymraeg dan y wyneb, a pharodrwydd hefyd i roi cyfle i’r Gymraeg, sy’n aml ddim yn cael ei dybio. Byddaf yn rhannu’r stori hefo chi yma, wrth iddi ddatblygu. Os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect, plîs cysylltwch: gwasgygororau@gmail.com