Mae gwleidyddion yn Nwyfor Meirionnydd wedi bod yn ymuno â llinell biced streic gweithwyr post yn Nolgellau, gan alw am roi’r gwasanaeth post mewn dwylo cyhoeddus.

Mae aelodau Undeb y Gweithwyr a Chyfathrebu (CWU), sy’n cynrychioli nifer o weithwyr y Post Brenhinol, yn streicio dros gytundeb cyflog o 2% na chafodd ei gytuno ac sydd, yn ôl yr undebau, wedi’i orfodi ar weithwyr ac sy’n diystyru chwyddiant cynyddol a’r argyfwng costau byw.

“Ymunais â gweithwyr post lleol ar y llinell biced yn Nolgellau i ddangos fy nghefnogaeth, wrth iddynt frwydro am well tâl ac amodau gwaith teg,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn Nwyfor Meirionnydd.

“Mae Plaid Cymru yn gwbl gefnogol i weithredu diwydiannol gan weithwyr y Post Brenhinol. Maent yn darparu gwasanaeth allweddol y mae miliynau ohonom yn dibynnu arno bob blwyddyn a dylai’r gweithwyr gael iawndal addas am eu gwaith.

“Dangoswyd eu pwysigrwydd yn glir yn ystod pandemig Covid-19 pan oedd gweithwyr ar y rheng flaen yn danfon nwyddau hanfodol i gartrefi yng Nghymru a gweddill y DU.

“Mae gan yr undeb fandad clir i gynnal y streic hon yn dilyn pleidlais o 97.6% o blaid gyda’r nifer a bleidleisiodd yn 77%.

“Mae ein gweithwyr post yn haeddu setliad tâl teg a chyfiawn. Ni ddylent orfod derbyn dirywiad yn eu safonau byw.

“Rwyf felly yn cefnogi eu galwad am godiad cyflog sy’n cyfateb i’r cynnydd yng nghostau byw, ond yn bwysicach rwy’n cefnogi eu galwadau i gynnal eu trefniadau gweithio presenol sy’n holl bwysig mewn ardal wledig fel hon.

“Nid yw’n dderbyniol disgwyl iddynt orfod dosbarthu llythyrau a pharseli yng nghanol y nos mewn amodau gaeafol mewn cymunedau gwasgaredig.”

Apêl

“Gyda’r argyfwng costau byw yn dangos dim arwydd o leihau a gyda phrisiau ynni yn cynyddu eto – rhaid i gyflogau gadw i fyny â chwyddiant neu bydd gweithwyr yn wynebu toriad yn eu henillion,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd.

“Ni ddylai gweithwyr post fod yn dlotach yn ystod argyfwng costau byw, yn enwedig pan gyhoeddodd y Post Brenhinol elw o £758 miliwn y llynedd.

“Rwy’n apelio ar benaethiaid y Post Brenhinol i barchu hawl gweithwyr post i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol er mwyn cyflawni nodau cyfreithlon.

“Maent yn defnyddio eu hawl i brotestio yn erbyn codiad cyflog islaw chwyddiant a bygythiadau o foderneiddio’r gwasanaeth.

“Yn y pen draw methiant oedd preifateiddio’r Post Brenhinol.

“Mae Plaid Cymru yn credu y dylid dod â’r gwasanaeth allweddol hwn i berchnogaeth cyhoeddus yng Nghymru a’i redeg er budd ein cymunedau, gan sicrhau bod gweithwyr yn derbyn parch yn y gwaith gyda chyflogau ac amodau gwaith teg.”